±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Llain yn Llyn
Hen gyfaredd -
ac R S Thomas yn chwarae coets!

Profiadau awdur a ddychwelodd i fro ei dadau

Dydd Iau, Ionawr 9, 2003

Llain yn Llyn gan Arfon Huws. Gwasg carreg gwalch. £4.95.

Adolygiad gan Ioan Mai Evans


Llais pensaer wedi ymddeol i Fwlchtocyn ar benrhyn Llyn, cynefin ei hynafiaid sydd yma. Llais a'm sgytwodd o ddarllen un o'i sonedau, Llyn 2050, lle mae'n proffwydo

estron gyn yn sgythru ar lechen las
The last to speak Welsh dwelt in this house
Pa ryfedd fod yr halen ar fy moch
Wrth loetran ym Mhen Cei yn Abersoch


Llinellau a roddodd imi hergwd ymhell yn ôl i Gernyw lle gweir bedd yr olaf i siarad y Gernyweg. Fy atgoffa hefyd o ddarllen Y Wers Ola gan Daudet a'r pnawn y rhois fy nhroed ar Ynys Clare yn ne Iwerddon a chael fy nghyfri'n estron nes iddynt synhwyro mai Cymro oeddwn.

Dychwelyd i dir ei dadau

Er i'r awdur, Arfon Huws, gael ei eni yn Lerpwl a graddio gydag anrhydedd mewn Pensaerniaeth yng Nghaerdydd, rhoes ei fryd ar ddychwelyd i wlad ei dadau yn Llyn.

Ymddeolodd yn 1988. Trodd at farddoni ac ysgrifennu ac hefyd ymdaflu i waith fel ysgrifennydd Cyfeillion Llyn, aelod o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli a hefyd o lys a chyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ac o Orsedd y Beirdd.

Does ryfedd felly fod ei gyfrol yn cynnwys cant o gyfansoddiadau yn amrywio o englynion i limrigau a rhyddiaith.

Teimla, weithiau, ei fod yn alltud yn ei wlad ei hun:
Er hynny, ar fyr ennyd
Af yn ôl i'r fan o hyd
oedd ei ddeisyfiad.

Dro arall teimlwn ei fod, fel Saunders Lewis, yn galw ei gyfeillion - y Prifardd o Gilan, Alan Llwyd, a'i ddwyster o golli cenedlaetholwr fel Herbert Thomas, Ficer Llannor, Gladys Williams, Riffli
O wirfodd, ei hoes hirfaith - a dreuliodd
Yn drylwyr i'w mamiaith,

neu gofio Anita Griffith
yn estyn ei dwyster
dros weundir Rhoshirwaun
hyd niwlen Anelog

a sawl un arall.

Di-dderbyn wyneb

Cawn ambell deitl fel Eto Fyth yn ddadlennol a di-dderbyn wyneb:
Yn Abersoch bu rhyw sôn - am rinwedd
Marina i Saeson
Gwyliwn swyn y cynllwynion
I elwa'n yr hafan hon.

Mor annwyl fydd Marina - i'r rhai
Sy'n rhydd i segura
Daw anobaith diweithdra
Ar y dôl ar ôl yr ha.


Llwyddodd dro arall i fod yn ddigon digrif wrth stwffio pedair C i un limrig:

Dwy LL yn Llanelli - dim trafferth,
Dwy A yn Y Bala - dim penbleth
Dwy S yn Caersws
Ond o'r ffasiwn ffws
I ganfod sawl C sydd yn Cricccieth.


Seigiau o ryddiaith

Trowch at y seigiau o ryddiaith sydd yn y gyfrol.
A oedd y bardd R. S. Thomas, yn deithiwr mor aflonydd â'r brenin Arthur? Feddyliais i erioed am y peth nes darllen y darn Chwarae Coets lle mae sôn am Goeten Arthur nid nepell o gartre'r bardd ar un adeg, islaw llethrau Mynydd y Rhiw.

Ond beth a symbylodd RS i gychwyn Cynghrair Chwarae Coets yn Llyn?

Dyma agwedd cwbl newydd ar fywyd R. S. Thomas a chof da gan yr awdur am y noson yn chwarae coets ar gae ysgol yn Llyn.

"I sicrwydd bu RS yn taflu coets cyn y noson ond ni chawsom wybod ymhle na pha bryd.

"Cododd fymryn ar ei ên a chyffyrddodd awel ysgafn ei wallt am eiliad. Cadwodd ei fraich yn syth ac fe ysgythrwyd yr eiliad ar fy nghof am byth.

"Nid ydyw darlun olew Thomas Jones, Pencerrig, sy'n crogi ar fur yr Amgueddfa Genedlaethol yn gwneud cyfiawnder o gwbl â'r ddelwedd o'r bardd Cymreig. Yno, ar gae chwarae'r ysgol ym Mhen Llyn y gwelwyd hwnnw," meddai.

Cyfrol ddiffuant

Dyma gyfrol ddiffuant na allaf i ond ategu cyflwyniad y diweddar Gruffudd Parry iddi:

"Mae'n gweld arwyddocâd ehangach y cynefin cyffredin ac yn, a thrwy'r cyfan, yn crisialu ei Gymreictod a'i Fyw, yn sicr ei grefft ac yn glir ei welediad.

"Cyn hyn doedd Sgubor Ddegwm yn ddim ond enw ar gartref y teulu ym Mwlchtocyn. Bellach, mae holl bryderon ac ofnau y bygythiad am ddifodiant cenedl ynddo. A dyna gamp celfyddyd.
"
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy