±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb



Pwy Fase'n Meddwl
Cyfrol yn llawn straeon ac anecdotau difyr gan y dyn PR, David Meredith.


Mawrth 20, 2003


Pwy Fase'n Meddwl gan David Meredith. Gomer. 192 tud. £8.95

Adolygiad gan Glyn Evans

Pe byddai yna y fath beth â Gorsedd cysylltiadau cyhoeddus yng Nghymru David Meredith fyddai'r archdderwydd.

Mae'n gyfarwydd i ni newyddiadurwyr fel un o hynafgwyr y maes ac yn cael ei gysylltu'n bennaf â chwmni teledu HTV, er mai yn hyrwyddo ac yn rhoi gwedd dda ar agweddau corfforaethol S4C y bu iddo ddirwyn ei yrfa i ben.

Yn gymeriad hwyliog, bob amser yn llawn bywyd a brwdfrydedd daeth ei enw dros y blynyddoedd yn gyfystyr â HTV i lawer ac nid oes amheuaeth y bydd diddordeb mawr yn y gyfrol hon ymhlith y rhai a gydweithiodd ag ef y tu mewn a'r tu allan i'r diwydiant teledu dros y blynyddoedd.

Mae'n cychwyn gyda'r pethau sylfaenol ac y mae'r adran sy'n ymwneud â'i fagwraeth a lle mae'n hel atgofion am ei blentyndod yr adran gyda'r ddifyraf o gyfrol sy'n llawn straeon ac anecdotau.

Magwraeth ddiwylliedig
Yr oedd yn fagwraeth gyfoethog a diwylliedig iawn gyda David Meredith yn fab i weinidog blaengar a mam ddiwylliedig, Y Parchedig J. E. ac Elizabeth Meredith.

Ar yr aelwyd bu'n dyst i ymweliadau gan eraill o'r un natur ddiwylliedig a dylanwadol a hwythau. "Oedd, roedd ein ty ni yn fwrlwm o fywyd ac yn gyrchfan i ffrindiau a theulu o bell ac agos," meddai wrth ddarlunio magwraeth yn brothio o ddiwylliant a gwerthoedd.

Mynegi rhyw fath o ryfeddod ar ran yr awdur iddo gael dros y blynyddoedd gymaint o brofiadau difyr a chymaint o gwmnïaeth pobol o ddylanwad y mae Pwy fase'n meddwl y teitl ac yr ydym ninnau y darllenwyr fod i gyd-ryfeddu mae'n debyg.

Perygl mwyaf cyfrol o'r fath fyddai iddi droi yn gynhaeaf pobl enwog ac y mae yna reseidiau o bobl o wahanol raddau o enwogrwydd wedi eu cribinio i sgubor Pwy Fase'n Meddwl?

Weithiau mae'r ymgyfathrebu yn fwy o gysylltiad nag o adnabyddiaeth - yn fater o fod wedi bod mewn lle arbennig ar adeg arbennig oherwydd dyletswyddau gwaith. Mae'r trafod bob amser yn well pan yw'n deillio o adnabyddiaeth yn hytrach na'r cysylltiadau dyletswyddol hyn.

Croesi llwybrau'r enwogion

Mae'r rhestr enwogion yn amrywio o Tom Jones (y canwr) i Huw T. Edwards; o Anthony Hopkins i'r Arglwydd Harlech ac o Eartha Kitt i Clinton a David Meredith yn ddiolchgar iddo fod mewn swydd a barodd iddo groesi'u llwybrau.

"Pe bawn i wedi aros ym myd dysgu neu ym myd twristiaeth (lle dechreuodd o weithio), ni chredaf y byddwn fyth wedi cyfarfod â'r cymeriadau y cyfarfum â hwy . . ." meddai.

Efallai i HTV ac S4C ei fendithio ef â phrofiadau difyr ond bu yntau, yn ei dro, yn was triw, effeithiol a chyda'r mwyaf egnïol iddynt hwythau fel y gwyddom ni bobol y wasg.

"Mae'n iâr i'n sâl!"
Pa mor frysiog bynnag rai o'r cyfarfyddiadau yn y gyfrol, mae gan David Meredith y ddawn i odro straeon digon difyr ohonynt fel pan ddigwyddodd daro ar Barry - Dame Edna Everidge - Humphreys mewn ty bwyta yng Nghaerdydd.

"Ydych chi'n dod i weld fy sioe i?" holodd Humphreys. "Allai ddim," atebodd yr awdur, "Rhaid imi fynd adre i ogledd Cymru. Mae'n iâr i'n sâl!"

Ac nid yw'n syndod i sgwrs a ddechreuodd fel yna ddiweddu yn fwy swrrealaidd fyth ......

Y mae yma hefyd godi rhywfaint ar len y byd teledu yng Nghymru er efallai fod y trafodaethau ennill cytundebau i deledu yng Nghymru o fwy o ddiddordeb i rai sy'n gysylltiedig â'r maes ac a oedd yn dilyn y digwyddiadau ar y pryd nag i'r darllenydd cyffredin sy'n mwynhau yn fwy dwy stori am ddau y bu'n gosod fflat yn ei dy iddyn nhw - un yn cael ei garcharu a'r llall yn diflannu.

"Gall dirgelwch o'r fath droi'n hunllef - ac fe wnaeth, ac y mae!" meddai David Meredith. Mae llawer o'r sôn yn y rhan am S4C yn ymwneud â helfeydd Oscars a gwobrau gwyliau ffilm rhyngwladol gyda'r ganmoliaeth eto yr un mor hael ac anfeirniadol ac ydoedd i HTV - fel y byddai rhywun yn y'i ddisgwyl gan ddyn PR.

Cyfrol ddifyr, hawdd ei threulio gyda digonedd o luniau.




Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy