±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Meini'r Orsedd ym Mhatagonia
Cadeirio Mónica
ym Mhatagonia

Cyhoeddi cerdd Cadair y Wladfa yn Llais Llên

Dydd Iau, Hydref 25, 2001

Fel ag yng Nghymru ychydig fisoedd yn ôl merch oedd bardd cadeiriol Eisteddfod y Wladfa ym Mhatagonia eleni.

Un  o ferched dawns flodau Eisteddfod y WladfaOnd er nad ydi gweld merch yn cael ei chadeirio yn beth anghyffredin yn y Wladfa dyma’r tro cyntaf i Mónica Jones de Jones gael yr anrhydedd.

Yn ferch o’r Wladfa treuliodd Monica gyfnod yn byw yng Nghymru ac y mae’n briod â brodor o Ddyffryn Conwy, Gwyn Jones, sydd, gyda Mónica, yn cadw Gwesty Tywi ar Stryd Michael D. Jones yn y Gaiman.

Y mae hi’n ddisgynnydd o’r gwladfawyr cynnar.

Y mae gan Monica ferch yn ei harddegau, Geraldine, sydd hefyd yn barddoni, a chanddi hi a Gwyn fab pedair oed, Macsen, sy’n cael ei fagu yn siarad Cymraeg.

Cerdd fer yn adlewyrchu menter herfeiddiol yr arloeswyr cynnar yw ‘r un a enillodd y Gadair i Mónica ac yn arwydd o’i hymlyniad angerddol hi i’w gwreiddiau Cymreig.

Yr oedd dathlu nid yn unig yn y Gaiman yn dilyn buddugoliaeth Monica yn Eisteddfod y Wladfa dros y Sul ond yng Nghymru hefyd gan fod nifer o ymwelwyr â’r Wladfa wedi aros yng Ngwesty Tywi.

Yn wir, ar furiau’r gwesty y mae cerddi gan Twm Morys ac Iwan Llwyd.

Dyma’r gerdd fuddugol:

Breuddwydion Rhyddid

Cyffro yn y mynyddoedd.

Distawrwydd crynedig
yn yr anialwch.
A llais o'r môr
yn uno breuddwydion rhyddid.


Ceffylau yn carlamu
i Fod Iwan.*
Atsain y copaon
yn rhagfynegi'r ffarwél,
yn llifo`n nant o ddagrau
i lenwi'r llynnoedd.

Yn disgwyl -
llais Camwy
yn ymddolennu'r wyrth.


Dirnad y tafodau dieithr
mae hen greigiau'r bwthyn.
Ffárwel i leisiau'r rhieni,
a breuddwyd y dyfodol dilyffethair
a chynhaeaf yr hau
yn llenwi'r gân â gobaith.
A suo canu'r mamau
yn ffarwelio am byth
â'u hannwyl blant.

Dwylo yn wylo
²µ·É±ð»å»åï´Ç
bloeddio
canmol
cysuro..


Fel colomennod mewn hediad dirgel;
cryfder yr enaid yn codi'r gobaith
a llais Abraham**
yn anialwch y paith.

Dyrnaid o'r hil Geltaidd
yn glanio yng ngwlad yr addewid!


*Bod Iwan:Cartref y Parchedig Michael D. Jones (Arweinydd y Wladfa), yn
y Bala.
** Abraham Mathews oedd un o bregethwr cyntaf y Gwladfawyr.



Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy