±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Môr o brofiad

Ton ar ôl ton o bleser mewn cyfrol am deulu hynod
Dydd Iau, Ionawr 16, 2003




Morwyr y Cilie gan Jon Meirion Jones. Cyhoeddiadau Barddas. £15.
Adolygiad gan Gwyn Griffiths


Mewn oes pan fo’r mwyafrif o lyfrau Cymraeg a gyhoeddir yn fach a thenau amheuthun yw cyfrol sylweddol Morwyr y Cilie gan Jon Meirion Jones.

Mae’n fawr ei maint, sylweddol iawn ei chynnwys ac yn chwaer barchus i’w gyfrol flaenorol, Teulu’r Cilie, a gyhoeddwyd ym 1999.

Fferm y CilieMae cyfanswm y gwaith ymchwil ynddo’i hun yn syfrdanol ac ychwanegol at y portreadau difyr o’r 11 aelod o’r teulu amryddawn a fentrodd i’r môr cawn ddarlun gwerthfawr o ddigwyddiadau canrif gythryblus drwy lygaid dynion a merched cyffredin.

Cyffredin eu byd anghyffredin eu doniau

Cyffredin eu byd – oherwydd doedd dim arall yn gyffredin am deulu’r Cilie.

Simon B. Jones - y B. am Bartholomew - oedd yr unig un o’r genhedlaeth gyntaf i fynd i’r môr. Sy’n gwneud imi fod eisiau gofyn a enwyd ef ar ôl Bartholomew Roberts, Barti Ddu, un o’n morladron enwocaf.

Yn ôl yr awdur, taflodd Simon B. ei bladur i ganol ysgall Pen Foel Gilie a mynd i’r môr.

Aeth cyn belled a Buenos Aires lle torrodd ei ddwy goes mewn damwain ddrwg a dyna ddiwedd ei yrfa forwrol.

Rownd yr Horn

Er hynny, myn yr awdur mai ef oedd y morwr enwocaf ohonynt - am iddo ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933 am ei bryddest Rownd yr Horn.

Mae sawl hanesyn da yn y bennod am Simon B. Fel y bu’n holi’r hen gapteiniaid yng Nghaerfyrddin am eu profiadau nhw’n hwylio o gwmpas Cape Horn.

A’r stori ardderchog mai Prosser Rhys, Golygydd Y Faner, a’i hysbysodd mai ef oedd enillydd y Goron ac yn hawlio cyfweliad ecscliwsif am y newydd a’r papur ar werth yn union wedi’r seremoni!

Bythefnos wedi cael y newydd gan Prosser Rhys y cafodd y bardd wybod yn swyddogol gan awdurdodau’r Eisteddfod mai ef oedd yr enillydd!

Hanes cymdeithas

Nid hanes bechgyn y Cilie yn unig a geir yn y gyfrol ond hanes cymdeithas arfordir godre Ceredigion, y capteiniaid oedd yn hwyluso’r ffordd i’r bechgyn lleol gael lle ar long.

Daeth tri ohonyn nhw i’r brig – yr Uwchgapten Dafydd Jeremiah Williams, y Capten John Etna Williams a’r Capten Jac Alun Jones (tad Jon Meirion Jones) - pob un yn fardd er nad oroesodd dim o waith y Capten John Etna.

Aeth ag Odl a Chynghanedd Dewi Emrys gydag ef i’r môr ond bu’n garcharor gan y Siapaneaid a thros dro "collodd ei ddiddordeb yn y pethau".

Darnau mwyaf hwyliog y gyfrol

Cymeriad lliwgar arall oedd Fred Williams, brawd Dafydd Jeremiah a John Etna, a "neidiodd long" yn Awstralia a byw yno am bum mlynedd. Dychwelodd a setlo lawr yn ei hen fro.

Mae ei helyntion yn yr ±«Óãtv Guard yn un o ddarnau mwyaf hwyliog y gyfrol, yn enwedig gwreiddioldeb ei gofnodion yn y "llyfr boncyff" (log book).

Mae cannoedd o englynion yn y gyfrol. Dweud y gwir, mae’r awdur yn manteisio ar bob cyfle ac esgus i lusgo englyn, cywydd neu gerdd i’r stori – ond dyna fe, byddant yn help i’r gwerthiant.

Hoffais yr englyn Saesneg hwn gan Fred Williams – un o dri am Yr ±«Óãtv Guard ar Gwm Tydu:

United in our duty, - here we are
The pride of the party;
And tonight – we’d fight if we
Met Adolph at Cwm Tydu.

Canada a Llundain

Mae yma ddarlun ardderchog o fywyd Thomas Ellis Jones a dreuliodd gyfnod fel lumberjack yng Nghanada ac Elfan James Jones aeth ar un fordaith ac wedyn mynd yn blismon yn Llundain lle’r oedd adeg gorymdeithiau Oswald Mosley.

Profiadau Jac Alun Jones, wedyn, ac yntau’n Gapten llong drwy’r ail ryfel.

I mi, a fagwyd ar Blodau’r Ffair – cylchgrawn a fu’n llwyfan perffaith i feirdd Y Cilie – Jac Alun oedd yr enwocaf a’r mwyaf lliwgar o’r teulu.

Gerallt Jones, wedyn ...

Mae hon yn yffach o gyfrol - er bod yr awdur yn or- dueddol i ddilyn ysgyfarnogod a gresyn na fuasai rhyw olygydd tua Barddas wedi tocio mymryn ar ei frawddegau weithiau.

Ond pan ydych chi wedi hel cymaint o ddeunydd difyr, mân lwch y cloriannau yw hyn.

Gresyn, hefyd, na chafodd y clamp o lyfr ardderchog hwn ei rwymo’n well. Mae fy nghopi i’n ymddatod yn barod er ei bod yn gyfrol naturiol i bori ynddi’n achlysurol ar ôl ei darllen drwyddi.

- cyfrol flaenorol Jon Meirion Jones

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy