±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb



Gwneud golchi dwylo yn hwyl

Tywysoges fach fuddiol i'r plant


Mai 2003

Cyfres y Dywysoges Fach. Colli Dant; Golcha Dy Ddwylo a Chwaer Rydw i Eisiau. Gwasg Carreg Gwalch. £4.50 yr un.

Llyfrau tlws yn ceisio annog plant i wneud y pethau iawn fel golchi eu dwylo cyn bwyta ac ar ôl bod yn y ty bach ydi'r rhain.

Yn ôl y clawr mae'n gyfres sydd wedi cael "derbyniad gwych" gan rieni ac ysgolion "mewn sawl iaith ar draws y byd".

Cyfeirir at gyfuniad o hiwmor a thestun trafod.

Gellir ychwanegu at hynny luniau rhagorol a chymeriadau doniol fel Llyr Llwy Bren y cogydd, y Forwyn Ferona ac Anwen Agor yn Fawr y ddeintyddes.

Yn Saesneg yr ymddangosodd y llyfrau gyntaf a chan mai Myrddin ap Dafydd biau'r addasiad Cymraeg gallwn fod yn hyderus fod y Gymraeg yn naturiol ac yn llithrig ac wedi ei saernïo yn y fath fodd ag i ychwanegu at eirfa'r plant bychain fydd yn ymhél â'r llyfrau.

Maen nhw'n llyfrau sy'n addas ar gyfer plant sy'n dechrau darllen neu blant y mae eu rhieni yn darllen iddyn nhw.

Gwers amlwg Golcha Dy Ddwylo ydi'r angen i blant olchi eu dwylo yn dilyn gwahanol gweithgareddau ond llwyddir i osgoi gwneud hynny yn null llawlyfrau iechyd neu'n bregethwrol. Mae yma dipyn o hwyl hefyd.

Mae Colli Dant, wedyn, yn ymwneud ag edrych ar ôl y dannedd a'r angen i'w bwrsio bob dydd ac unwaith eto mae yna hiwmor nid yn unig yn y geiriau ond yn y lluniau.

Yn Chwaer Rydw i Eisiau mae mam y Dywysoges Fach sy'n brif gymeriad y tri llyfr yn disgwyl plentyn a'r fechan yn mynnu nad brawd mae hi eisiau gan fod brodyr "yn drewi" ymhlith pethau annymunol eraill.

Wrth gwrs pan fo brawd yn cael ei eni mae'r fechan yn ei dderbyn a'r teulu'n hapus ac yn gytun fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl mewn straeon o'r fath.

Eilbeth yw'r awydd i ddweud stori yn y math yma o lyfrau ac y maen nhw, fel sy'n gyffredin y dyddiau hyn, yn gwbl wleidyddol gywir eu hamcan a'u hysbryd.

A chymryd bod angen i'r math yma o lyfrau mae'r rhain yn cyflawni eu swyddogaeth heb eu hail.


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy