±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Mynd i nôl hysbyseb a dwad yn ôl efo gwraig!

Cyfrol i goffau'r bardd a'r newyddiadurwr Mathonwy Hughes.

Dydd Iau, Medi 13, 2001

Cofio Mathonwy. Amryw gyfraniadau. Gwasg Gwynedd, £3.95.
Tair seren
Adolygiad Glyn Evans


Anodd credu am fardd, iddo warafun iddo’i hun ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ond dyna’r gwir am Fathonwy Hughes a enillodd gadair Eisteddfod Aberdâr yn 1956 gyda’i awdl Y Wraig.

Ddim o ddifri
Ond yn y llyfryn, Cofio Mathonwy, sydd newydd ei gyhoeddi datgelir nad oedd Mathonwy ei hun yn hapus gyda’r canlyniad am nad oedd yn ystyried ei ymgais yn un o ddifrif.

Meddai Derwyn Jones am y digwyddiad;

"Yn wir, nid oedd yn hapus o gwbl iddo ennill . . . Dyma’r flwyddyn y priododd ef a Mair ac yn rhannol i’w phrofocio hi ac i gael hwyl gyda’r beirniaid y lluniodd yr awdl."

Ychwanega nad oedd y bardd yn fodlon i’w hailargraffu mewn cyfrol ar ôl hynny.

"Dichon fod ynddi rai pethau rhy sathredig, ond mae’r grefft yn dda, y gerdd yn wir ddoniol, ac yn llawer gwell na llawer o awdlau awdlaidd, marwanedig," meddai Derwyn Jones.

Torri tir newydd
Fodd bynnag gwelodd un o’r beirniaid, yn arbennig, T. H. Parry-Williams, rinweddau go bendant yn yr awdl ac y mae Peredur Lynch yn dyfynnu o’i feirniadaeth ef i atgyfnerthu ei bwynt ei hun fod awdl Mathonwy yn Aberdâr yn un "a dorrodd dir newydd yn hanes yr awdl eisteddfodol."

"Cyfeiliornus," meddai Peredur Lynch yw’r syniad, ymhlith rhai, fod yr awdl yn un "wan".

Yn wyneb gwahaniaeth barn o’r fath byddai cynnwys yr awdl wedi bod yn ychwanegiad gwerthfawr i’r gyfrol fach hon. Yn sicr, mae lle iddi gan nad yw’r gyfrol oll ond 63 tudalen.

Priodas ryfedd
Fel mae’n digwydd, cadeiriwyd Mathonwy o fewn wythnosau i briodi.

Olwen Roberts, merch cyfaill mwyaf Mathonwy, y diweddar Gwilym R. Jones, golygydd Y Faner, sy’n dwyn i gof amgylchiadau rhyfedd y briodas honno.

"Er eu bod yn aelodau gweddol selog yn y Capel Mawr (Dinbych) penderfynu priodi yn Swyddfa’r Cofrestrydd yn Rhuthun wnaethon nhw a’r ddau yn cyrraedd yno ar fysys Crosville gwahanol. Yncl Math ar y bws deg a Mair yn dilyn ymhen rhyw hanner awr wedyn, jyst rhag ofn i rywun eu gweld efo’i gilydd a gollwng y gath o’r cwd. "

Bachwyd dau oddi ar y stryd yn dystion.

Gwneud esgus
"Yn ôl a ddywedodd fy nhad, yr esgus . . . dros fynd i Ruthun y diwrnod arbennig hwnnw oedd bod dyn busnes go amlwg o’r dre wedi addo rhoi hysbyseb go sylweddol yn Y Faner.

"‘Fedrwch chi gredu’r peth?’ meddai nhad, ‘mynd yno i nôl hysbyseb a dwad yn ôl hefo gwraig! Dim ond Math alla wneud hynny!’"

Y mae Olwen Roberts yn sôn hefyd am gariad arall oedd gan Fathonwy cyn cyfarfod y ferch a briododd a’u hymddygiad caruaidd a swsus slei yn y lobi!

Golwg wahanol

Heb amheuaeth cyfraniad Olwen Roberts yw’r difyrraf yn y gyfrol ac yn rhoi golwg ‘wahanol’ ar Brifardd a is-olygydd Y Faner i ddarllenwyr nad oeddynt yn ei nabod.

Cowlaid o atgofion personol sydd yma yn hytrach nag ymdriniaeth o gyfraniad Mathonwy Hughes fel bardd a newyddiadurwr er bod pennod Peredur Lynch yn gwneud rhywfaint o iawn am hynny gan osod y bardd yng nghyd-destun ei gyfnod o ran arddull, dylanwadau a chynnwys.

Y cyfranwyr eraill yw Derwyn Jones, Dafydd Owen, R. M. (Bobi) Owen, John Glyn Jones (cerdd ben-blwydd) a Wil Huw Pritchard, ei weinidog.

Dim ffurf i'r gyfrol
Er yn gyfrol ddigon difyr a diddan does yna ddim llawer o ffurf iddi heb na golygydd, cyflwyniad na rhagair i egluro pam y’i cyhoeddir yr union adeg hon.

Mae rhywun yn cymryd fod a wnelo ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Dinbych rywbeth a’r amseriad.

Yn sicr byddai rhywfaint o nodiadau bywgraffyddol wedi bod yn fuddiol ar gyfer darllenwyr nad ydynt, yn ymwybodol o gyfraniad a gwaith y gwrthrych.

Sylw awgrymog

Y mae ambell i bwynt y byddai golygydd, pe byddai un, wedi gofyn i’r cyfrannwr ymhelaethu arno megis y sylw awgrymog gan Bobi Owen:

"Gweithiodd Gwilym R. a Mathonwy, a llu o rai eraill, am gyflog pitw iawn yng Ngwasg Gee - llafur cariad oedd eu hysbrydoliaeth ac er bod Mathonwy yn barod iawn i gydnabod gallu llenyddol a dyfalbarhad Kate Roberts (perchen y Wasg gyda’i gwr) yn wyneb llawer o anawsterau, doedd ganddo fawr i ddweud amdani fel unigolyn."

Go brin mai y fi yw’r unig un a hoffai gael gwybod mwy am y wedd hon i "frenhines" ein llên ac anhoffter rhywun fel Mathonwy ohoni!

Mae casgliad da o luniau yn y canol gan gynnwys un gwych o’r Mathonwy ifanc gyda’i fam a’i nain.

Dyn a chymeriad hwyliog
A’r casgliad sicr y down iddo yw fod hwn yn ddyn ac yn gymeriad hwyliog y byddai wedi bod yn fraint ei adnabod gyda’i " wên lydan, lydan, a’i rhoddai ymysg pobol glên y byd ’ma" chwedl Olwen Roberts sy’n ei gofio hefyd fel gyrrwr lloerig ac fel malwr larymau tân!

Ond un a oedd "yn dalp o foneddigeiddrwydd ac yn gariad o ddyn."
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy