±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Byd Bethan
Byd lliwgar Bethan Gwanas

Bywyd nad yw'n syml yn destun llyfr diddorol

Chwefror 2003

Byd Bethan gan Bethan Gwanas. Gwasg Gomer. £5.95.

Adolygiad gan Catrin Jones.


Rygbi, siopa, DIY, 'sgwennu a theithio.
Ydi mae byd Bethan Gwanas yn un lliwgar tu hwnt. A hanes y byd hwnnw a gawn ni yn y gyfrol 'Byd Bethan'.

Ond does dim byd yn syml ym mywyd Bethan Gwanas a dyna sy'n gwneud y llyfr hwn yn un mor ddifyr.

Edrych fel Barbara Cartland!

Cawn ei hanes yn mynd i Fanceinion gyda'i ffrind i gael 'makeover a photo shoot' wedi i'w ffrind ennill cystadleuaeth.

Wedi'r holl edrych ymlaen nid yw'r diwrnod yn ddim ond artaith llwyr wrth i'w chroen a'i gwallt gael ei dynnu bob siâp a hithau, wedi'r holl boen, yn cael ei throi i edrych fel Barbara Cartland.

Dyna'r gwyliau hunllefus hwnnw yn Lloret de Mar wedyn a hithau'n gorfod aros mewn "stafell fel bocs sgidiau" lle roedd "ceisio cysgu fel byw mewn ffilm Batman" gyda'r criw drws nesa yn "waldio'i gilydd drwy'r nos".

Fel lloi i'r lladd-dy

A'r profiad erchyll wedyn o fynd i uchafbwynt y gwyliau pecyn hwnnw, sef y parti mawr, "fel lloi i'r lladd-dy" i chwarae gemau gwirion oedd "yr enghraifft greulonaf o greulondeb y ddynol ryw".

Ydi mae Bethan Gwanas yn ei dweud hi go iawn a gyda'i disgrifiadau byw o'r digwyddiadau mae yma ddigon i wneud i chi chwerthin.

Does dim amheuaeth nad yw ei byd yn un hynod liwgar ond mae hefyd yn fyd-eang iawn.

O Enlli i Nigeria

Er bod hoffter Bethan Gwanas o'i chynefin yng nghefn gwlad Meirionnydd yn amlwg drwy gydol y llyfr mae yn ein tywys ar draws y byd yn ystod y gyfrol.

O Rydychen i Nigeria ac o Ynys Enlli i Ynysoedd y Blasketts oddi ar arfordir Iwerddon. Mae darllen ei phrofiadau yn ddigon i berswadio unrhyw un i godi pac.

Yn ogystal ag adrodd hanes digwyddiadau a phrofiadau mae Bethan Gwanas yn dweud ei barn yn ddi flewyn ar dafod ar faterion cyfoes y dydd.

Mae'n trafod hiliaeth, plastic surgery, addysg ac yn pregethu yn o arw am gyflwr yr A470 a'r daith hir, hunllefus, i'r brifddinas, rhywbeth y bydd amryw yn gallu uniaethu ag ef!

Casgliad o erthyglau papur newydd

Y rheswm am y penodau hyn yw am mai cyfres o erthyglau a gyhoeddwyd yn wreiddiol yng ngholofn wythnosol Bethan Gwanas yn Yr Herald yw'r gyfrol hon.

Ond er bod tipyn o amser ers i rai o'r erthyglau gael eu cyhoeddi am y tro cyntaf, maen nhw'n dal yn berthnasol heddiw a dydi'r penodau hynny lle mae'r awdures yn lleisio'i barn ar y byd a'i bethau yn amharu dim ar rediad y llyfr.

Mae'r holl erthyglau wedi eu cyd-blethu'n hynod o dda ac yn wir mae'r gyfrol yn darllen fel nofel.

Yn union fel nofel felly fe allwch ddarllen y llyfr hwn ar ei hyd o'r dechrau i'r diwedd a'i fwynhau.

Y dewis arall, wrth gwrs, yw ei ddarllen wrth eich pwysau gan bori ynddo fel y mynnoch a gallwch wneud hynny heb amharu ar eich mwynhad o'r gyfrol.
Dod i adnabod y teulu
A does dim rhaid i chi fod yn gyfarwydd â'r awdures a'i gwaith chwaith gan fod hanes ei bywyd, ei magwraeth a'i theulu yn cael ei wau yn ofalus drwy'r gyfrol.

Mae 'Byd Bethan' yn gweithio fel rhyw fath o hunangofiant hefyd gyda lluniau wedi eu gosod yng nghanol y cyfan sy'n ychwanegu elfen bersonol.

Ydi, mae hwn yn llyfr gwerth ei ddarllen, yn ysgafn, difyr a doniol ac wedi ei ysgrifennu mewn dull ffres a ffraeth.

Os ydych chi wedi cael hen ddigon ar y byd a'i bethau trowch am ychydig oriau i gael cipolwg ar fyd Bethan, a hyd yn oed os nad ydych chi'n edrych ar fywyd yr un fath â hi mae'r gyfrol gyda'i disgrifiadau byw a'i harddull ddi flewyn ar dafod yn sicr o godi gwên.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau



Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy