±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sian Reeves
Ennill mil efo stori

Awdur tro cyntaf yn cipio gwobr stori fer, 'Briallu'

Gorffennaf 2003


Cliciwch er mwyn darllen y stori yn awr

ar y stori yn cael ei darllen gan Mari Emlyn



Y feirniadaeth gyflawn

Athrawes o ardal Aberhonddu yw enillydd cystadleuaeth Stori Fer rhaglen Y Celfyddydau ar ±«Óãtv Radio Cymru.

Bydd Sian Reeves yn derbyn gwobr gyntaf o £1,000 ac mae ei gwaithi'w weld ar y wefan hon.

Dyma'r tro cyntaf i Sian, 39, sy'n wreiddiol o Gaerdydd ond nawr yn byw yn mhentref Cradoc ger Aberhonddu, gystadlu mewn cystadleuaeth ysgrifennu, er ei bod yn cadw dyddiadur ers blynyddoedd maith.

"Dwi wedi sgrifennu i mi fy hun erioed," meddai. "Fe wnaeth Aled Islwyn ddweud yn y feirniadaeth fy mod i'n sgwennu mewn ffordd reddfol, a dwi'n meddwl bod hyn yn wir. Dwi'n sgwennu pan dwi'n teimlo fel gwneud... Ond doeddwn i erioed wedi ystyried sgwennu ar gyfer cael ei ddarllen gan bobol eraill - doeddwn i byth yn meddwl mod i'n ddigon da!"

Daeth Siân i'r brig mewn cystadleuaeth neilltuol o uchel ei safon, gydag Aled Islwyn, Robin Llywelyn ac Angharad Price yn pennu beirniadaeth ar yr 110 o storïau byrion a ddaeth i lawr.

"Dwi wrth fy modd wrth gwrs gyda'r wobr. Gyda dau o blant, fydd hi ddim yn anodd o gwbl i wario'r arian! Y cynnig callaf hyd yma ydi prynu cwt i'r ardd - cwt sgrifennu. Mae Dafydd y mab wrth ei fodd yn sgrifennu tipyn hefyd, felly fe fydd o'n gwt sgwennu teuluol mae'n siwr."

Yn ogystal a bod yn wraig ty mae Siân yn athrawes Gymraeg rhan amser yng Ngholeg Crist, Aberhonddu, lle mae'i gwr Tony yn Bennaeth yr Adran Ffiseg.

Meddai'r beirniaid

Does dim byd syfrdanol o wreiddiol yn y stori fel stori. Roedd creu gwrthgyferbyniad rhwng y Gymru gyfoes a'r Gymru wledig, draddodiadol yn un o'r themâu a frigodd i'r wyneb yn gyson yn y gystadleuaeth.

Ond y mae yma awdur greddfol sy'n gallu defnyddio ei grebwyll creadigol cryf i ennyn ymateb. Perthyn y stori hon i'r ganrif hon - yn wir, fe berthyn i eleni. Hyd yn oed wrth drafod sefyllfaoedd pur gyffredin fel teulu ar wyliau, rhoddir iddynt arwyddocâd annisgwyl o gyfoes a ffres.

Y gystadleuaeth

Lansiwyd Cystadleuaeth y Stori Fer ym mis Chwefror eleni yn ystod cyfres 'Y Celfyddydau' ar Radio Cymru gyda gwobr o £1000.

Y tri beirniad oedd Angharad Price, Robin Llywelyn ac Aled Islwyn

Darllen y stori


ar y stori yn cael ei darllen gan Mari Emlyn

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy