±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol
Dihareb o lyfr!

Casgliad difyr o ddiarhebion ac idiomau - i ddysgwyr yn bennaf

Dydd Iau, Ionawr 9, 2003


Cryno-ddysg y Cymry. Diarhebion ac Idiomau i Ddysgwyr gan Cennard Davies. Gwasg Prifysgol Cymru. £5.99.

Mae'n ymddangos mai'r Oesoedd Canol oedd cyfnod aur diarhebion.

Cennard DaviesOnd, ar ôl bod yn addurniadau anhepgor ar iaith daethant yn bethau i'w difrïo maes o law a bach yw y deunydd ohonyn nhw erbyn heddiw.

Mwy o drueni fyth yw bod llai fyth o greu rhai newydd.

Fodd bynnag y mae i'r ddihareb o hyd rhyw apêl arbennig ac ar ei gorau gall fod yn brawf o gyfoeth iaith - yn farddoniaeth mewn dillad bob dydd.

I ddysgwyr a'r rhai sy'n dysgu dysgwyr gallant fod yn 'anifeiliaid' anodd iawn y'u trin achos er mor gyfforddus yw dihareb mewn un iaith dydi hi ddim yn trosi'n hawdd i iaith arall - yn enwedig o'i chyfieithu'n llythrennol.

Bydd, Cryno-ddysg y Cymry, yn gyfaill da i'w gael yn y cyfyngder hwnnw.

Torchi llewys

Casgliad yw o 165 o ddiarhebion ac idiomau gyda nid un unig gyfieithiad o'u hystyron ond enghreifftiau o'u defnydd hefyd.

Mae'r awdur, Cennard Davies o'r Rhondda, yn un sydd wedi gwir dorchi'i lewys gyda, a thros, ddysgwyr dros y blynyddoedd.

Ni fu ffrwyno ar ei ymroddiad a'i gefnogaeth yn lleol ac yn genedlaethol ym maes Cymraeg i oedolion, yn cynnal dosbarthiadau ac yn cyhoeddi llyfrau i hwyluso'u tasg.

Ef yw awdur Sefyllfa a Sgwrs, Gweld Dweud a gwneud, Lluniau Llafar, Dros y Bont, Y Geiriau Bach a Torri'r Garw ac y mae hefyd yn gadeirydd Consortiwm Iaith Morgannwg.

Mae Cryno-ddysg - lecio'r teitl, gyda llaw - yn ychwanegiad buddiol i'r maes ac yn gyfrol fydd o ddiddordeb i eraill ar wahân i'r "dysgwyr profiadol" yr anelir atyn nhw.

Dewisodd ddiarhebion sydd, ar y cyfan, yn eitha cyfarwydd ond go brin y bydd pob un yn adnabyddus i bawb.

Yr hyn y mae'n ei gynnig yw cyfieithiad llythrennol o bob dihareb, eglurhad o'r ystyr ac wedyn enghraifft o'i deunydd gydag o leiaf un idiom arbennig o fewn yr enghraifft honno.

Mae'r gyfrol yn cloi gyda geirfa a rhestr o'r holl idiomau yn amrywio o, a dweud y gwir, i beirniadu'n hallt, bwrw gwreiddiau, yn ôl y sôn, yn graig o arian ac yn y blaen.

Hanes y ddihareb

Mewn rhagymadrodd mae'n rhoi peth o hanes y ddihareb gan ddweud:

"Yn ystod yr Oesoedd Canol, mae'n debyg y byddai diarhebion yn cael eu defnyddio'n aml wrth siarad, ac erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg, byddent yn cael eu hystyried yn addurn angenrheidiol ar iaith lafar ac iaith ysgrifenedig gwyr diwylliedig yr oes.

"Fodd bynnag, erbyn diwedd yr ail ganrif ar bymtheg roedd eu seren dan gwmwl, ac ym marn un awdur o Sais nid oeddent ond yn 'vulgar sayings, only fit for ignorant men'. Barn y nofelydd Jane Austin amdanynt oedd eu bod yn 'gross and illiberal'," meddai.

Nid pawb oedd mor unllygeitiog a chyn cyhoeddi unrhyw lyfrau o gwbl, meddai Cennard Davies, roedd llawysgrifau yn y ddeuddegfed ganrif yn cynnwys casgliadau o ddiarhebion Cymraeg - Llyfr Du o'r Waun (13g) Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest (14g) er enghraifft.

Iolo Morganwg

"Gwelai Iolo Morganwg werth diarhebion a dywedodd . . . ei fod ef ei hun wedi rhestru 'upwards of 60,000' a berthynai i'w annwyl Forgannwg," meddai Cennard Davies gan ychwanegu mai ofn mawr Iolo oedd "y byddai Methodistiaeth yn bygwth yr hen ddysg, a chredai fod angen cofnodi'r cyfoeth a oedd ar lafar gwlad ar fyrder cyn iddo ddiflannu am byth."

Yn hynny o beth, bu'n ysbrydoliaeth "i nifer o hynafiaethwyr amatur y bedwaredd ganrif ar bymtheg."

Casgliadau mwy diweddar y mae'n eu henwi yw un gan William Hay yn 1955 a Diarhebion Cymraeg - Welsh Proverbs gan J. J. Evans a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 1965.

Er nad yw'n cael ei grybwyll gan Cennard Davies y mae casgliad hynod o ddifyr Gwernyfed a gyhoeddwyd yn y Genhinen yn 1884 a 1895 o "Ddiarhebion Lleol" ardal Merthyr Tudful i'w gweld ar wefan Cymru-Catalonia ar y We.

Tebyg at ei debyg

Buddiol yng Nghryno-dddysg y Cymry . yw croes gyfeiriadau Cennard Davies at ddiarhebion eraill sy'n dweud yr un peth mewn ffordd wahanol..

Er enghraifft, dan Natur y cyw yn y cawl y mae'n ein cyfeirio hefyd at:
Ail fam fydd y ferch
Anodd dwyn dyn oddi ar ei dylwyth
Fel y fam y bydd y ferch
Lle crafa'r iâr y piga'r cyw
Tebyg i ddyn fydd ei lwdn

A than Hir ei dafod, byr ei wybod
mae'n tynnu sylw hefyd at
A wyr leiaf a ddywed fwyaf
Mwyaf trwst llestri gweigion
Hoff gan bob aderyn ei lais ei hun
Mwyaf ei fost, lleiaf ei orchest.

sydd â'u hadran eu hunain yn y llyfr.

Gwahanol ddehongliad

O ddarllen yr eglurhad mae'n ddiddorol sylwi hefyd sut y gall yr un ddihareb olygu rhywbeth ychydig yn wahanol mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Er enghraifft i mi mae'r ddihareb neu ddywediad Pen punt a chynffon ddimai yn cyfleu'r neges debyg i'r dywediad Saesneg am geiniogwerth o dar yn difetha llong ond ychydig yn wahanol i'r disgrifiad amrwd hwnnw - gyda'i ensyniad o ragrith - o ferch mewn côt ffwr ond heb nicyrs!

Hynny yw, fe'i defnyddir i ddisgrifio rhywun y mae ei holl wisg yn hynod drwsiadus ar wahân i un eitem - rhywun mewn siwt grand ond â hen fflachod am ei draed.

Y dehongliad yn Cryno-ddysg, ar y llaw arall, yw ei fod yn ddywediad sy'n cyfleu person "sy'n ymddangos yn grand ond sydd, mewn gwirionedd, yn dlawd" sydd yn ystyr ychydig bach yn wahanol ac yn nes at y "Fur coat and no nickers" Saesneg.

Gorau cyfaill - llyfr daByddai'n gwbl annheg sôn am y llyfr hwn heb dynnu sylw hefyd at y cartwnau du a gwyn gan Rhys Bevan Jones ochr yn ochr â rhai o'r diarhebion.

Maen nhw'n hyfryd a llawn hiwmor.

Cyfrol fuddiol i ddysgwyr ac un ddifyr i unrhyw un arall sy'n ymhyfrydu mewn iaith a'i chyfoeth a'i nodweddion

Holi awdur


Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy