鲍鱼tv


Explore the 鲍鱼tv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



鲍鱼tv 鲍鱼tvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Cymry'n rheibio'r cefnforoedd

Llyfr newydd am f么r-ladron o Gymru

Ebrill 2003

The Book of Welsh Pirates and Buccaneers gan Terry Breverton Glyndwr Publishing

Adolygiad gan Dafydd Meirion

Beth yn union ydy m么r-leidr?
Mae gynnon ni'n syniadau yn ein pennau am ddynion milain, meddw, lliwgar a pharot ar eu hysgwyddau yn ysbeilio llongau ym M么r y Caribi.

Mae The Book of Welsh Pirates and Buccaneers yn cytuno 芒'r darlun yma i raddau ac mae'r manylion am ddwsinau o f么r-ladron Cymreig yn cadarnhau llawer o hyn. Ond ai rhai Cymreig ydyn nhw?

Yn y rhan fwyaf o achosion nodir mai o Gymry y d么nt, ond nid o ble'n union na phwy'n union oedden nhw. Mae yma gapteiniaid a m么r-ladron cyffredin, yn seiri ac yn llawfeddygon.

Dywedodd rhywun wrthyf rywbryd i Gymru gynhyrchu mwy o f么r-ladron i bob milltir o arfordir nac unrhyw wlad arall yn y byd.

Cant o longau

Mae'r llyfr yma'n cadarnhau hyn. O'r pedwar m么r-leidr enwocaf, roedd tri yn Gymry.
Harri MorganHarri Morgan (y mwyaf llwyddiannus), Barti Ddu ("the most famous pirate in history") a Howell Davies (The Cavalier Prince of Pirates).

A dywedir bod hanner mintai enfawr Barti Ddu unai'n Gymry neu'n dod o orllewin Lloegr (ac ar un amser roedd ganddo gymaint 芒 chant o longau).

Ac mae yna s么n am y tri yn Treasure Island, Robert Louis Stevenson.

Galwodd un o gapteiniaid Llynges Lloegr Gymru yn "the nursery and store-house of pirates".

Yn 么l un gwefan Americanaidd; yn y 1700au roedd tua hanner y m么r-ladron o dras Gymreig, er mae un arall yn nodi mai ond 7% ohonyn nhw oedd o'i gymharu 芒 35% yn Saeson.

Defnyddio Ynys Enlli

Ond pwy oedd y m么r-ladron hyn? Roedd y ffin rhwng y mor-ladr么n a'r rhai mewn awdurdod yn un denau iawn. Roedd llawer o'r bonedd, os nad yn f么r-ladron eu hunain fel y Buckleys o Fiwmaris a'r Myddletons o Ddinbych, yn prynu oddi wrth ac yn gwerthu nwyddau i'r m么r-ladron.

Un o'r rhain oedd Syr Wyn ap Hugh o Fodfel, Ll媒n, gyda chanolfan ar Ynys Enlli i werthu cig a grawn i'r m么r-ladron ac yn ei dro yn prynu'r nwyddau yr oedden nhw wedi'u dwyn cyn belled 芒 Chaer.

Un arall oedd yn defnyddio Ynys Enlli oedd y m么r-leidr Thomas Prys o Blas Iolyn, Eifionydd.

Ychydig iawn o hwyl g芒i'r awdurdodau ar ddal y m么r-ladron gan fod eu 'cwsmeriaid' yn aml yn ustusiaid heddwch!

Dim dewis gan rai

Trachwant wnai i'r bonedd fynd yn f么r-ladron gan amlaf ond doedd gan eraill ddim cymaint o ddewis.

Pan gipiai'r m么r-ladron longau ar y m么r mawr, roedd gan y criw ddewis; unai fynd dros yr ochr neu ymuno 芒'r m么r-ladron er y dywedid na fu i Barti Ddu erioed orfodi neb i ddod yn f么r-leidr.

Doedd hi ddim yn waith anodd perswadio llongwr cyffredin i ddod yn f么r-leidr, bygwth neu beidio. Roedd amgylchaidau'n ddrwg iawn ar longau masnachol a llongau'r llynges gyda'r bwyd a'r cyflog yn wael a chwipio am nemor ddim.

Rhamant ac arian

Cynigiai'r m么r-ladron fywyd rhamantus a chyfle i ennill arian mawr (byddai'r arian a ddygwyd yn cael ei rannu'n deg rhwng pawb) a digon o rwm a merched!

Ac roedd llawer wedi cael eu gorfodi gan y press-gangs i fynd i'r m么r beth bynnag.

Howell DaviesOnd mae yna s么n yn y llyfr am un llongwr o'r enw Richard Jones a wrthododd ymuno 芒 Howell Davies yn India'r Gorllewin. Trawyd o 芒 chleddyf yn ei goes cyn clymu rhaff am ei ganol a'i ollwng i'r m么r llawn siarcod.

Fu o fawr o dro cyn cytuno i ymuno 芒'r m么r-ladron.

Ond doedd dim gwaith perswadio trinwyr pysgod Newfoundland i ymuno 芒 Barti Ddu. Roedden nhw wedi cael eu cludo yno o orllewin Lloegr gydag addewidion o well cyflog, ond wedi cyrraedd bu'n rhaid prynu rwm i gadw'r oerni draw a chan mai'r meistri oedd yn gwerthu hwnnw, doedd ganddyn nhw ddim digon o arian i fynd yn 么l adref.

Roedd cynnig Barti Ddu o gyfoeth a thywydd cynnes y Caribi yn ormod iddyn nhw ac mi ymunon nhw'n rhesi.

Llond bol ar ei wraig!
Dywedir bod y bonheddwr Stede Bonnet wedi mynd yn f么r-leidr am ei fod wedi cael llond bol ar ei wraig yn swnian arno!

Geiriau'r m么r
Dechreua'r llyfr, fodd bynnag, gyda rhestr o dermau'r m么r-ladron (neu dermau longwyr i fod yn gywirach). Rydyn ni'n gyfarwydd 芒 pieces of eight; darnau arian o Sbaen oedd y rhain a'r ffigur wyth arnyn nhw, gafodd ei addasu'n ddiweddarch yn arwydd y doler ($).

Ond mae yma, hefyd, darddiadau enwau a dywediadau sydd wedi dod yn rhan o'r iaith Saesneg erbyn hyn. Er enghraifft, bamboozle yn arferiad gan Sbaenwyr yn 17eg ganrif o ddangos baneri ffug i guddio'r ffaith mai Sbaenwyr oedden nhw, a chock-a-block yn disgrifio dau tackle block mor agos fel na allen nhw symud. Y chock oedd yn dal nwyddau'n sownd i'r dec pan oedd y m么r yn arw.

Ond o feddwl mai llyfr am f么r-ladron Cymreig yw hwn ac mae'n sicr bod nifer ohonyn nhw'n siarad Cymraeg (mae s么n am rhyw Gapten Owen yn "called to Phillip the Welshman and to the other Welshmen, speaking in Welsh..." wrth ymosod ar long o Lydaw ger Ynysoedd Sili), does yna'r un term Cymraeg yma.

Yr agosaf yw gammy sy'n dod o'r gair Cymraeg cam yn 么l yr awdur.

Cywyddau Cymraeg

Ond mae yna ddyfyniadau o gywyddau Cymraeg sgrifenwyd gan Tomos Prys, Plas Iolyn, ac eraill.

Yna cawn restr o'r m么r-ladron Cymreig gan ddechrau gyda'r rhai cyntaf, yn bennaf yn y 15fed ganrif, er mae'n nodi mai William Marsh oedd y cyntaf yn 13eg.

Er mai Gwyddel oedd o, roedd ei ganolfan ar Ynys Wair ym M么r Hafren.

Tenau iawn yw'r manylion am rai - ychydig frawddegau'n unig, - ond mae'r pwysicaf yn cael tudalennau lu. Caiff Harri Morgan 53 tudalen, Barti Ddu 67 a Howell Davies 47, a dyna o bosib yw un o wendidau'r llyfr gan y buasai golygu llymach wedi'i wneud yn llyfr llawer mwy darllenadwy.

Ar hyn o bryd, dydy o ond catalog a thair pennod hir.
Ond rhaid dweud bod darnau a ffeithiau difyr iawn yma. Gwyddom am orchestion yfed y m么r-ladron, ond mae'n debyg mai Barti Ddu oedd yr unig lwyrymwrthodwr yn eu plith; roedd yn well ganddo baned o de!

Ac mae'r awdur yn honni mai'r Cymry oedd a ddyfeisiodd strip-tease wedi i un o ddynion Harri Morgan, y Capten John Morris, dalu 500 pieces of eight i ferch dynnu amdani o flaen ei gyd-forwyr!

Byddai wedi ei chael iddo'i hun am ddegfed rhan y swm yma!

Gwneud cryn argraff
Mae'n amlwg i'r Cymry wneud cryn argraff fel m么r-ladron, yn gapteiniaid, yn gefnogwyr ac yn f么r-ladron cyffredin (os oes yna'r fath beth yn bod), a da bod yr awdur wedi mynd ati i gofnodi hyn. Ar y cyfan mae'n llyfr difyr iawn, ond rwy'n siwr y gellid crynhoi'r ffeithiau perthnasol i lyfr llawer llai o.

Ac am y clawr? Mae gyda'r salaf a welais ers blynyddoedd, er yn amlwg iddo gostio gryn dipyn i'r cyhoeddwyr. Mae'n debycach i rywbeth o'r saithdegau. Y 1970au nid y 1770au yn anffodus.

A beth yw'r gwahaniaeth rhwng pirate a buccaneer? Rhaid ichi brynu'r llyfr i ddarganfod hynny.

Llyfr i'w bori yn hytrach nag un i'w ddarllen o glawr i glawr. Ond i unrhyw un 芒 diddordeb mewn m么r-ladron, mae'n llyfr gwerth ei gael.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 鲍鱼tv Cymru'r Byd






About the 鲍鱼tv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy