±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Pobl
T Llew

Asbri a dyneiddiwch hen ffordd o fyw

Ebrill 2003

Fy Mhobl I gan T. Llew Jones. Gomer. £5.95

Prin yw'r llyfrau Cymraeg hynny sy'n mynd i ail argraffiad ond mae'n rhywbeth y mae T. Llew Jones wedi hen arfer ag ef.

Wele, o fewn ychydig fisoedd o gael ei gyhoeddi mae ei lyfr diwethaf - ac olaf, medda fo - yn ôl yn y siartiau llyfrau yn dilyn ei ailargraffu.

Digwyddiad trist ar y teledu ychydig yn ôl oedd clywed yr arch-storiwr plant hwn yn datgan na fyddai'n sgrifennu eto gan fod ffynnon yr awen wedi sychu meddai.

Atgofion

Cyfrol o atgofion hunangofiannol, Fy Mhobol I, a ddewisodd i gau pen mwdwl o lafur rhyfeddolac mae'n gyfrol sy'n adlewyrchu holl afiaeth a holl ddyneiddiaeth y llenor a bardd tra chynhyrchiol hwn.

Hyd yn oed os gwireddir ei ddarogan na ddaw llyfr arall o'i law bu ei gynhaeaf yn un toreithiog odiaeth a hynny dros gyfnod pan fu'n rhaid iddo gyflawni swmp o'i lenydda yn ystod ei amser hamdden.

Dros y blynyddoedd cyhoeddodd ymhell dros hanner cant o lyfrau, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn llyfrau plant yn amrwyio o gyfrolau barddoniaeth i nofelau antur.

Sgrifennodd ar gyfer oedolion hefyd ac enillodd gadair y Genedlaethol ddwywaith a chael ei gydnabod yn un o'n pennaf meistri canu caeth.

Teulu, cydnabod, cynefin

Mae Fy Mhobol I yn gyfrol hyfryd sy'n rhoi cyfle iddo hel atgofion nid yn unig am ei fywyd ei hun ond am ei deulu, ei gyfoedion, ei gydnabod a'i hen gynefin..

Cyfleu ysbryd y gyfrolMae'r llun ohono ar y clawr a dynnwyd yn sgubor y Cilie gydag eneidiau eraill hoff gytun yn cyfleu i'r dim afiaith a llawenydd y gyfrol hon.

Er bod yr atgofion yn ymddangos fel pe byddent yn mynd a dod fel gloynnod byw drwy'r gyfrol y mae ffurf a chynllun i bob ysgrif gyda chymysgedd o'r dwys a'r digrif o lawenydd ac o siom.

Newid ddaeth

Cychwyn gydag atgofion melys am aelwyd ei blentyndod.

"Dyw'r bwthyn ddim yn bod bellach, wrth gwrs. Fe'i tynnwyd i lawr i wneud lle i fyngalo newydd, crand, i ryw Sais na wn i mo'i enw," meddai mewn ychydig eiriau sy'n cyfleu cyfrolau.

Disgrifia ef a briod yn ymweld â'r hen gartref:

"Unwaith, flynyddoedd maith yn ôl fe euthum â'r wraig i Iet Wen i ddangos iddi'r cartre oedd gen i . . . fe ges i syndod i weld nad oedd yr hen le wedi newid rhyw lawer yn ystod y deugain mlynedd a mwy ers imi fyw yno'n blentyn.

"Pwysais ar y latsh - roedd y drws ynghlo fel y disgwyliwn. Ond pan oedden ni ar fin cerdded ymaith, dyma ni'n clywed rhyw swn, rhyw gyffro tu fewn.

"Euthum at y ffenest wedyn . . . Cefais dipyn o sioc wrth weld yr olygfa tu fewn. Yno, ar lawr ein parlwr ni gynt, gorweddai hwch fagu fawr, yn ei hyd, a thorraid o foch bach yn ei sugno. Roedd y peth yn ddigon naturiol wrth gwrs. Roedd ffermwr cyfagos, gan wybod fod yr hen dy yn wâg ac yn dadfeilio wedi manteisio ar y cyfle i roi hwch fagu a'i pherchyll i mewn yno.

"Wrth edrych ar yr olygfa drwy'r ffenest y diwrnod hwnnw, ni allwn lai na chofio Mam a'i gofal fod popeth yn lân ac yn ei le yn y parlwr gynt. A dyma ei pharlwr hi wedi mynd yn dwlc mochyn."

Ni all rhywun beidio a meddwl bod yma ddameg o Gymru . . .
Ymhlith Sipsiwn

Down i adnabod llu o gymeriadau - diflanedig erbyn hyn - cefn gwlad yn y gyfrol ac o ddiddordeb arbennig i ddarllenwyr Tân ar y Comin y mae ei bennod am Sipsiwn a bod dau o gymeriadau'r nofel honno wedi eu sylfaenu ar bobl go iawn.

". . . roedd yna ffin ddiadlam rhyngddom," meddai er gwaethaf pob ymwneud.

"Pobl wahanol oeddem. Pobl tai oedden ni, a Romani oedden nhw. A nhw, yn bennaf, fyddai'n cadw'r ffin. Er y byddai merched y sipsiwn yn dod i ddrysau'r tai i ymgreinio ac i fegian, doedd yna rywsut, ddim colli urddas yn y peth.

"Cefais yr argraff droeon eu bod yn eu cyfri eu hunain yn bobl o waed purach - gwaed y Romani," meddai am y Sipsiwn.

Yn y bennod hon, hefyd, y mae ymdeimlad o gymdeithas a ddarfu - gyda darn arall lliwgar o "dapestri prydferth ein cymdeithas bentrefol ni" yn diflannu a'r tapestri o'r herwydd yn salach peth.

Tinc galar

Mae tinc galar yn ei eiriau: "Fy mhobol i! Maen nhw wedi mynd i gyd bron - Cymry oedden nhw bob un - 'fy mhobl i' - a'r Gymraeg ar eu gwefusau. Ac o ystyried y dirywiad cyson yn ansawdd yr iaith yn yr oes sydd ohoni, mae'n siwr gen i fod tipyn o'r miwsig hwnnw wedi darfod gyda nhw - a hynny am byth."

Ie, os yw rhywun yn ymwybodol o unrhyw beth wrth ddarllen y gyfrol hon bod yn ymwybodol o'r effeithiau difaol hynny ar y gymdeithas Gymraeg ydyw.

"Heddiw , yn ein hysgolion Cymraeg iaith gyntaf ni, mae'r plant o aelwydydd Cymraeg yn y lleiafrif llethol. Dyna i chi mor bell mae'r gorlifo wedi cerdded. Ac rwyf i wedi byw yn ddigon hen i weld y peth yn digwydd," meddai.

Boneddigion yr Eisteddfod

Ond er yn galaru am y newid nid truth cwynfanllyd, pruddglwyfus mo'r gyfrol hon gan ei bod yn rhwydo afiaith ac asbri y dyddiau gwell, fel yn y bennod lle mae'n sôn am y tro ar fyd a ddaeth yn hanes cystadleuwyr Eisteddfodol:

"A ydych wedi sylwi fel y mae eisteddfodwyr a chystadleuwyr mewn eisteddfodau wedi mynd yn greaduriaid rhyfedd o ddof a pharchus. Y dyddiau hyn?" hola.

"Go brin y clywn am neb yn gwrthdystio'n gyhoeddus nac yn dringo'n herfeiddiol i'r llwyfan i brotestio, neu ymosod yn gorfforol ar y beirniad. Yn wir, go anaml y clywn am neb 'wedi cael cam' bellach. Mae rhyw foneddigeiddrwydd a rhyw oddefgarwch anniddorol wedi disgyn dros holl faes cystadlu eisteddfodol," meddai gan fynd rhagddo i sôn am ambell i ffrae a fflamiodd ar ddalennau ein papurau cenedlaethol.

Hoff o ddarllen

Hawdd gweld o'r gyfrol hon sut y daeth T. Llew yn gymaint storiwr gan ei fod yn ddarllenwr mawr ei hun.

"Darllen a darllen a darllen degau a channoedd o lyfrau - Saesneg yn bennaf - trwy flynyddoedd fy iengfyd a'm llencyndod, a hynny, rwy'n meddwl, yn fy ngalluogi yn ddiweddarach i sgrifennu llyfrau fy hunan."

Gwrthodwyd iddo, fodd bynnag, fynediad i Goleg y Drindod - er i'r Coleg hwnnw gallio drigain mlynedd yn ddiweddarach a'i ddyrchafu'n Gymrawd.

Wedi ei wrthod, fe'i derbyniwyd yn pupil teacher mewn ysgol. Bu wedyn yn gweithio gyda giang o nafis, yn gwympwr coed, yn weithiwr swyddfa ac yn ddyn siwrin cyn dod maes o law wedi cyfnod yn y Dwyrain Canol adeg y rhyfel yn brifathro ysgol.

A go brin y gellid dadlau i'r profiadau hynny fod yn well coleg nag unrhyw sefydliad addysgol swyddogol iddo!



Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy