±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Cerddi Powys
Sir a'i cherddi

Detholiad o gerddi am Bowys

Gorffennaf 2003


Cerddi Powys. Golygwyd gan Dafydd Morgan Lewis. Cyfres Cerddi Fan Hyn. Gwasg Gomer. £6.95.

Gyda'r "darn gwlad rhwng y Berwyn a Bannau Brycheiniog" yn cynnwys lleoedd fel Cilmeri, Clywedog, Epynt, Efyrnwy a Sycharth ni fu beirdd y canrifoedd yn brin o bethau i'w cyffroi i gyfansoddi ym Mhowys.

Ar ben hynny, bu Powys yn fagwrfa i nifer o feirdd amlwg y Gymraeg. Rhai fel Iorwerth Cyfeiliog Peate a Gwyn Erfyl wedi eu codi yno - eraill fel Emrys Roberts wedi ymsefydlu yno.

Rhwng hyn i gyd doedd gwaith Dafydd Morgan Lewis ddim mo'r anoddaf ac y mae'n cychwyn ei gasgliad o gerddi gyda rhai o linellau mwyaf adnabyddus barddoniaeth Gymraeg;

Stafell Gynddylan ys tywyll heno
Heb dân, heb wely,
Wylaf dro, tawaf wedyn


Nid yn unig mae diweddariad Gwyn Thomas o ganu hunllefol Heledd yn gwneud i ddarllenydd deimlo ei fod yn camu i diriogaeth gyfarwydd ond hefyd yn gosod cywair ar gyfer y casgliad sydd ag ymwybyddiaeth ddofn o fawredd a gollwyd, brwydrau i'w adfer a dyfodol sy'n her.

Cilmeri Gerallt

Ac nid yw hynny'n cael ei gyfuno'n well yn unman nag yn Cilmeri Gerallt Lloyd Owen:

Fin nos fan hyn
Lladdwyd Llywelyn.
Fyth nid anghofiwn hyn.

Y nant a welaf fan hyn
A welodd Llywelyn,
Camodd ar y cerrig hyn.

Fin nos, fan hyn
O'r golwg nesâi'r gelyn.
Fe wnaed y cyfan fan hyn.

Rwyf fi'n awr fan hyn
Lle bu'i wallt ar welltyn,
A dafnau o'i waed fan hyn.

Fan hyn yw ein cof ni,
Fan hyn sy'n anadl inni,
Fan hyn gynnau fu'n geni.

Y pumed casgliad

Cerddi Powys ydi'r bumed gyfrol yn y gyfres ragorol hon o gerddi gan Wasg Gomer. Erbyn y bydd Cerddi Ynys Môn, Caerdydd, Shir Gâr (nid Sir, gyda llaw), Clwyd, Sir Gaernarfon, Y Cymoedd, Meirionnydd ac Y Byd wedi ymuno â Cherddi Powys a Cherddi Llyn ac Eifionydd, Abertawe, Sir Benfro a Ceredigion, a gyhoeddwyd yn barod, bydd hon yn gyfres wirioneddol werth chweil o flodeugerddi.

Er nad ydw i'n rhy siwr ynglyn â phenderfyniad y wasg i gael golygyddion gwahanol ar gyfer y cyfrolau mae rhywun yn gweld rhinwedd mewn cael rhai gydag adnabyddiaeth leol i ddethol cerddi ar gyfer eu broydd eu hunain.

Yr hyn ydych chi'n ei golli, wrth gwrs, yw undod chwaeth, er bod yna un golygydd cyffredinol, R. Arwel Jones.

Ta beth, i un o gogle Sir Drefaldwyn y rhoddwyd y gwaith o ddewis cerddi am Bowys, Dafydd Morgan Lewis o Garthbeibio, a hyfryd yw gweld y gyfrol yn cael ei chyhoeddi i gydfynd ag ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â bro y gadawodd y frwydr genedlaethol gymaint o'i hôl arni dros y canrifoedd gyda chysylltiadau amlwg â'r ddau arwr cenedlaethol mwyaf, Llywelyn a Glyndwr.

Dim Iolo

Er bod tair cerdd i Gilmeri (Gerallt Lloyd Owen, Gwynn ap Gwilym ac Iwan Llwyd) mae rhywun yn synnu braidd nad oes o leiaf ddetholiad o gywydd Iolo Goch i Sycharth ymhlith y cant o gerddi - er bod un o'i linellau, Lle dôi beirdd aml, lle da byd, yn cael ei dyfynnu ar gychwyn Llosgi Sycharth gan Myrddin ap Dafydd.

"Daeth i Sycharth," medda fo, "ac arno syched."

Dim ond un anrhaith oedd llosgi llys Owain gan fab brenin Lloegr yn 1403. Yn nes ymlaen daeth dwr i ddifa yng Nghlywedog ac Efyrnwy a gwres bwledi dros Epynt - oll yn cael eu cofio yn y casgliad hwn.

Trist oedd yr awr, y gymdogaeth ar chwâl,
Bugeiliaid Epynt yn ffarwelio'n friw,
Heb gael ond briwsion llywodraeth yn dâl
Am ildio'u treftadaeth â'u ffordd o fyw


Meddai Tom Davies wrth gychwyn soned sy'n galaru am Epynt.

Yn sgîl y newid, a'r byddarol ru
Aeth Epynt mebyd i mi'n fynydd du.

Milwyr Owain ar droed yn Hyddgen ddyddiau fu yn ysbrydoli Gwynn ap Gwilym a'i elyn yn ymarfer ar diroedd Powys y cyfnod hwn - dyna'r rhychwantu sydd o fewn Cerddi Powys.

Uno Powys

Dywed Dafydd Morgan Lewis iddo ef fynd ati'n fwriadol i wau undod hanesyddol.

"Wrth lunio'r casgliad hwn, chwiliwn am y pethau oedd yn uno'r Bowys newydd honno a ddaeth i fodolaeth lai na deng mlynedd ar hugain yn ôl. Wrth ddarllen y cerddi, daeth thema i'r amlwg nad oeddwn wedi meddwl amdani cynt.

"Mae yna beth wmbredd o gyfeiriadau yn y cerddi a gesglais at foddi cymoedd. Mae Llyn Llanwddyn, Cwm Elan a Chlywedog yn adnabyddus i bawb, wrth gwrs, ond mae llu o gyfeiriadau i'w cael at fygwth cymoedd eraill hefyd . . . Mae'n wir mai Tryweryn yw'r symbol mawr . . . ond o fewn ffiniau Powys y digwyddodd llawer o'r bygwth a'r boddi. Ychwaneger at hyn y driniaeth a gafodd trigolion Epynt yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac fe welir ein bod yn bobl sy'n hen gyfarwydd â gormes."

Hyfrydwch telynegaidd

Casgliad felly a digon i gnoi cil arno ond casgliad hefyd nad yw'n amddifad o hyfrydwch telynegaidd cerddi fel Wrth Fynd efo Deio i Dywyn gan Iago Mochnant a Pennant Melangell gan Nansi Richards.

Ac mae hi, Nansi, yn haeddu cywydd ac englynion coffa mewn cyfrol nad yw'n swil o fawrygu 'gwyr enwog' gydag Yr Esgob William Morgan gan Gwenallt hefyd ymhlith y cerddi.

Rhwng y myrtrwydd hefyd, fel petai, nid yn unig y mae Ann Griffiths ond mae englyn i Laura Ashley gan Idris Reynolds:

Daeth niwlen dros yr hendref - yn orchudd
O barch, ac o dangnef
Powys, ei thywys wnaeth Ef
Adre yn lliwiau'r Hydref.

Wrth gwrs, mae nifer o gerddi tlws i leoedd ac yn eu plith gywyddau mawl a chroeso a gyhoeddwyd yn gysylltiedig ag ymweliadau yr Eisteddfod Genedlaethol â gwahanol froydd ym Mhowys fel y Cywydd Mawl i Faldwyn a gyfansoddodd T. Llew Jones adeg ymwelid y Brifwyl â'r Drenewydd:

Y mae sir ym Mhowys hen,
Sydd ddedwydd fel gardd Eden,
Godidog gan goed ydyw,
Hardda un o'r siroedd yw;
A rhyw fwynder a erys
Ers cyn co drwy'r fro ddi-frys.

Ond mae lle i ofni i Ddafydd Morgan Lewis bwyso'n ormodol ar y farddoniaeth 'eisteddfodl' hwylus hon gan nad ydyn nhw, bob amwser, yn dangos y beirdd a'u cyfansoddodd ar eu gorau ond yn gwneud job o waith!
gan Glyn Evans

Holi Dafydd Morgan Lewis









Gwefan Eisteddfod
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy