±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Yma o hud

Bethan Gwanas yn rhoi stêm ar sbectol Harry Potter!


Gorffennaf 2003

Gwrach y Gwyllt gan Bethan Gwanas. Gwasg Gomer. £6.99.
Adolygiad gan Ian Edwards.


MAE'N hawdd gweld sut bydd nofel ddiweddara un o awduron cyfoes mwya' poblogaidd Cymru yn apelio at ei llu o ddarllenwyr ffyddlon.

Ond mae Gwrach y Gwyllt gan Bethan Gwanas gyda'r potensial hefyd o ddenu cynulleidfa nad yw erioed wedi taro llygaid dros nofel Cymraeg - drwy gyfuno testun atyniadol ac arddull a iaith sy'n hawdd i'w darllen.

Dychwelyd i'w hardal

Arwres Gwrach y Gwyllt yw Siwsi Owen, gwrach o'r 1600au sy'n dychwelyd y dyddiau hyn i'w hardal enedigol ger Dolgellau i ddial ar berthnasau pell ei herlidiwr o'r oes a fu ac i achub rhai o'i chyd-wrachod rhag melltith hen elyn.

Er gwathaf ei hoed mae Siwsi yn dal i allu defnyddio'i hud a chyn bo hir mae dynion, a merched, yr ardal yn gaeth i'w swynion.

Ond rhaid i Siwsi wynebu rhai ysbrydion o'r gorffennol er mwyn ennill cyfiawnder wedi ei chanrifoedd o alltudiaeth.

Mae'r nofel hon yn delio gyda llawer mwy na'r byd goruwchnaturiol a'r awch i ddial.

Mewnfudwyr modern

Mewn sawl golygfa mae Siwsi (a Bethan Gwanas ei hun, yn siwr) yn cael ei siomi gyda'r ffordd mae'r Saesneg wedi treiddio i Gymraeg lafar pobol yr ardal.

Drwy hyn mae'r awdur yn gwneud sylw ar un o effeithiau y mewnlifiad ar yr ardal.

Ond wedi dweud hynny mae'r ffaith fod iaith y nofel yn adlewyrchu'n realistig sut mae pobl Cymru yn defnyddio'r Gymraeg heddiw yn cyfrannu elfen o'r cyffredin i stori hollol anghyffredin.

Gwryw a benyw

Mae pob un o'r cymeriadau benywaidd yn y nofel yn fyw ar y ddalen ac yn ennyn cydymdeimlad.

Ond yn ôl Ms Gwanas ma pob dyn - yn y llyfr yma o leia' - yn wan, yn frwnt, yn gachgi slei ac yn cael ei reoli gan ei nwydau rhywiol.

Er efallai fod yna elfen o wir yn hyn mae'r maniffesto 'Girl Power' yma yn creu cymeriadau gwrywaidd arwynebol iawn.

Hefyd, rhaid dweud fod darllen rhai o'r golygfeydd 'rhywiol' yn cael yr un effaith a gwrando ar eich mam yn sôn am be fyddai hi'n lecio'i wneud i'r dyn llefrith!

Dros y degawdau diwethaf sicrhaodd llwyddiant aruthrol rhaglenni teledu fel The X Files, Buffy the Vampire Slayer a Twin Peaks fod y goruwchnaturiol mewn bri ymysg y cyhoedd.

A thrwy ychwanegu i'r crochen ddigon o ryw i godi stêm ar sbectol Harry Potter llwydda Bethan Gwanas i gonsurio nofel sy'n cydio yn dynn ac yn hoelio sylw darllenwr o'r ddalen gyntaf un bron gan garlamu'n gyffrous at y bennod olaf!


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy