±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Rhyfel Sam
Stori sy'n werth ei dweud

Nofel newydd i blant yn portreadu realiti rhyfel ac wedi'i sylfaenu ar hanes go iawn

Dydd Iau, Awst 16, 2001


Stori wir am ifaciwi a symudodd i fyw yng Nghymru adeg yr Ail Ryfel Byd yw testun nofel sydd newydd ei chyhoeddi i blant.

Rhyfel Sam yw cyhoeddiad diweddaraf Cyfres y Corryn.

Mae'n sôn am Sam Lewis yn cael ei symud oddi wrth ei deulu i fyw ym Mhorthaethwy, Sir Fôn, wedi i fom ddinistrio ei gartref yn Lerpwl yn ystod y blitz yn 1941.

Ac yntau'n fachgen croenddu, croeso llugoer a gaiff Sam y nofel gan y teulu cyntaf iddo symud atynt gyda morwyn yn cael ei disgrifio yn ei sgrwbio gan ei bod yn meddwl mai budr yw ei groen.

O ganlyniad mae Sam yn dianc ac wedyn yn cael ei roi gyda theulu mwy caredig.

Hanes go iawn

Dywedodd yr awdur, Glenys Lloyd, iddi sylfaenu ei nofel ar hanes go iawn. Ar hyn o bryd mae Sam yn byw ym Miwmares ac yn berchen ar siop chwaraeon ym Mangor.

Sam Lewis yn ei siop ym Mangor"Mae'r nofel yn darlunio profiadau Sam yn Lerpwl ac yn Ynys Môn," meddai Glenys.

"Mae hon yn stori sy'n werth ei dweud. Does dim diben ceisio cadw realiti rhyfel oddi wrth blant. Mae plant heddiw yn barod iawn ar gyfer straeon am y rhyfel gan eu bod yn gweld llawer o bethau erchyll ar y teledu ac mewn ffilmiau," ychwanegodd.

Gweu dychymyg a ffeithiau
Ond er bod y stori sylfaenol yn wir dywedodd Glenys iddi ddefnyddio llawer ar ei dychymyg wrth ysgrifennu'r nofel gan weu elfennau dychmygol â ffeithiau.

"Dydi'r nofel ddim yn ddogfen hanesyddol, addysgol, dwi wedi ceisio ei gwneud mor afaelgar â phosib ac mae'n ddoniol a chyffrous mewn mannau," meddai.

Dywedodd iddi wneud tipyn o ymchwil cyn mynd ati i ysgrifennu. Holodd ei mam a thrigolion Porthaethwy am y cyfnod a darllen llyfrau hanes am y dref ac am yr Ail Ryfel Byd - yn enwedig y blitz ar Lerpwl.

"Wedyn rhywsut fe ddechreuodd y peth ddod yn fyw o flaen fy llygaid fel ffilm," meddai.

Eglurodd iddi gyfarfod Sam Lewis o ymweld â'i siop chwaraeon pan oedd ei phlant yn yr ysgol a chael ei hanes yn ystod yr ymweliadau hynny.

Sam yn falch
Dywedodd Sam ei fod yn falch bod Glenys wedi ysgrifennu am ei brofiadau mewn nofel i blant

"Mae stori fy mywyd i'n reit dda ond dydw i byth yn ei drafod. Yn sicr fe fydd y nofel yn dod ag atgofion yn ôl i mi, atgofion da a thrist o'm plentyndod. Mae'n syniad da gan fod angen addysgu plant ynglyn â'r rhyfel."

Er iddo gael profiadau erchyll yn ystod ei blentyndod dywed i bethau da ddeillio o hynny yn y pen draw.

"Dwi'n sicr yn falch fy mod i wedi dod i Gymru, dyma'r lle gorau yn y byd."

Wrth ei bodd
Mae Glenys Lloyd wrth ei bodd yn ysgrifennu. Yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni bu'n fuddugol yn un o gystadlaethau adran comisiynu'r Eisteddfod gyda nofel i blant hýn.

Mae'r nofel hon wedi ei gosod yn y dyfodol ac sy'n sôn am griw o blant gyda galluoedd goruwchnaturiol.

Fe'i canmolwyd hefyd yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn 1996 am ei nofel i oedolion, Heldir y Diafol.

Ar hyn o bryd mae wrthi'n ysgrifennu nofel arall i blant , Bargen y Brenin, fydd yn rhan o gyfres Gwaed Oer.

Yn ogystal mae'n paratoi nofel i oedolion am y dywysoges Lilian o Sweden ac mae ganddi syniadau ar gyfer tair nofel hanes i oedolion y mae'n gobeithio eu hysgrifennu am gyfnod y Rhyfel Cartref, Elizabeth, a rhyfeloedd Napoleon.

Ymddiddori erioed

Dywed iddi ymddiddori mewn ysgrifennu erioed a bod ei mam a'i thad yn storïwyr penigamp.

Er ei bod wedi ei geni ym Mhrestatyn mae'n ei hystyried ei hun yn frodor o Bowys gan iddi fyw yn Sir Drefaldwyn pan yn blentyn gan fynychu Ysgol Llanfyllin cyn symud i Ysgol Ramadeg Abergele ac i astudio Saesneg ym Mhrifysgol Bangor.

Bu'n athrawes am dros 20 mlynedd nes iddi ymddeol yn gynnar i ysgrifennu. Mae ganddi ddau o blant, Dewi sy'n swyddog economaidd a Nerys sy'n gynhyrchydd teledu.

Cartref yn ysbrydoliaeth
Mae Glenys yn byw ym mhlas hanesyddol Cochwillan ger Tal-y-bont, Bangor, a fu, meddai yn ysbrydoliaeth iddi ysgrifennu.

Glenys Lloyd yn ei chartrefBellach yn eiddo i Stad y Penrhyn yr oedd ar un adeg yn eiddo i Llywelyn ap Iorwerth a'i rhoddodd i Ednyfed Fychan, ei ganghellor.

Er bod sôn fod ysbryd Ednyfed Fychan yn dal i gerdded yma a hefyd ysbryd y Cyrnol Syr John Owen oedd yn byw yma yn ystod y Rhyfel Cartref dywed Glenys nad yw hi wedi gweld yr un ohonynt.

Yn ystod gwarchae Bangor ddechrau'r bymthegfed ganrif fe fu Owain Glyndwr yn aros yma pan oedd yn ymladd yn erbyn y Normaniaid.

Roedd y plas yn bwysig am ei nawdd yn ystod oes yr Uchelwyr gyda nifer o feirdd enwog yn dod yma am fwyd a gwin.

Yn eu cerddi mae Lewis Môn a Guto'r Glyn yn canmol y croeso yma.

Rhyfel Sam, Glenys Lloyd
Cyfres y Corryn, £3.95

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy