±«Óãtv

Hanes bywyd Sant John Roberts

Sant John Roberts

19 Gorffennaf 2010

Bu farw'n 33 oed - yn ferthyr yn Llundain

  • Ganwyd John Roberts yn Rhiw Goch, Trawsfynydd ym 1577. Mae'n debyg iddo gael ei fedyddio yn Eglwys Madryn, Trawsfynydd. Credir iddo fyw wedyn naill ai yn y Gelli Goch neu Dyddyn Gwladys, Trawsfynydd.
  • Ef oedd mab hynaf Robert ac Anna Roberts. Roedd yn frawd i Ellis, Cadwaladr, Gwen, Margaret ac Ellen.
  • Mae ei linach yn mynd yn ôl i Cunedda ac ymysg rhai o'i hynafiaid uniongyrchol mae: Maelgwn Gwynedd, Rhodri Fawr, Hywel Dda, Gruffydd ap Cynan ac Owain Gwynedd.
  • Ymysg ei hynafiaid anuniongyrchol mae: Dewi Sant, Uthr Pendragon, y Brenin Arthur, Owain Glyndŵr, Llewelyn Fawr, Llewelyn ein Llyw Olaf.
  • Mae'n debyg mai mab fferm oedd o. Ond rhaid cofio mai'r system gyntaf-anedig oedd yn gweithredu yn y cyfnod. Rhiw Goch oedd fferm y teulu ac fe aeth honno i ewythr John Roberts, nid i'w dad.
  • Yn Rhiw Goch y magwyd Robert Lloyd, aelod seneddol cyntaf Meirionydd a chefnder John Roberts.
Llun arall o Sant John Roberts

  • Yr oedd teulu John Roberts yn eithaf cefnog a hynny'n ei alluogi i fynd i'r coleg.
  • Credir iddo gael ei addysg gynnar gan hen fynach a ddifeddiannwyd o Abaty Cymer, wedi i Harri'r VIII gau'r mynachlogydd.
  • Magwyd John Roberts yn Brotestant ac aeth i Goleg Sant Ioan, Rhydychen, ar Chwefror 26, 1595, i gael ei addysg ond gadawodd a mynd i Furnival's Inn i astudio'r gyfraith.
  • Bu'n teithio'r Cyfandir a thra ym Mharis trodd yn Babydd yn eglwys gadeiriol Nôtre Dame.
  • Aeth i Bordeaux ac wedyn i'r Coleg Saesneg yn Valladolid, Sbaen. Wedi blwyddyn yno aeth i Abaty Sant Benedict, Valladolid, ac wedyn yn nofydd yn Abaty Sant Martin yn Santiago de Compostella.
  • Wedi iddo gael ei ordeinio aeth i genhadu yn Lloegr ac ef oedd y mynach cyntaf i ddychwelyd i Loegr wedi i Harri'r VIII ddiddymu'r mynachlogydd.
  • Er bod ysbiwyr y llywodraeth yn ei ddilyn llwyddodd i lanio yn Lloegr.
  • Daliodd yr awdurdodau ef bedair neu bum gwaith - unwaith ym mis Tachwedd 1605 yn ystod Brad y Powdr Gwn.
  • Ar bob achlysur wedi cyfnod byr o garchar dedfrydwyd ef i alltudiaeth.
  • Yn ystod y cyfnod pan oedd y Pla Du yn ymledu trwy Gymru a Lloegr bu John Roberts yn gweini ar gleifion yn Lundain.
  • Yn 1610 dychwelodd i Loegr am y tro olaf er ei fod yn gwybod mai dienyddiad fydda'r gosb pe cai ei ddal. Un diwrnod tra'r oedd yn ei urddwisg ac yn gorffen yr Offeren aethpwyd ag ef i Newgate.
  • Cafwyd ef yn euog o uchel frad ac fe'i dienyddiwyd ar Ragfyr 10, 1610, trwy ei grogi, ei ddadberfeddu a'i chwarteru. Ymgasglodd tyrfa fawr yn dyst i'r digwyddiad gan iddo ddod mor boblogaidd ymysg y tlodion yn ystod cyfnod y pla.
  • Er mai'r arfer oedd dadberfeddu person tra'r oedd yn dal yn fyw ni chaniatawyd hynny gan y dorf yn achos John Roberts gan fod ei garedigrwydd yn dal yn fyw yn eu cof.
  • Traddodiad arall oedd bod y dadberfeddwr wedi'r weithred yn dal y galon i fyny gan ddatgan, "Wele galon bradwr!" Byddai'r dorf wedyn yn ateb "Hir oes i'r Brenin". Ond y tro hwn roedd y dorf yn fud.
  • Roedd John Roberts yn 33 oed pan gafodd ei ddienyddio gydag un offeiriad arall a 16 o Ffelwmiaid.
  • Ond nid yw'r stori'n diweddu â'i farwolaeth. Wedi'r dienyddiad aeth y mynachod â'r corff i Douai yn Ffrainc. Ond roedd un goes wedi disgyn i ddwylo'r gelyn. Aethpwyd â rhannau o'i gorff i Goleg Sant Gregory, coleg yr oedd ef yn un o'i brif sefydlwyr ym 1606-7. Roedd y coleg yn hyfforddi offeiriaid i'r genhadaeth Saesneg.
  • Aethpwyd â rhannau eraill o'i gorff i Valladolid a Santiago de Compostella ond diflannodd y rhain yn ystod y Chwyldro Ffrengig a'r Chwyldro Sbaenaidd.
Llun John Roberts ar faner yn y gwasanaeth  i'w gofio yn Llundain Gorffennaf 17 2010

  • Mae un o'i fysedd yn Eglwys Gatholig Blaenau Ffestiniog; un arall mewn lleiandy yn Tyburn a thrydydd yn Taunton.
  • Darganfuwyd un o'i freichiau'n ddiweddar ym meddiant teulu brenhinol Sbaen. Erbyn hyn mae hi yn Santiago de Compostella.
  • Gellir gweld dau lun gwahanol o John Roberts yn Eglwys Gatholig Gellilydan a rhyw ddeng mlynedd yn ôl gosodwyd llun ohono yn Valladolid. Gosodwyd cerflun ohono mewn eglwys ym Mhortiwgal tua'r un pryd.
  • Mae dau gerflun yn Abaty Downside ger Caerfaddon, prif ganolfan Benedictaidd Prydain. Yma hefyd ceir llawer o wybodaeth ysgrifenedig amdano ac mae un o dai'r ysgol wedi ei enwi ar ei ôl.
  • Cynhelir gwasanaeth i'w goffáu ar ddiwrnod ei ferthyrdod, Rhagfyr 10, bob yn ail flwyddyn yn Eglwys Gatholig Gellilydan ac Abaty Cymmer.
  • Ddiwedd y 1950au a dechrau'r 1960au daeth nifer o Wyddelod ar bererindod i Drawsfynydd gan ymgasglu yn neuadd y pentref i'w drafod.
  • Pan ddathlwyd ei fywyd yn Rhiw Goch ar Orffennaf 21, 1960, yr oedd dros fil o Gatholigion o bob rhan o ogledd Cymru yno.
  • Enwyd Eglwys Gatholig ar ei ôl yng Nghorwen ond mae honno wedi ei chau a'i gwerthu erbyn hyn.

Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.