±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Rana Rebel
Nofel 'bron yn berffaith' Bardd Plant

Terfysgaeth, trais a rhyddid mewn rhyw wlad

Chwefror 2003

Rana Rebel gan Menna Elfyn. Gwasg Gomer. £4.95. Ar gyfer rhai 12 - 16 oed.

Adolygiad gan Meirion Puw Rees


Dyma lyfr cyfoes sy'n ymdrin â llawer o bynciau difrifol iawn fel terfysgaeth, diffyg hawliau a chrefydd, a hyn i gyd gan fardd plant Cymru 2002 - 03.

Dyma beth ddywedodd Menna Elfyn am ei nofel mewn cyfweliad yn Golwg:
"Fy mwriad i oedd sgwennu stori yn ddamhegol ond hefyd yn codi cwestiynau gwleidyddol."

Yn fy marn i mae hi wedi llwyddo.

Sylwadau gwleidyddol

Mae yna sylwadau gwleidyddol yn y llyfr, er enghraifft, wrth feddwl am ei sefyllfa tua diwedd y nofel mae Jas, un o'r prif gymeriadau, yn dweud:
"Crefydd eto, meddyliodd. Ble bynnag y mae trwbwl yn y byd, mae a wnelo'r peth â chrefydd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd."

Mae yn y nofel elfen gref iawn o ddirgelwch, yn enwedig o gwmpas y prif gymeriad, Rana.

Wrth inni ddysgu mwy am orffennol trist Rana mae'r brif ddadl yn dod i'r fei - annibyniaeth a hawliau plant a rhyddid i fyw bywyd heddychlon - yr hyn mae Rana yn gwir gwffio amdano.

Merch bymtheg oed

Rana RebelPymtheg oed yw Rana ond yn byw bywyd Rebel ers yn ifanc iawn. Pan fu farw ei thad bu'n rhaid iddi, fel plentyn hynaf y teulu, fynd i gwffio dros ei phobl.

Mae'r stori yn cychwyn pan fo Rana yn helpu dau o hogia', Jas ac Abu, i ddianc o afael y gelyn, ac yn eu helpu i droi cefn ar yr ymladd.

Nid wyf am ddatgelu mwy am blot y llyfr, neu byddaf yn difetha'r darllen ond rhaid imi ddweud nad yw ei ddiwedd yn un hapus ac er nad yw'n annisgwyl ar un wedd, mae'n dipyn o sioc.

Mae'r nofel yn cychwyn yn gyffrous ac yn codi chwilfrydedd yn syth:
"Damia!" hisiodd y llais. Rhewodd Rana. Daliodd ei hanadl. Rhedodd law ar ei chalon fel pe bai'n ofni y byddai pob curiad yn taro fel drwm yng nghlust y gelyn. Y gelyn. Y gelyn oedd yn agos iawn erbyn hyn."

Mae'n defnyddio brawddegau byrion i gyfleu y panig ac mae'r arddull yma drwy'r llyfr mewn mannau pwrpasol.

Biti fod gwall teipio mor agos i ddechrau'r llyfr, 'fe' yn hytrach na 'fel' yn y drydedd frawddeg.

Adlais o'r bardd

Menna ElfynWeithiau mae y bardd yn Menna Elfyn i'w glywed, mewn brawddegau fel,
'Rhwng arafwch y melodiau, a gwres y dydd cwympodd i gwsg peraidd.'

Mae rhywbeth yn ein suo yn y geirau ac yn cyfleu llithro i gysgu yn effeithiol iawn.

Gwendid y nofel, fodd bynnag, yw ei bod yn symud yn rhy sydyn weithiau gan y'i gwneud yn anodd dilyn y stori bob tro.

Mae hi hefyd yn neidio o un lle i'r llall ac er bod hyn yn creu chwilfrydedd a chyffro, nid yw bob amser yn eglur beth sy'n digwydd a phwy ydi pwy.

Pa wlad?

Mi fyddwn hefyd wedi hoffi cael mwy o syniad o leoliad yn y llyfr, er enghraifft, ym mha wlad mae'r holl helyntion yn digwydd?

Mae yma rhyw syniad ein bod mewn gwlad drofannol, fforest law, enwau egsotig fel Rana, Jas ac Abu, teigrod, ffrwythau fel mango a leim yn tyfu, ond nid yw'n bosib ei lleoli yn union.

Weithiau dwi'n meddwl ein bod yn Ne Affrica, wedyn yn y Dwyrain Pell dro arall yn y Dwyrain Canol.

Efallai fod hyn yn fwriadol ond mae'n amlwg yn lle ansefydlog a pheryg iawn lle mae gormes yn rhan o fywyd.

Bron iawn yn berffaith

Fel arall mae'r nofel bron iawn yn berffaith!
Y plot yn gyffrous ac arddull yr awdur yn sicrhau eich bod yn ysu i gael gwybod beth sy'n digwydd nesaf trwy'r amser.

Mae Menna Elfyn yn gollwng darnau bychain o'r stori ond byth yn datgelu dim byd mawr ar unwaith ac felly yn cadw'r diddordeb.

Treisgar

Mae'n llyfr gweddol dreisgar o ran ei gynnwys ac yn sôn am derfysgaeth ac yn y blaen gyda golygfeydd graffig iawn fel Abu yn cael ei orfodi i losgi ty a theulu ynddo.

"'Doedd dim dewis ganddyn nhw. Gorfodwyd y ddau i arllwys y petrol o'u caniau yn gylch o gwmpas y ty…..'

Mae'r stori yn mynd yn ei blaen i egluro ofn Jas ac Abu a sut maent yn cael eu gorfodi, neu golli eu bywydau eu hunain, i losgi y ty a'r teulu sydd ynddo.

O'r herwydd, nid yw'r llyfr yn addas i rai dan 12 oed - ond efallai y byddai ambell oedolyn yn mwynhau y nofel.

Mae yma ddarlun da o blant sy'n byw dan fygythiad trais parhaus ac mae'n gyfoes iawn ei neges.
Darllenwch.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau





Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy