±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Byd gianstars a dilyn merched

Dau lyfr i'r ifanc -
ond pa oed?


Mehefin 2003

Modrwy Pwy? - Alan Durant
O Ddrwg i Waeth - Anthony Masters
Gwasg Gomer. £3.99.

Oed : 10 - 14

Adolygiad gan Meirion Puw Rees

Dyma ddau lyfr arall yn y gyfres gyfoes Saeth. Teimladau cymysg iawn sydd gennyf am y ddau lyfr yma. Maent yn delio â themäu sydd yn berthnasol i bobl yn eu harddegau ond nid yw eu cynnwys a'u maint yn addas i'r oedran hwnnw o gwbwl.

Mae'n amlwg fod y llyfrau yma wedi eu hanelu at yr oed hwnnw o ran natur y straeon, y stori am stalker yn O Ddrwg i Waeth er enghraifft a'r diwylliant gangsters yn Modrwy Pwy?

Ond mae'r awduron wedi methu â dal diddordeb y darllenwr yn fy marn i.

I ddechrau, mae'r straeon yn llawer rhy fyr a diwyg y dalennau yn debycach i stori plentyn bach. Mae'r print yn fawr gyda lle dwbl rhwng pob llinell a llinell rhwng pob paragraff yn rhoi'r argraff o stori ar gyfer darllenwr ifanc ar yr olwg gyntaf.

Byr iawn

Mae'r cynnwys ei hun hefyd yn fyr iawn. Yn wir does dim angen i stori fod yn un hir i lwyddo ond stori fer iawn sydd yma ac rydych yn cael teimlad ei bod hi wedi ei hymestyn dros rhyw bymtheg pennod.

Wrth edrych ar y storïau eu hunain mae yna syniadau da ond wedi eu hadrodd mewn ffordd undonog, ddiflas iawn ac yn noeth o unrhyw agwedd/onglau i gipio a chynnal diddordeb y darllenwr.

Does dim llawer o gyffro yma. Er bod yr awdur wedi bod yn llwyddiannus i greu stori o gwmpas y syniadau nid yw'n taro deuddeg i mi.

Mae yna syniadau da yn y plot ei hun ac mae'r plot yn ddigon diddorol.

Mae'r stori yn y ddau lyfr yn rhai tywyll iawn, yn sôn am 'gangsters', cyffuriau, stelcwyr ac yn y blaen.

Darganfod Modrwy

Ym Modrwy Pwy? mae Sglod a Paula, y prif gymeriadau, yn darganfod modrwy aur lle lladdwyd dyn ac er syndod mae pawb yn ysu am ei chael.

Mae'r gangster Tommy Dayton yn fodlon lladd amdani! Ceir llawer o droadau yn y stori sy'n ei gwneud yn ddiddorol, yn enwedig tua'r diwedd. Yn O Ddrwg i Waeth mae Sera, y prif gymeriad, yn gadael ei chyn gariad Sion ac yn dianc at Huw i Sir Benfro, dim ond i ddarganfod ei bod hi yn cael ei dilyn!

Mae Jake, yn ceisio ei pherswadio bod Huw wedi lladd ei chwaer ac mae byd Sera yn dechrau edrych yn dywyll a pheryglus iawn…fel oedd hi'n meddwl fod pethau am wella.

Mi fyswn i wedi hoffi gweld mwy o ddisgrifiadau yn y ddau lyfr. Mae rhai penodau yn foel iawn. Byddai cael disgrifiad manylach o fwthyn rhieni Huw wedi helpu i'w ddisgrifio fel yr hafan oedd Sera yn chwilio amdani ar y pryd.

To gwellt

Yr unig bethau rydym yn gwybod amdano yw ei fod yn fwthyn bychan efo 'to gwellt', bod yno 'focsus o gennin pedr yn addurno sillf pob ffenest' ac bod yr stafelloedd tu fewn yn 'glyd a chysurus'.

Mae'r ddau lyfr wedi eu hysgrifennu yn nhafodiaith y de ac i ogleddwr fel fi mae rhai darnau yn anodd i'w deall am sbel, er engraifft pan fo 'taw' yn cael ei ddefnyddio o hyd.

Clawr O Ddrwg i WaethMae yna ambell gamgymeriad bychan yma hefyd. Ar dudalen 81 yn O Ddrwg i Waeth mae Sera yn siarad â Huw ac yn dweud,'Oeddet ti am i mi feddwl bod Huw a Jake am wneud niwed imi?' Onid Sion a Jake ddylai hyn fod?

Felly, yn fy marn i, llyfrau gweddol am bynciau tywyll gyda moeswers sydd yma. Ches i mo nghyffroi gan y sgwennu er gyda'r pynciau a'r digwyddiadau roedd defnydd da yma. Roeddwn i yn siomedig.

Sgor : Modrwy Pwy? - 3
Sgor : O Ddrwg i Waeth - 3.5





Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy