±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfr
Cymro'n rhoi ei enw i America

Damcaniaeth llyfr newydd

Chwefror 2003

Amerike: the Briton who gave America its name gan Rodney Broome, Sutton Publishing, £14.99

Adolygiad gan Dafydd Meirion

Christopher Columbus ddarganfyddodd America ac Amerigo Vespucci roddodd ei enw i'r byd newydd.
Dyna'r gred arferol.
Ond na, yn ôl Rodney Broome.

Pysgotwyr o Fryste

Does yna fawr o sôn yn y llyfr i'r Indiaid fod yno ers 20,000 o flynyddoedd ond yn ôl Mr Broome roedd pysgotwyr o Fryste yn hwylio'n rheolaidd ar draws Mare Oceanum (yr enw ar Fôr Iwerydd hyd yr 16eg ganrif, neu'r Atlantic Ocean yn Saesneg, sef y môr y tu hwnt i Fynyddoedd Atlas, Gogledd Affrica, chwedl y Rhufeiniaid) i'r Terra Incognita o leiaf ugain mlynedd cyn i Columbus fentro yn 1492.

Noda, hefyd, fod yna Ddaniaid a Basgiaid wedi bod yno cyn hynny, ond dydy Madog ddim yn cael sylw nes cyrraedd y Nodiadau ar y cefn.

Beth bynnag, mae Cymro arall, neu un o dras Gymreig beth bynnag, yn cael ei sylw. Er mai enw Richard ap Meurig neu Amerike sy'n deitl i'r llyfr, rhaid cyrraedd o leiaf chwarter ffordd drwy'r gyfrol cyn dod at ei enw.

Damcaniaeth y llyfr ydy mai Amerike roddodd ei enw i gyfandir America yn hytrach nag Amerigo.

O hil tywysogion

Wedi mordaith Columbus yn 1492, mentrodd John Cabot ar draws yr Iwerydd yn 1497, a masnachwyr Bryste fu'n gyfrifol am ariannu'r daith.

Un o brif fasnachwyr Bryste ar y pryd oedd Richard Amerike a allai olrhain ei achau'n ôl i dywysogion Gwynedd.

Roedd yn perthyn i Hywel ap Meurig, un o dywysogion Brycheiniog, oedd â'r un arfbais ag Amerike.

Credir fod tad Richard Amerike wedi ei eni ar y ffin â Lloegr ac wedi symud i Fryste i fasnachu mewn gwlân.

Erbyn yr 1470au, roedd Richard Amerike yn un o 250 o fasnachwyr rhyngwladol yn y ddinas a chofnodir gwahanol fersiynau o'i gyfenw, Ap Meric, Ap Meryk yn ogystal ag Amerike.

Nid yn unig roedd Amerike yn masnachu mewn gwinoedd a sbeisus ond roedd hefyd yn delio mewn penfras hallt o Wlad yr Iâ.

Tua'r gorllewin

Wedi trafferthion rhwng Brenin Lloegr a Brenin Denmarc, gwaharddwyd y Saeson rhag teithio i Wlad yr Iâ a bu'n raid chwilio am ffynonellau eraill. Dyna pryd y gyrrwyd morwyr Bryste tua'r gorllewin.

Roedd hen hanesion Celtaidd am dir mil o filltiroedd i'r gorllewin, yn arbennig Ynys Brassyle (yr Wyddeleg am Ynys y Rhai a Fendithiwyd, sydd â dim cysylltiad â Brazil fodern a gafodd ei henw o'r gneuen) ac Ynys y Dair Dinas.

Amerike oedd un o'r masnachwyr a dalodd am daith Cabot, oedd yn dilyn yn bennaf fapiau'r pysgotwyr.

Y ddamcaniaeth

Damcaniaeth yr awdur yw fod y pysgotwyr wedi rhoi eu henwau eu hunain ar gilfachau a thraethau yn y Byd Newydd, a chan mai Amerike oedd wedi talu am nifer o'u teithiau, dywed mai'r tebygrwydd yw fod o leiaf ran o'r cyfandir newydd â'r enw tir Amerike?

Ceir cyfeiriadau lu at y mapiau a ddefnyddiodd yr anturiaethwyr cynnar, ac mae Broome yn cyhuddo Columbus o ddwyn mapiau'r pysgotwyr nid yn unig er mwyn croesi'r Iwerydd ond i'w defnyddio'n sail i'w fap ei hun.

Cafodd y map yma ei yrru gan Vespucci, oedd yn ei adnabod yn dda, i argraffydd mapiau yn Yr Almaen a roddodd yr enw America ar y byd newydd.

Ond, o bosib, wedi cwynion gan Columbus, mewn argraffiadau diweddarach gadwyd yr enw America allan a defnyddiwyd Terra Incognita.

Gwrthod talu

Mewn mapiau diweddarach o eiddo'r Saeson hefyd, defnyddir yr enw Terra Incognita ond daethpwyd ar draws cofnod fod Amerike wedi gwrthod talu pensiwn y Brenin i Cabot am gofnodi rhan o'r Byd Newydd fel tir Seisnig.

Yn nes ymlaen, derbyniodd Cabot ei arian ac mae'r mapiau erbyn hynny yn dangos y gair America.

Ai Amerike roddodd bwysau ar Cabot i ddefnyddio'i enw ar y Byd Newydd?

Mewn llythyr oddi wrth Columbus at ddug yn Sbaen, cofnodir fod Cabot wedi enwi nifer o ynysoedd a darnau o dir ar ôl ei ffrindiau; nid yw'n enwi Amerike ond fyddai hwnnw ddim wedi clywed amdano, beth bynnag.

Felly, mae dau reswm dros ddadlau mai ar ôl Amerike yr enwyd Y Byd Newydd - y pysgotwyr o Fryste a theyrnged Cabot i'w ariannwr.


Er bod Vespucci yn anturiaethwr ei hun, doedd o ddim yn un o'r rhai cyntaf i ddilyn y ôl troed Columbus - Cabot oedd hwnnw.

Sêr a streips

Cyd-ddigwyddiad arall yw mai sêr a stribedi oedd ar arfbais Amerike, fel sydd ar faner America heddiw!

Ac mae sôn fod plât metel wedi'i ddwyn oddi ar fedd merch Richard Amerike tua 1800 a'i fod yn America erbyn hyn - efallai gan ddisgynnydd i'r teulu sydd eisiau cofnod mai ei deulu o roddodd yr enw i'r cyfandir.

Mae'n llyfr difyr iawn er, ar brydiau, fod rhywun yn cael y teimlad mai esgus ydy dadlau achos Amerike ac mai llyfr ydy hwn mewn gwirionedd am fasnachwyr Bryste a'u rhan hwy mewn datblygu masnach â'r Byd Newydd.

Ond i ni Gymry, mae'n ddifyr meddwl y gallai Cymro fod wedi rhoi ei enw i gyfandir sydd - y rhan ogleddol ohono o leiaf - wedi chwarae rhan mor allweddol yn hanes y byd ers ei ddarganfod bum can mlynedd yn ôl.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy