±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol
Geiriau'r wlad

Codi hiraeth wrth fynd a ni'n ôl mewn amser

Dydd Iau, Tachwedd 8, 2001

Cydymaith Byd Amaeth, Cyfrol 4: Sabrina - Zetor gan Huw Jones. Gwasg Carreg Gwalch. £10
Pum seren
Adolygiad gan Glyn Evans

Pa sawl math o dir sydd?
Yn ôl pedwaredd gyfrol y Cydymaith Byd Amaeth y mae yna o leiaf 85!

Dyna faint o gyfeiriadau sydd gan Huw Jones dan y gair Tir yn yr olaf o gyfrolau ei eiriadur amaethyddol rhyfeddol.

Mae’r cyfeiriadau dan Tir yn amrywio o tir agored i dir caib, o tir coch i tir ffaeth a thir ystent - 85 ohonyn nhw i gyd a hynny’n adlewyrchiad o drylwyredd y gwaith uchelgeisiol hwn.

Blagurodd y gwaith yn 1994; cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf yn 1999 ac yn awr, 18,000 o eiriau neu ymadroddion yn ddiweddarach, y mae’r gyfrol olaf wedi gweld golau dydd o fewn dwy flynedd i’r gyntaf sy’n adlewyrchu’n dda ar y cyhoeddwyr, Gwasg Carreg Gwalch, gan fodi pob cyfrol oddeutu 400 tudalen ac i gyd hefyd wedi cadw at y pris o ddecpunt yr un.

O wair i dractor

Mae’r bedwaredd yma yn rhychwantu’r geiriau annisgwyl, Sabrina a Zetor - y cyntaf yn fath o wair a’r llall yn fath o dractor!

Mae crwydro drwy’r cyfrolau yn gymysgedd o fynd am dro i gefn gwlad ac o deithio yn ôl mewn amser.
Ac yn hynny o beth y maen nhw yn gyfrolau digon trist achos darlunio y maen nhw gyfnod sydd wedi darfod gyda llawer o’i eiriau a’i ymadroddion yn anarferedig erbyn hyn.

Y maen nhw hefyd yn adlewyrchiad o gyfoeth geiriol gwladwyr a’u hathrylith mewn trin iaith. Ni ellir diolch digon i Huw Jones - gweinidog wrth ei alwedigaeth ond a gychwynnodd ar ei yrfa mewn llofft stabal - am ei lafur a’i gyfraniad.

Addysg ac atgofion

Y mae’r cyfrolau yn gymysgedd o addysg acl atgofion.

Mae pleser arbennig mewn cael eglurhad o darddiad geiriau aml eu defnydd yma.

Er enghraifft byddwn i’n cael fy nghyhuddo yn aml pan yn blentyn o "sbeuno drwy bethau" rhywun ac er yn deall yn iawn beth a olygai hynny rhaid imi gyfaddef na chroesodd fy meddwl beth oedd tarddiad yr ymadrodd.

Mae’r gair sbeuno (sbaena, sbaeno) yn y gyfrol hon gyda’r eglurhad mai dull criw o weithwyr o dorri yd â chryman yw hwn ac yn wahanol i’r dull arferol gyda phladur.

"Mae ansicrwydd am darddiad y gair sbaeno; ‘span’ medd rhai, sef agor y llaw a gafael am dusw o’r yd wrth ei dorri . . . ond o ‘swp’ y daeth medd eraill . . ."

Mae traddodiad hefyd mai dull gynaeafu yd o Sbaen yw wedi ei gyflwyno i’r Cymry gan Sbaenwyr y drylliwyd eu llong ar ein glannau.

Yn ffigurol daeth i olygu "chwilio, chwilota, prowla o gwmpas ty rhywun arall, e.e. disgrifir pobl hel haearn yn sbeuna."

Synau anifeilaidd

Yn y gyfrol hon hefyd y mae’re awdur yn sôn nid yn unig am y synau y mae anifeiliaid yn ei wneud ond y synau a ddefnyddir gan ffermwyr i alw ar ac i yrru yr anifeiliaid hynny.

Ceffylau yn gweryru, teirw yn rhuo, buguno a pheuo er enghraifft; moch yn rhochian; gwyddau yn clegar a ieir yn clowcian, clochdar, trydar a chlwcian - er rwy’n synnu nad yw’n cynnwys rhodresu hefyd ymhlith y synau a wneir gan ieir.

Y mae’r swn a wneir i alw ar ac i yrru anifeiliaid yn amrywio o le i le:

Bwwch, bwwch, bwwch, oedd ein galwad ni yn ne Môn ar wartheg ond yn cael ei ddefnyddio mewn rhan arall o'r ynys yn ôl y gyfrol hon yr oedd trwboch, trwboch, trwboch.

Ym Maldwyn yr alwad fyddai, trw’i, trw hop.

Yng Nghaerfyrddin gelwid ar ieir gyda’r swn dic,dic-dic-dic ond ym Môn siwc, siwc-siwc-siwc fyddai’r alwad a chico, chico-chico, chico dic, chico dic yn Edeirnion!

Er mwyn gyrru ieir y swn fyddai shww, whishww-shw a gwaith diflas oedd eu gyrru hefyd, pa bynnag swn a ddefnyddiwyd.

Yr oedd suntur yn air cyfarwydd i mi am fath arbennig o dir ac yr oedd hi bob amser yn rhywfaint o dorcalon cyrraedd y suntur hwnnw wrth dorri twll. Eglurir mai cyfuniad yw o swnd a tir ac yn cyfleu y tir caregog hwnnw dan y pridd.

Dwy ochr i'r clawdd

Ymadrodd cyffredin iawn yw "tu cleta’r clawdd" gyda dweud fod rhywun "y tu cleta i’r clawdd" mewn rhyw ddadl neu anghaffael yn golygu ei fod yn y lle cryfaf neu ddiogelaf.

Tybiwn ar un adeg mai ffurf o "caled" oedd "cletaf" ond y mae Huw Jones yn cadarnhau mai o clyd y mae’n dod ac o’i roi ar bapur yn ymddangos fel y tu clytaf i’r clawdd sef yr ochr fwyaf clyd i glawdd ac yng nghysgod y tywydd.

"Ymadrodd cyffredin am ochr y cysgod i’r clawdd, yr ochr bellaf o’r gwynt a’r glaw a’r storm. Gradd eithaf clyd (diddos, cysgodol) . . ."

Ychwanegiadau difyr at ei eglurhad o eiriau ac ymadroddion yw’r enghreifftiau mynnych ohonyn nhw yn cael eu defnyddio ac yn yr achos hwn mae ganddo’r enghraifft:

"Trystiwch chi’r porthmon i fod y tu clyta i’r clawdd bob amser."

Ac o WH Roberts yn dweud: "Colli peth, ennill peth oedd enw’r gêm, a gobeithio bod y tu clytaf i’r clawdd ar ddiwedd yr wythnos."

Ymadroddion llawn ystyr

Ymadrodd sy’n dal i gael ei ddefnyddio heddiw yw "rhoi llond ei chratsh" i rywun ond tybed faint sy’n sylweddoli wrth ei ddefnyddio mai rhan o drol ydi cratsh. O wybod pa ran mae ei ddefnydd yn llawn synnwyr cyffredin.

Ymadrodd ystyrlawn arall ydi tywydd grifft - sef y math hwnnw o dywydd gwlyb a thamp yr ydym yn ei gael pan fyddo llyffantod yn bwrw eu grifft - er wn i ddim faint sy’n gyfarwydd a’r gair grifft y dyddiau hyn achos mewn un llyfr ysgol gwelais ddefnyddio jeli llyffant amdano.

Nid yw’r cydymaith, fodd bynnag, yn cyfyngu ei hun i hen eiriau ac ymadroddion ac adlewyrchir datblygiadau mwy diweddar gydag adran arbennig i weiriau newydd ac ymadroddion fel Tir Cymen a Thir Gofal yn cael eu hegluro.

Darllenwch hefyd:
Holi Awdur -
Cyfrol 3 -



Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy