±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb



Mil o bunnau am stori fer

Ond does dim llawer o amser ar ôl!!




Mae'r beirniaid yn prysur hogi eu cynheddfau beirniadu wrth i ddyddiad cau cystadleuaeth sgwennu stori fer rhaglen ±«Óãtv Radio Cymru, Y Celfyddydau, ddynesu.

Y dyddiad cau ydi Dydd Llun Mehefin 16, 2003, ac yn barod mae yna 30 o straeon wedi dod i law yn barod meddai Rhisiart Arwel, cynhyrchydd y rhaglen.

Ond fyddai o ddim yn synnu derbyn mwy - "Yn y gystadleuaeth cyfansoddi darn corawl y llynedd daeth bron bob cais i fewn ar y diwrnod olaf un. Gawn ni weld," medda fo.

Ta beth mae gan y tri beirniad sydd ymhlith ein llenorion mwyaf blaenllaw ddigon i'w drafod yn barod a bydd yn rhaid dod i benderfyniad cyn diwedd Gorffennaf gydag enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar rifyn arbennig o'r Celfyddydau sy'n cael ei ddarlledu ddydd Sul, Gorffennaf 27 am 14.30.

Aled IslwynBydd rhan o'r stori yn cael ei darllen ar y rhaglen gydag un o'r beirniaid yn traddodi beirniadaeth lafar.

Gobeithiwn gyhoeddi'r stori fuddugol ar wefan Llais Llen yn syth wedi hynny ac hefyd grynodeb o'r feirniadaeth.

Mae'r tri beirniad yn llenorion o fri sydd wedi ennill prif wobrau rhyddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol - Aled Islwyn (uchod) yn enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn 1980 ac Angharad Price newydd dderbyn gwobr Llyfr y Angharad PriceFlwyddyn gyda'r gyfrol a enillodd iddi y Fedal Ryddiaith yn Nhyddewi y llynedd, O Tyn y Gorchudd.

Mae hi hefyd yn un o'n beirniaid llenyddol amlycaf.

Mae'r trydydd beirniad, Robin Llywelyn, wedi ennill y Fedal Ryddiaith ddwywaith - yn 1992 ac yn 1994 - gyda nofelau dadleuol ac arloesol. Mae yntau hefyd, fel y ddau arall, yn feirniad llenyddol o bwys yn y Gymru gyfoes.

Robin LlywelynMae Y Celfyddydau yn cynnig gwobr o £1,000 am y
stori fuddugol - o gymharu a gwobr o rhyw £200 sy'n arferol yn yr Eisteddfod Genedlaethol .

Giftynnwyd am straeon o hyd at 4,000 o eiriau gyda'r testun yn gwbl agored. Does dim rhaid i ymgeiswyr ddilyn unrhyw thema benodol ychwaith.

"Ond bydd yn rhaid i'r gwaith fod yn wreiddiol ac heb ymddangos mewn print o'r blaen," meddai Rhisiart Arwel, cynhyrchydd Y Celfyddydau.

Datgelir enw'r buddugol yn ystod cyfres newydd o Y Celfyddydau ym mis Gorffennaf.

Disgrifiodd Rhisiart Arwel hwn fel cyfle heb ei ail i awduron "arddangos eu talentau yn llawn, mewn cyfrwng mor arbennig â'r stori fer".

Rhaid i'r ymgeision gyrraedd Canolfan y ±«Óãtv yng Nghaerdydd erbyn pump o'r gloch ddydd Llun, Mehefin 15 fan bellaf gyda ffugenw wrth bob stori ac amlen dan sêl yn cynnwys enw, cyfeiriad llawn a rhif ffôn yr ymgeisydd.

Y cyfeiriad yw:
Cystadleuaeth Stori Fer, Y Celfyddydau, ±«Óãtv Radio Cymru, Ystafell 2001, Y Ganolfan Ddarlledu, Llandaf, Caerdydd CF5 2YQ.

Ebostiwch am fwy o fanylion a rheolau:



Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy