±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Achub
y werin datws

Arbenigwr yn trafod arferion bwyta'r Cymry mewn llyfr newydd

Gorffennaf 2003

Doedd medd ddim yn un o ddiodydd cyffredin y werin Gymreig meddai awdur cyfrol newydd ar faeth a bwyd - ond fe fu tatws yn waredigaeth i'r genedl!

Gyda chymaint o gyfeiriadau at fedd yn ein barddoniaeth, ystyriwyd medd yn ddiod gynhenid Gymreig bwysig ond yn ôl Dysgl Bren a Dysgl Arian gan R. Elwyn Hughes, ymddengys mai prin iawn oedd yr yfed ar fedd ymhlith trwch poblogaeth Cymru ar hyd y canrifoedd.

Uchelwyr yn unig

"Dim ond gan yr Uchelwyr yn y llysoedd yr oedd medd a mêl mewn bri - mae'n anodd credu fod medd erioed wedi bod yn ddiod gyffredin ymhlith y werin Gymreig," meddai.

Ond dywed fod meddyglyn, sef medd gyda pherlysiau, yn ddiod a yfid yn aml am resymau meddyginiaethol yng Nghymru.

Esbonir hefyd yn y llyfr bwysigrwydd bragod, sef cwrw wedi ei felysu gyda mêl, a diod griafol i hanes maeth y Cymry.

"O bosib mai diod griafol, a ddisgrifiwyd, oedd y ddiod fwyaf Cymreig a mwyaf diddorol yn ein hanes," yn ôl yr awdur.

Astudiaeth fanwl

Dywed y Lolfa mai Dysgl Bren a Dysgl Arian yw'r astudiaeth fwyaf manwl a chynhwysfawr erioed am hanes maeth ac arferion bwyta'r Cymry yn cynnwys dros 300 tudalen o ffeithiau, ystadegau a dadansoddi am arferion bwyta'r Cymry.

Mae pennod gyfan ar lyfrau coginio Cymraeg a phenodau ar fwydydd neilltuol Gymreig, cynhaliaeth o fyd natur, arferion bwyta ac yfed y Cymry, yn ogystal â hanes y Sgyrfi yng Nghymru.

"Clefyd a gododd ei ben yn aml oherwydd undonedd y ddiet Cymreg a diffyg fitamin C."

Diolch am datws

"Oni bai am ddyfodiad tatws rhwng 1750-1900 mae'n bur amheus pa nifer ohonom fyddai ar ôl i drafod y materion hyn!" meddai R. Elwyn Hughes a fu'n Ysgolor yn y gwyddorau naturiol yng Nghaergrawnt.

Daliodd swyddi biocemeg ym mhrifysgol Caergrawnt a phrifysgol Cymru ac mae'n awdur nifer o gyhoeddiadau ar hanes maetheg a gwyddoniaeth.

Mae'n byw ym Mhentyrch. Dysgl Bren a Dysgl Arian : Nodiadau ar Hanes Bwyd yng Nghymru gan R Elwyn Hughes. £14.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy