±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y llyfr
'Maen ddirgelwch!'

Golwg newydd ar neges carreg fedd Llangadwaladr


Ebrill 2003

Whispering Reeds, o waith Charles Thomas, gan Oxbow Books. £12.95.
Adolygiad gan Gwyn Griffiths

Ar fur gogleddol corff eglwys Llangadwaladr ar arfordir de-orllewin Ynys Môn mae carreg fedd ac arni arysgrifen Ladin hynod glodforus o'r brenin Cadfan (brenin Gwynedd rhwng oddeutu 614 a 628,gyd a'i lys yn Aberffraw ychydig filltiroedd i fyny'r hewl).

Y maen  bellach wedi ei ymgorffori  yn y mur oddi mewn i'r eglwysCyfeirir at y garreg yn llyfr John Davies ar Hanes Cymru lle mae'n casglu fel y gwnaeth eraill o'i flaen fod yn rhaid bod Golwg gliriach ar lythrennau'r garregCadfan yn dipyn o ddyn i haeddu'r fath glod ag sydd ar y maen.

Ond dydi awdur llyfr newydd ddim mor siwr. Yn Whispering Reeds dywed archeaolegydd o Gernyw, Charles Thomas, fod i'r arysgrifen ensyniadau cudd sy'n bwrw'r sen mwyaf ar goffadwriaeth y brenin.

Yn wir, o dderbyn ymresymu rhyfeddol Charles Thomas, mae'r arysgrifen yn ymylu ar fod yn bornograffi!

Hynafol a charbwl

Mae ffurf y llythrennau yn hynafol - carbwl hyd yn oed - ond yn ôl y ditectif geiriau o Gernyw, mae i hynny, hyd yn oed, arwyddocâd.

Dyma ddywed yr ysgrifen ar y garreg:
CATAMANUS
REXSAPIENTISI
MUSOPINATISM
USOMNIUMREG
UM

Wrth y geiriau naddwyd croes a honno wedi ei gosod ar ei hochr.

Mae'r geiriau wedi eu torri mewn ffordd sy'n awgrymu hwyrach fod y naddwr bron yn anllythrennog ac yn dilyn rhywbeth a roddwyd iddo i'w gopio gan rywun arall.

Y mae hyn oll yn rhywbeth a ddyfalwyd cyn diddordeb Charles Thomas bu Syr Ifor Williams a Nash Williams yn crafu eu pennau am y garreg gyda Syr Ifor yn methu deall y cam sillafiad Catamanus.

I wneud synnwyr ohonynt, fodd bynnag, rhaid torri'r geiriau fel hyn: CATAMANUS REX SAPIENTISIMUS OPINATISIMUS OMNIUM REGUM.

Sef yn llythrennol: Catamanus (Cadfan) Frenin, doethaf ac enwocaf o'r holl frenhinoedd.

Y bumed a'r wythfed ganrif

Yn ôl Charles Thomas mae cerrig o'r fath, gydag arysgrifen Lladin bron yn ddieithriad yn dyddio o'r cyfnod rhwng y bumed a'r wythfed ganrif OC ac yn gyffredin yn Iwerddon ac gorllewin Prydain.

Yr hyn sy'n anghyffredin am y garreg arbennig hon, meddai, yw ardderchogrwydd y disgrifiad o frenin cymharol ddi-nod.

Yn ôl Thomas mae'r ffurf Ladin o Cadfan a ddefnyddir - CATAMANUS - yn anghywir. Gellid disgwyl CATUMANUS, CATUMANDUS neu hyd yn oed CATUMANNUS.

Ffurf dyn?Mae o'n gweld arwyddocad arbennig i hyn o safbwynt dehongli'r ysgrifen a thorri côd y mae o'n gredu sydd ynghudd yn y llythrennau.

Rhaid darllen y llyfr i ddeall yn union ei ddadansoddiad cymhleth.
Digon yw dweud yma fod Thomas yn gweld, o edrych ar y garreg o'r ochr dde tuag at y groes amlinell ffalig ei natur o ddyn -gyda'r groes ei hun yn ben iddo.
Haws gweld hyn o droi'r llun ar ei draed fel petai.

Mae'r llythyren A ddwywaith wedi ei thorri'n anghelfydd yn debyg i'r gwagle ym mhelfis y corff ac yn y lle cywir, meddai.

O ail osod y llythrennau mewn pedair llinell gyflawn mae o'n cael:
C A T A M A N U S R E X
S A P I E N T I S I M U
S O P I N A T I S I M U
S O M N I U M R E G U M

O gysylltu'r llythrennau sydd yr un fath ceir darlun arall nad yw gweddustra'n caniatau ei ddatgelu nac ymhelaethu arno yma - digon yw dweud ei fod yn ffurf soffistigedig iawn o'r math o bôs a geir yn gyffredin mewn llyfrau posau.

Ffantasiol?
Mae'r cyd-ddigwyddiadau'n llawer rhy niferus i'w hanwybyddu yn ôl Charles Thomas - sy'n arbenigwr ar archaeoleg a hanes y cyfnod Cristnogol cynnar ac yn gyn-Athro Astudiaethau Cernywaidd ym Mhrifysgol Caerwysg (Exeter).

Rhywiol a thwp

Heb ymhelaethu, felly, beth yw'r neges gudd mae o'n ei gweld yn ysgrifen y garreg? Wel, fod Cadfan yn berson o archwaeth rywiol anghyffredin, yn hoff fenywod a bechgyn; a'i fod cyn dwped ac mor ystyfnig ag asyn.

Ac yn ôl Thomas llwyddodd y sawl â luniodd y garreg i guddio ei enw ei hun ymhlith y llythrennau.

Drwy weithio tuag at yn ôl o ddiwedd yr arysgrif a nodi'r seithfed llythyren bob tro, canfyddir yr enw Issiu a oedd yn esgob o Wyddel a gysylltir ag eglwys Patrishow ym Mannau Brycheiniog.

Yn Llyfr Llandaf yr enw oedd Merthir Issiu!

Dywed Charles Thomas na fuasai Issiu wedi adnabod Cadfan ond bu yn llys Brenhinoedd Gwynedd yng nghyfnod ei fab Cadwallon a'i wyr Cadwaladr. Dyfelir mai ar gais Cadwallon y bu iddo lunio arysgrif i'w gosod dros weddillion Cadfan. Maentumia Thomas mai Issiu ei hun a dorrodd y llythrennau "carbwl" ar y garreg.

Egluro pam

Ond pam? Nid yw Charles Thomas yn gwneud unrhyw ymdrech i gynnig rheswm.

Rhoddaf gynnig arni. Yn dilyn cyfnod cymharol heddychlon Cadfan cododd Cadwallon yn erbyn Edwin, brenin y Saeson, a chyda cymorth Penda, brenin Mersia, adenillodd diroedd Northumbria i'r Cymry am flwyddyn.

Doedd Penda ddim yn Gristion ac er bod Cadwallon yn proffesu bod yn Gristion, yn ôl y croniclwr gwrth-Gymreig hwnnw, Beda, nid oedd yn ddim amgen na anwariad.

Lladdwyd Cadwallon yn fuan wedyn gan Oswald yn 634. Roedd Oswald wedi teulio cyfnod yn alltud yn Iwerddon a chan y mynaich yno y cafodd ei addysgu yn y ffydd Gristnogol. Yn wir, wedi iddo ddod yn frenin anfonodd am fynaich o Iwerddon i ddod i addysgu'r Saeson.

Ymddengys, felly, y bu i Gadwallon yn ystod ei Eglwys Llangadwaladrdeyrnasiad, gydweithio gyda'r pagan Penda, tra roedd Saeson eraill yn gyfeillgar gyda'r Gwyddelod.

Hwyrach y buasai hynny'n egluro atgasedd Issiu tuag at Gadwallon - atgasedd a fynegodd ar y garreg yn eglwys hynafol Llangadwaladr.


Eglwys Llangadwaladr


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy