±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Diolch am weledigaeth

Taflu goleuni newydd dros gelfyddyd y Celtiaid

Dydd Iau, Ionawr 2, 2003

Y Weledigaeth Geltaidd - John Meirion Morris. Y Lolfa £24.95
Pedair seren
Adolygiad: Lois Eckley

Does dim syndod mawr yn newis John Meirion Morris o destun yn ei lyfr newydd, Y Weledigaeth Geltaidd.

Yn gerflunydd amlwg sydd wedi anwesu’r traddodiad Celtaidd yn ei waith ei hun, bu’r llyfr yn gyfrwng newydd iddo ategu at yr hyn y mae eisoes yn ei ddweud yn ei waith.

Symbolau yn eglur

Mae’r llyfr lliwgar yn astudiaeth o waith y Celtiaid yn bennaf o gyfnod La Tene, a thrwy iaith a delweddau daw symbolau yn eglur.

Yr hyn sydd yn amlygu yn y llyfr yw’r cymhlethdod oedd yn perthyn i’r bobl hyn a dadl John Meirion Morris yw bod mwy o ystyr yn perthyn i’r patrymau plethedig na’r hyn sydd wedi ei ddadansoddi cyn hyn.
.
Gyda geiriau mae'n rhoi cnawd ar gyfnod a chreiriau sydd wedi bod yn y niwl i nifer o haneswyr ac, yn raddol, mae’r awdur yn ein tywys ni o ddelweddau a thlysau i arfau mewn rhyfel gan gyflwyno gogwydd newydd ar siapiau a chelfyddyd sy’n hen hysbys inni
.
Ymdrech yw’r astudiaeth hon i ddangos fod y Celtiaid mor gynnar a chyfnod La Tene 500 CC a 100 OC yn ymwybodol o fywyd a marwolaeth a myfyrdod - hynny yw llonyddwch ysbrydol.

Gall yr awdur gynnig engreifftiau inni i gynnal ei ddadl a'i ddamcaniaethau - ond dyna’r oll all e wneud gan mai ond barn, damcaniaeth a dehongliad a allwn ni ei chynnig bellach ynglyn a gwir ystyr celfyddyd y Celtiaid, wrth gwrs
.
Ac yn hynny o beth, mae’r llyfr yma yn ddarlleniad ffres o gelfyddyd a adawyd yn y pridd yn hanesyddol ers tro
.
Diolch felly i John Meirion Morris am ddod a'r byd Celtaidd yn ôl i’r amlwg gan godi ar yr un pryd nifer o gwestiynau a thaflu goleuni newydd dros bobl a oedd o bosib yn fodau gyda mwyaf soffisdigedig eu cyfnod

am y llyfr

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy