|
|
Ar
drywydd ysbrydion
Digwyddiadau rhyfedd mewn ty yng Nghymru
Dydd Iau, Rhagfyr 06, 2001
|
Borley Cymru gan J. Towyn Jones. Cyfres y Gannwyll,
golygydd, Lyn Ebenezer. Gwasg Carreg Gwalch. £3.99.
Adolygiad gan Glyn Evans.
Rhaid cyfaddef nad oedd y teitl Borley Cymru yn cyfleu
dim i mi ar yr olwg gyntaf.
Er, dylai gweld enw J. Towyn Jones ar y clawr awgrymu fod ganddo rywbeth
i’w wneud ag ysbrydion, drychiolaethau a’r arallfydol.
Y mae’r gweinidog anghydffurfiol o Sir Benfro yn gasglwr deheuig straeon
o’r fath.
Ty llawn ysbrydion
Erbyn gweld, rheithordy yn Swydd Essex oedd Borley; yn cael ei adnabod
fel y ty yn Lloegr gyda’r mwyaf o ysbrydion ynddo. "The most haunted
house in England."
Dydio ddim ar ei draed erbyn hyn. Ond er iddo gael ei losgi’n ulw
"ni ddiffoddodd ei enw drwg . . . a chred rhai fod tipyn mwy yn aros
nag arogl mwg lle bu, sef lleian, medd llawer, nad ydyw o’r
byd hwn."
Dyna, felly osod y cefndir. Yn lle, felly, y mae ty cyfatebol yng
Nghymru?
Borley Cymru ydi Rheithordy hen eglwys ddiflanedig Paul yn
Llanelli.
Digwyddiadau rhyfedd
Agorwyd drysau’r eglwys fis Rhagfyr 1850 a bu’r oedfa olaf yng Ngorffennaf
1980.
"Yno," meddai J. Towyn Jones, "gerllaw’r allor ddrylliedig, halogedig,
megis golosg poethoffrwm paganaidd, ymestynnai hen foncyffion duon
talsyth nad oedd ond y mwyaf trwchus ohonynt wedi gallu gwrthsefyll
tân a ysodd organ St Paul yn sgerbwd."
Rhwng y ddau ddyddiad , fodd bynnag, bu digwyddiadau rhyfedd ac od
yn gysylltiedig a’r rheithordy mawreddog ger yr eglwys a denwyd yno
yn ei ddydd un o ymchwilwyr blaenllaw y Gymdeithas Ymchwil Seicig,
y Parchedig Alfred T. Fryer, y dywed J. Towyn Jones ei fod "yn ymholwr
manwl, brwd a diflino".
Ychwanega iddo dibynnu’n llwyr ar gywirdeb adroddiadau Fryer wrth
gywain yr hanes ar gyfer y gyfrol hon.
"Barn Fryer am y tystion oedd eu bod yn gwbl argyhoeddedig fod popeth
a honnent wedi digwydd yn bendant, a buasent yn barod i wynebu unrhyw
ymchwiliad yn eofn a hyderus," meddai.
Profiad gwraig y rheithior
Adroddodd gwraig y rheithor, D. Morgan Jones, sut y cododd hi i fynd
i’r gegin berfeddion un noson o aeaf yn 1894 a gweld wedi iddi ddychwelyd
i fyny’r grisiau ei gwr yn ei disgwyl ar y landin.
Fodd bynnag, wedi ei gyfarch a mynd i’r llofft, yr oedd ei gwr yn
dal i orwedd ynghwsg yn ei wely heb godi o gwbl yn ei habsenoldeb.
Dyna’r ddrychiolaeth gyntaf ond bu digwyddiadau rhyfeddol eraill hefyd
gyda chloc yn cael ei droi’n ôl mewn un ystafell.
O ddrwg i waeth
Yr oedd y lle yn ddychryn wrth i bethau fynd o ddrwg i waeth.
"Adlewyrchwyd yr aflonyddwch yn y Ficerdy ar ei ganfed gan anfodlonrwydd
cynyddol y plwyfolion. Ymgasglai storm o gwmpas y ficer, a honno’n
dduach na’i gasog, a chynhyrfwyd pwysigion sidêt a startshlyd i gorffwylltra
gwynias. Corddai trobwll o emosiynau yno, ac mae hysteria felly yn
beth hunanbarhaol," meddai Towyn Jones mewn arddull sy’n gymysgedd
o’r pregethwrol a’r dramatig.
Cyfrol fer o ddim ond 79 tudalen yw hon gyda dyrnaid o luniau du a
gwyn perthnasol yn y canol.
Ond mae’n stori ddiddorol er nad yw arddull yr awdur bob amser yn
hwyluso ei dweud.
A thybed na fyddai'r llyfr wedi elwa o well teitl?
Oes gennych chi farn am y llyfr hwn?
Ebostiwch ni.
|
|
|