±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Lle i Enaid Gael Llonydd
Eglwys Llangadwaladr

Eglwys hynafol gyda mwy nag un trysor


Ebrill 2003

Lle i Enaid Gael Llonydd; Serch - dyfyniadau wedi eu dethol gan Tegwyn Jones. Cyfres Dymuniadau Da. Gwasg Carreg Gwalch. £2.99.


SerchNid yn unig y mae Gwasg Carreg Gwalch yn un o rai prysuraf Cymru ond y mae hi hefyd ymhlith y goreuon am weld tyllau yn y farchnad a chyhoeddi rhywbeth sydd yn mynd i ffitio pocedi.

Dyfyniadau

Un enghraiff o hynny yn llythrennol ac yn ffigurol oedd y gyfres yna o ddetholion clasuron llenyddiaeth Gymraeg. Yn yr un traddodiad, newydd weld golau dydd mae'r ddau lyfr cyntaf mewn cyfres arall debyg o ran maint, syniad a phris.

Dyfyniadau byrion ar wahanol bynciau yw cynnwys Cyfres Dymuniadau Da ac os yn chwilio am anrheg o'r math y gellir ei roi mewn sanau Nadolig mae'r llyfrau hyn heb eu hail.

Dyfyniadau am dawelwch, tangnefedd a hedd yw cynnwys Lle i Enaid Gael Llonydd gyda Serch yn cynnwys dyfyniadau am hwnnw yn ei wahanol agweddau.

Llyfrau bychain ydyn nhw yn mesur ond chwe modfedd efo pedair ac yn 64 tudalen.

Mae'r dyfyniadau wedi eu dewis gan Tegwyn Jones.

Gobaith Gwasg Carreg Gwalch yw y bydd pobl yn anfon y llyfrau hyn yn lle anfon cerdyn, ebost neu beth bynnag pan am ddymuno'n dda i rywun.

Digon o bleser

Mae'n syniad gwerth chweil achos er yn fyr o ran hyd y mae'r llyfrau hyn yn hir o ran y pleser y gellir ei gael ohonyn nhw a gellir troi atyn nhw dro ar ôl tro.

Erbyn y bydd y gyfres wedi ei chwblhau mae rhywun yn rhagweld y bydd gan ei pherchen gyda'r casgliad gorau posibl o ddyfyniadau Cymraeg.

Yn wir, fe fyddwn i wrth fy modd pe byddai Carreg Gwalch yn cyhoeddi yr adeg honno un casgliad cyflawn o'r dyfyniadau i gyd gyda mynegai awduron a geiriau.

Ar dystiolaeth y cyfrolau cyntaf hyn gellir dweud yn eithaf sicr y byddai honno yn gyfrol gwir werth chweil - yn enwedig a ninnnau, o gymharu â'r Saeson, mor brin o gyfrolau dyfyniadau.

"Mae'r ddwy gyfrol gyntaf," meddai'r wasg wrth gyhoerddi'r rhain, "yn llawn dyfyniadau am serch a chariad a lleoedd yng Nghymru sy'n iechyd i'r enaid.

"Ar achlysur neilltuol neu ar unrhyw ddydd o'r wythnos, maent yn dweud neges arbennig wrth eu cyflwyno yn anrheg fach i rywun."

Barddoniaeth a rhyddiaith

Mae'r dyfyniadau yn gymysgedd o farddoniaeth a rhyddiaith ond pob un yn fyr ond yn amrywio'n fawr o ran awduraeth o weithiau ein beirdd a'n llenorion cynharaf fel Dafydd ap Gwilym i gynnyrch beirdd sy'n dal i gyfansoddi heddiw fel Myrddin ap Dafydd a Dewi Pws.

Mae'r hyn a gawn yn Lle i enaid Gael Llonydd yn ymestyn o Adfeilion T. Glynne Davies i gywydd mawreddog Goronwy Owen i'w Fôn dirion dir, Hyfrydwch pob rhyw frodir.

O Gysgod y Cryman cawn ddisgrifiad synhwyrus Islwyn Ffowc Elis o ddyfodiad yr hydref;
"Daeth yr hydref i Arfon gyda byddin o liwiau. . ." ac yn y blaen.

Mae Ystrad Fflur T. Gwynn Jones , Cwm Pennant Eifion Wyn, Ynys Llanddwyn Emyr Huws Jones a ac Aberdaron Cynan mor hudolus ag erioed.

Geiriau o gariad

Ymhlith y dyfyniadau serch mae disgrifiad y Pedair Cainc o gyfarfyddiad Pwyll a Rhiannon a'r geiriau o ganiad Solomon a drysorwyd wedyn gan Ann Griffiths, "Fy anwylyd sydd wyn a gwridog yn rhagori ar ddengmil" a byddai wedi bod yn braf cael yr adnod a'r emyn ochr yn ochr.

Yr un mor drawiadol yw'r disgrifiad rhyddiaith barddonol o Olwen o chwedl Culhwch ac Olwen.

Mae'r amrywiaeth yn y gyfrol hon eto yn ganmoladwy yn rhychwantu fel ag y mae Ganiad Solomon a Dewi Pws.

Go dda Carreg Gwalch.
Glyn Evans
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy