±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb



Pledu Dei efo tatws

Ond mae Maldwyn yn lle mwyn!

Gorffennaf 2003


Maldwyn gan Cyril Jones - Cyfres Broydd Cymru. Gwasg Carreg Gwalch. £4.95.
Blas ar Fwynder Maldwyn. Golygydd, Heledd Maldwyn Jones. Gwasg Carreg Gwalch. £6.50.

Dei Tomos yn cael ei bledu gan datws ar ei ymweliad cyntaf ag un o aelwydydd enwocaf yr Urdd.

Dyna un o'r straeon difyr yn Blas ar Fwynder Maldwyn - cyfrol o ysgrifau gan ddwsin o awduron wedi eu hel at ei gilydd gan Heledd Maldwyn Jones.

Cyfrol sydd, yn ô lei broliant, a'i diddordeb yng nghymeriadau rhadlon, y rhan hon o Gymru a'u hiwmor agored.

Cyrraedd ar fotobeic

Alwena Francis, wrth sgrifennu am Aelwyd Penllys, sy'n dwyn i gof helynt Dei Tomos a'r tatws.

"Cyrhaeddodd yno ar gefn ei fotobeic ar ôl taith oer ganol gaeaf o'r Drenewydd. Erbyn iddo gyrraedd y Llan, roedd toriad yn nhrydan yr Hen Ysgol - tywyllwch dudew a'r anwariaid ifanc wedi diflasu.

"Ond yng nghegin yr hen ysgol roedd sachaid o datws (gyda llaw - tatws cinio plant yr ysgol a ddefnyddiai'r ystafell fel cantîn).

"Yn eu diflastod, roedd cogiau'r Aelwyd wedi cael y syniad o gael ffeit datws. Agorodd Dei'r drws i'w gael ei gyfarch gan storm o datws a'i drawai o bob cyfeiriad. Tipyn o sioc i drefnydd ifanc yr Urdd!" meddai Alwena.

Llon, difyr a difri

Mae Blas ar Fwynder Maldwyn yn gymysgedd hyfryd o'r llon a'r difyr a'r difri. Y cyfranwyr ydi, Gwyn Erfyl, Penri Roberts yn sôn am Theatr Ieuenctid Maldwyn; Ioan Roberts (Eleri Mills); Arfon Gwilym (Y Blygain); Dai Hawkins (Enwau Lleoedd); Arwyn Groes Davies (rhigymau, englynion a phenillion); Alwyn Hughes (gofaint a thaflu coits); Tegwyn Pughe Jones (Gwylliaid Cochion Mawddwy); Elfyn Ellis (Teulu Penantwrch); Nest Davies (cerdd, Y Dafodiaith) a Lona Jones (Siôn Rhydderch).

Agwedd hamddenol

Wrth gyflwyno'r gyfrol dywed Heledd Maldwyn Jones mai'r hyn sy'n ei tharo hi fwyaf am drigolion Maldwyn yw "eu hagwedd hamddenol at fywyd."

Pobl ydyn nhw meddai hi sy'n "cymryd pwyll a pheidio a chythruddo" gyda'u siarad linc-di-lonc a'u hacen feddal yn ategu hynny.

Mae ganddi ddarlun hyfryd i gyfleu'r hamdden tangnefeddus hwn.

"Ffarmwr - cymeriad lleol yn cerdded wrth ei bwysau i fyny'r buarth mor gynnar yn y bore; cortyn beindar wedi'i glymu'n dynn o amgylch gwasg uchel ei drowsus, a chap stabal ar osgo ar ei ben a drawai gysgod dros llond gên o wisgars. Daliai sbrigyn o flodyn melys Erwain dan ei drwyn gan fyn nghyfarch yn llon:
"Sud wyt ti heddiw'r bore, lodes? Doooow, mae'r blodyn 'ma sydd yn y shetin 'na'n gwynto'n glên. Dwi rioed wedi sylwi arno o'r blaen. Bendigedig Lodes, bendigedig."

Yr oedd ef, meddai, ei wefreddio cymaint gan un o ryfeddodau natur yr oedd wedi anghofio mai yno mewn cyfyngder yr oedd o, ei bicyp wedi rhedeg yn sych o betrol ar y ffordd!

Tafodiaith

A dyna ninnau, hefyd, gyda'r stori fach yna, ar ein pennau yn nhafodiaith hyfryd y fro a'r dafodiaith honno yn cael ei rhoi i'w lawn ddefnydd mewn cerdd gan Nest Davies:

Myn giam i, mae'r oes wedi altro er gwaeth
Dwi'n recno, ar ôl cial rheole mor giaeth;
Ers talwm, byw'n ddeche fyny'r wtra fach gul
Yn y ffarm fechan bropor fu'n teulu's oes mul


ac yn y blaen.

Bod yn hi ei hun

I'r arlunydd Eleri Mills, lle i fod yn hi ei hun ydi Maldwyn.

"Petawn i'n byw mewn dinas fel Manceinion neu Lundain neu Gaerdydd mi fasa rhywun yn edrach dros i ysgwydd o hyd ac yn cymdeithasu efo arlunwyr eraill. Dwi ddim yn credu y baswn i'n gallu bod yn fi fy hun cweit.

"Ond oherwydd 'mod i'n byw mewn lle mor bell oddi wrth y byd celf dwi'n gallu bod yr hyn ydw i isio bod. Mewn lle fel hyn mae rhywun yn rhan o'r gymdeithas. Mae'n ffrindia i yn cynnwys pawb. Dwi'n mwynau hyn'na. Dwi'n mwynhau gallu gweld 'mod i'n byw mewn lle real, yn lle byw mewn bybl o gelfyddyd.

"Mewn dinas mi fasa rhywun yn dewis ei ffrindia ac mi fasa rheiny i gyd rywbeth yn debyg i'w gilydd.'

Cynnyrch beirdd

Creadigrwydd o fath arall sydd i'w weld yn y rhigymau a'r penillion mae Arwyn Gro Davies wedi eu cywain ar gyfer ei ysgrif ef. Llawer ohonyn nhw yn ffrwyth beirdd na chofnodwyd eu henwau ac yn gynnyrch awen naturiol y gwladwr.

Tra bo cerrig ar Foel Bentyrch
tra bo dwr yn afon Bryncyrch,
tra bo derwen ar barc Llysun,
mi garai forwyn Maesllymystyn.

Mae awdur englyn trawiadol i'r falwoden yn hysbys, fodd bynnag, Robert Robertsd, Cwmderwen, Cwm Nant yr Eira:

Ymlusgiaid lom hawdd i'w siomi - ydyw
'R falwoden lesg, ddifri,
heb asgwrn yn ymbesgi.
drwy ei chyrn yr edrych hi.

Clawr MaldwynArweinlyfr buddiol
Ymateb personol yr ysgrifwyr i'w byd sydd yn Blas ar Fwynder Maldwyn ond y mae y bymthegfed cyfrol yng Nghyfres Broydd Cymru yn gyflwyniad mwy gwrthrychol a ffeithiol i Faldwyn gan Cyril Jones.

Unig fai cyfrol fel hon yw iddi gael ei chyhoeddi yn llawer rhy agos at ddyddiad y Steddfod. Yn wir, yn yr Eisteddfod y bydd llawer yn ei phrynu a hynny'n ei gwneud yn rhy hwyr iddi fod o'r budd mwyaf i ymwelwyr â'r ardal.

Onid, felly, yr adeg i gyhoeddi cyfrolau y gyfres hon sy'n cyd-daro ag ymweliadau Eisteddfodau cenedlaethol yw adeg cyhoeddi yr eisteddfodau hynny?

Hynny yw, byddai hon wedi gweld golau dydd yn y Trallwng fis Gorffennaf y llynedd ac un Mynwy bythefnos yn ôl yng Nghasnewydd ac ar werth ar Faes Mathrafal eleni fel bo eisteddfodwyr yn gallu cynllunio eu hymweliad fis Awst nesaf wrth eu hamdden a chael y budd mwyaf o'r llyfr.

Mae Maldwyn wedi ei rhannu yn ardaloedd daearyddol hwylus ac y mae nifer o luniau a mynegai.

Am lai na phumpunt mae'n arweinlyfr gwirioneddol werth chweil i ardal braf a difyr sy'n ymestyn o Drefaldwyn i Fachynlleth ac o Langurig i Langynog.

Gwefan Eisteddfod
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy