|
|
Achos
sy'n staen ar gyfiawnder
Llyfr gan newyddiadurwr yn sôn am achos cynllwynio yn
1983.
Dydd Iau, Hydref 18, 2001
|
Achos y Bomiau Bach, gol Lyn Ebenezer
Gwasg Carreg Gwalch, £3.99
Adolygiad Glyn Evans
Ar ddalen gyntaf y llyfr yma am achos cynllwynio yn ôl yn 1983
y mae’r awdur, Ioan Roberts, yn holi pa hawl oedd ganddo ef fel gohebydd
yn y llys i edrych ymlaen gymaint at ei ddiwrnod gwaith yn ystod naw
wythnos yr achos.A dyfodol wyth o bobol a’u teuluoedd gymaint yn y
fantol.
Mae’n debyg y dylwn inna hefyd holi faint o hawl oedd gen i i ddisgwyl
mwynhad o lyfr yn trafod yr holl fusnes hyll.
Ond mi gefais i.
Mae’r llyfr hwn yn gafael o’i ddalen gyntaf.
Wedi dweud hynny, mae’n debyg y dylwn i gyhoeddi diddordeb.Mi fuo
Ioan a minnau yn cydweithio am rai blynyddoedd yn ohebwyr ar Y
Cymro ac mi rydan ni’n ffrindia.
Dawn arbennig
Ond dydi hynny ddim yn fy ngwneud i’n rhagfarnllyd a daw yn amlwg
o’r cychwyn cyntaf i unrhyw un fod gan Ioan ddawn arbennig ar gyfer
sgrifennu'r math yma o lyfr.
Mae’r arddull yn llyfn, yn rhugl ac yn llifo o ddalen i ddalen fel
y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan newyddiadurwr da.
Er ond yn gyfrol fer, cant a phedwar o dudalennau, y mae hon yn gyfrol
bwysig achos ei bod hi'n darlunio sut y gallodd yr awdurdodau ddefnyddio
deddf gwlad i danseilio hanfod canolog y system gyfreithiol - nad
ydych chi’n mynd ati i gosbi neb nes ei gael yn euog a’ch bod chi’n
ddi-euog nes y gellir profi’n wahanol.
Yn yr achos hwn yr oedd gynno chi griw o bobol mewn llys oherwydd
pethau roeddan nhw’n eu credu a’u dweud yn hytrach na beth roeddan
nhw wedi ei wneud.
Ar ben hynny, mi dreuliodd pobol ddieuog fisoedd yng ngharchar cyn
hyd yn oed gyrraedd y llys a oedd i wrando ar yr achos yn eu herbyn.
Testun dadlau cyfreithiol
"Byddai rhywun yn disgwyl i bennod am fywyd mewn carchar ddod ar ôl
disgrifiad o’r achos llys oedd wedi anfon pobl yno. Yn y drefn arall
y digwyddodd pethau yn yr achos hwn, ac mae’r cyfnodau hir a dreuliodd
y diffinyddion dan glo cyn cyrraedd llys yn dal yn destun dadlau cyfreithiol
ddeunaw mlynedd yn ddiweddarach," meddai Ioan Roberts.
"Roedd y rhai a gafwyd yn ddieuog wedi bod yn y carchar am hyd at
naw mis a hanner cyn cael mechniaeth, ac un a gafwyd yn euog o rai
troseddau wedi bod dan glo am un mis ar hugain cyn cael ei ddedfrydu,"
ychweanega.
Yr oedd yr achos hwn yn staen ar gyfiawnder. Does dim amheuaeth am
hynny a daw hynny yn eglur iawn yn y llyfr hwn.
Plismyn anonest
Meddai’r Athro Phil Thomas o Brifysgol Caerdydd yn y llyfr: "Yn anffodus
i’r bobl ifanc yn yr achos fe aethon nhw i afael plismyn anonest oedd
yn teimlo y byddai dal unrhyw un yn gwneud y tro."
Ac mae’r holl gwestiwn o gyhuddo pobl o gynllwynio hefyd -
mi gawsom ni lawer o hynny yn erbyn Cymry yn ystod y chwech, saith
ac wythdegau oherwydd ei fod yn gyhuddiad mor gyfleus o safbwynt y
meini prawf o safbwynt yr erlyniad.
Blwyddyn ar ôl yr achos hwn pasiwyd y ddeddf Police and Criminal
Evidence a’i gwnaeth yn orfodol i recordio cyfweliadau gyda’r
heddlu - byddai eu hachos hwy wedi bod yn un tra gwahanol pe byddai’r
ddeddf honno ar y llyfrau ynghynt.
Mae’r pwynt yn cael ei wneud mai un peth a arbedodd rai o’r diffinyddion
oedd i’w hachos gael ei wrando gerbron rheithwyr.
Brawychus, felly, yw meddwl fod yr hawl hwnnw dan fygythiad ar hyn
o bryd!
|
|
|