±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Cewri
i'r dysgwyr

Detholiad o farddoniaeth yr ugeinfed ganrif

Ebrill 2003

Cerddi'r Cewri. Golygydd, Islwyn Edwards. Cyfres Cam at y Cewri. Gwasg Gomer. £7.95
.Casgliad o gerddi wedi eu dewis yn arbennig ar gyfer dysgwyr ydi hwn - er mwyn iddyn nhw gael blas ar rai o gerddi gorau'r ugeinfed ganrif yn y Gymraeg.

Er bod yma nifer o gewri diamheuol barddoniaeth Gymraeg yn bresennol - R. Williams Parry T. H. Parry-Williams, T Gwynn Jones, Gerallt Lloyd Owen, Alan Llwyd a Gwyn Thomas er enghraifft - ni ellir peidio a holi a yw pob un o'r beirdd y cynhwysir eu gwaith yn haeddu'r disgrifiad hwnnw.

Nid dysgwyr yn unig

Ond a rhoi o'r neilltu deitl braidd yn ymhongar y gyfrol y mae hon yn flodeugerdd ddefnyddiol ddigon at iws ty - nid yn unig ar gyfer y dysgwyr y'i bwriadwyd ar eu cyfer ond ddarllenwyr Cymraeg eraill hefyd.

Mae yma gerddi fel Hon, T. H. Parry-Williams, Daffodil, I. D. Hooson, Y Llwynog, R. Williams Parry, Dysgub y Dail, Crwys a Fy Ngwlad (Wylit, wylit, Lywelyn) Gerallt Lloyd Owen y byddai'n anodd eu hepgor o unrhyw gasgliad cynrychioliadol o farddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif.

Darllen a thrafod

"Pwrpas y gyfrol hon," meddai'r golygydd yn ei ragair, "yw cyflwyno rhai o gerddi gorau Cymru'r ugeinfed ganrif i bobl sydd wedi dysgu Cymraeg.

"Maen nhw i gyd yn addas i'w darllen gan unigolion . . . ond dewiswyd llawer ohonynt yn fwriadol er mwyn ysgogi trafodaeth mewn grwp neu ddosbarth hefyd."

Nid yn unig y mae amrwyiaeth o feirdd - Waldo, Gwenallt, Cynan, Steve Eaves, Twm Morys, Sarnicol, Myrddin ap Dafydd, Geraint Jarman, John Roderick Rees, Nesta Wyn Jones, Einir Jones, Sonia Edwards, Mererid Puw Davies, Sheelagh Thomas, Elin Llwyd Morgan a Mererid Hopwood - ond y mae amrwyiaeth o wahanol fathau o gerddi.

Braf gweld cwpledi epigramatig Sarnicol, er enghraifft,
Angau yw'r un peth sicr yn y byd
Er hyn pan ddaw, ein synnu a gawn i gyd.

yn cydwelya a thelynegion mirain fel Melin Tref-fin, Crwys ac Aberdaron, Cynan.

Dewis o englynion

Da gweld hefyd na chafodd y golygydd ei demtio i hepgor englynion a cherddi eraill yn y mesurau caeth gan dybio y byddent yn 'rhy anodd' i ddysgwyr.

Mae yma nifer o englynion sy'n dangos y grefft ar ei gorau fel Y Goeden Nadolig gan T. Arfon Williams,
Yn enw cariad, paid â'i gadael yn hagr
I wgu'n y gornel;
Dwy owns neu lai o dinsel
Wna'r wrach ddu'n briodferch ddel.


Ac englyn ysgytwol Alan Llwyd, Cenedl:
Ei charu, ond â chwerwedd; - ei serchus
Warchod ag eiddigedd,
Ac â'r bâl agor ei bedd
Er dyheu na ddaw'r diwedd.


A da gweld fod Gorwel Dewi Emrys yn parhau'n Hen derfyn nad yw'n darfod mewn casgliadau fel hyn!

Cwbl amserol

Myrddin ap DafyddMae nifer o'r cerddi yn ysol o amserol fel Y Trydydd Byd gan Myrddin ap Dafydd:
Cawn eu reis at ein heisiau
cawn yd, cawn eu mêl a'u cnau,
cawn eu ffrwythau gorau i gyd,
hufen eu daear hefyd;
ni, lydan ein waledi -
byd noeth sy'n ein bwydo ni.

Gwelwn eu plant yn swnian,
y bol gwag a'r ymbil gwan,
isio bwyd ar fymryn sbâr;
gwelwn lygaid eu galar
a thrwy logau banciau byd,
gwelwn holl aur eu golud.

Rhown geiniog prynu gwenith,
i'w gwlad, powlennaid o'n gwlith,
a llwch dyngarol ein llaeth
a gwên hael yn gynhaliaeth;
ni, lawn o bob haelioni -
byd noeth sy'n ein bwydo ni.


Gwerth dysgu

Er y gallai rhywun yn dadlau ynglyn â defnyddio'r gair cawr i ddisgrifio pob un o'r beirdd yma y mae digon o gerddi cawraidd i gyfiawnhau y teitl a digon i wneud i ddysgwr deimlo iddi fod yn werth chweil dysgu'r Gymraeg.

Ac i'r rhai sy'n dal yn ansicr eu cerddediad ieithyddol y mae yma faglau ar ffurf geirfa ac eglurhad ar waelod pob dalen.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy