±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cloriau
Llond hosan i'r plant

Dewis o lyfrau plant ar gyfer y Nadolig

Dydd Mercher, Rhagfyr 12, 2001

• Adolygiadau gan Eleri Griffiths

Pleser oedd taro golwg dros rai o’r llyfrau plant newydd sydd allan erbyn y Dolig - a chefais gymorth Alaw, pedair oed, i roi barn llawer mwy perthnasol na f’un i!

Ceir dewis aruthrol o lyfrau hardd erbyn hyn i lenwi sachau Santa ac yr oedd yn fwynhad i’w darllen.

• Nadolig Llawen Hipo Bach (Bettina Paterson addas. Elin Meek Gomer, £4.95).
Llyfr clawr caled hynod o liwgar gyda llabedi i’w codi ar bob tudalen.

Mae Hipo bach a’i gyfeillion, Mali a Bobi, yn brysur yn paratoi at y Nadolig, yn siopa, dewis Coeden Nadolig, coginio a chanu carolau.

Ar ôl danfon cardiau, addurno’r goeden, chware yn yr eira mae’r diwrnod mawr yn cyrraedd a phawb yn cael sbort yn agor anrhegion!

Llyfr syml heb arlliw o grefydd ar ei gyfyl, addas i blant lan at bump oed.

• Braf oedd gweld mwy o lyfrau yn ymddangos o’r gyfres Straeon Plant Bach gan Gwasg Carreg Gwalch. Bellach mae Y Forforwyn Fach, Pinocio, Sinderela a Jac a’r Goeden Ffa wedi cael ei crynhoi a’u talfyrru yn yr un modd ag a wnaethpwyd gyda Hugan Fach Goch, Y Tri Mochyn Bach; Pws Esgid Uchel ac Eira Wen.

Maent yn llyfrau bwrdd bach deniadol gyda’r storiau wedi eu hadrodd yn fyr a syml.

Rhaid eu llongyfarch ar y talfyriad o Pinocio - stori anodd iawn i’w chrynhoi!

Mae’r pris hefyd yn rhesymol, £2.95 y llyfr ac un o’r pethau a’m plesiodd oedd bod modd eu darllen mewn deng munud - delfrydol ar gyfer amser gwely! Addas i’r rhai dros ddwy neu dair oed.

Clawr Oli Olew• Tipyn o newid cywair oedd llyfr Catrin a Guto Evans, Oli Olew - y diweddaraf yng nghyfres Llyfrau Llawen y Lolfa am £4.95.

Mae Oli druan yn cael bywyd diflas braidd mewn hen sied gyda llawer o hen offer eraill yn ffrindiau ac yn elynion iddo, fel Rhisiart Rhwd Drwg.

Cymeriad brawychus braidd yw’r hen Gwili Gwich am ei fod yn achosi i’w ffrindiau wichian mewn poen!

Felly, aiff Oli i ffwrdd i’r byd mawr tu allan i chwilio am gartref newydd a chael llond twll o ofn a sylweddoli bod ei ffrinidiau yn ofalus ohono wedi’r cwbl!

Lluniau dramatig ac effeithiol a gwerth oleiaf hanner awr o stori mewn Cymraeg graenus, addas i blant dros bump oed (oed darllen, wyth).


Clawr Fi a fy Nghorff• Mae Fi a Fy Nghorff (D MacKinnan, A Sieveking addas. Siân Lewis) yn llyfr ffeithiol i blant lan at chwech oed ac yn addas i’w ddarllen gyda’r rhai lleiaf hefyd gan ei fod yn llyfr rhyngweithiol gyda chyfarwyddiadau a chwestiynau ar bob tudalen i’r plant eu hateb a dysgu mwy am eu cyrff eu hunain.

Mae ffotograffau lliw bendigedig gyda delweddau hapus o blant o bob lliw a llun yn gwneud pethau gyda’u cyrff.
£4.50 . Gomer.

Clawr• Caneuon Clinc a Chlonc a Chlec - Falyri Jenkins £3.95. Lolfa. Bargen o lyfr yw’r casgliad hyfryd hwn o ddeunaw o ganeuon gwreiddiol ar destunau fel Jac Codi Baw, Ystlum Flewog, Storm, Lori Ludw, Morgrug a Sali Mali....

Mae’r caneuon yn rhai hawdd eu dilyn gyda thonau syml iawn sy’n ddi-drafferth i’w dysgu a cheir tipyn o ailadrodd cwpledi fel bod y rhai lleiaf yn gallu dysgu’r geiriau.

Nid oes angen gradd mewn cerddoriaeth i ddilyn y cyfeiliant ychwaith!

Byddai’r llyfr hwn yn ddelfrydol i gylchoedd meithrin, Ti a Fi a rhieni a phlant sy’n mwynhau canu gyda’u gilydd.

Clawr• Owain ar y Mynydd gan Malachy Dolyle a Giles Green field addas. Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch) £4.50

Mae’r cyfuniad o stori fwyn ac arlunio dawnus yn fendigedig yn y llyfr hwn ac mi roeddwn i ac Alaw yn gytun mai dyma ein ffefryn o’r bwndel llyfrau Dolig a gawsom.

Mae’r stori am Owain yn perswadio ei daid i fynd ag ef i ben y mynydd, a’r antur sy’n dilyn yn llawn dirgelwch, hud a syndod.

Mae naws y llyfr yn afaelgar a gellir ymgolli’n llwyr yn y stori. Ceir portread byw ac annwyl o berthynas Owain a’i Daid a mae’r darluniau o olygfeydd dramatig y mynydd yn gyfarwydd i’r rhai sy’n adnabod mynyddoedd Cymru!

Erbyn y diwedd mae’r darllenydd yn ochneidio o flinder a rhyddhad ar ôl concro’r mynydd mawr a dychwelyd yn ddiogel!

• Nadolig Cae Berllan gan Heather Amery a Stephen Cartwright addas. Emily Huws, Gomer, £5.95

Llyfr clawr caled codi llabed yw hwn i blant dros dair oed.

Mae’n olrhain hanes Mei, Mari a’r plant Cadi a Jac ar y fferm cyn Dolig.

Rhaid bwydo’r anifeiliaid, sgwennu llythyrau at Santa, addurno’r goeden a disgwyl am y diwrnod mawr.

Cânt hwyl a phleser wrth agor eu anrhegion i gyd a cheir lluniau Nadoligaidd traddodiadol o blant yn yr eira ac ati.

Llyfr ysgafn, lliwgar, hawdd ei ddilyn gyda’r chwilio am yr hwyaden ar bob tudalen yn bôs bach ychwanegol i blesio’r plant.

• Oes gennych chi farn am lyfrau plant?
Ebostiwch
ni.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy