|
|
Arweinlyfr
i fro'r Eisteddfod
Cyfrol yn olrhain hanes Sir Ddinbych
Dydd Iau, Awst 2, 2001
|
Sir Ddinbych. Cyfres Broydd Cymru 11. E Gwynn Matthews. Gwasg Carreg
Gwalch. £4.50.
Gall fod o gysur i Eisteddfodwyr wybod mai yn Sir Ddinbych "y darganfuwyd
yr olion cynharaf o bresenoldeb dyn yng Nghymru."
Gyda’r wybodaeth drawiadol yna y mae E. Gwynn Matthews yn agor y gyfrol
ddiweddaraf yng Nghyfres Broydd Cymru a gyhoeddir gan Wasg
Carreg Gwalch i gydfynd â’n gwyliau cenedlaethol.
Mae 11 o gyfrolau yn y gyfres erbyn hyn yn ymwneud â broydd
yn amrywio o Fro Colwyn y gogledd i Ddinefwr yn y de.
Yr arfer yw eu cyhoeddi ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol. Gwell,
yn fy marn i, fyddai eu cyhoeddi o leiaf flwyddyn yn hytrach na mis
ynghynt fel bo ymwelwyr â’r Brifwyl yn gallu manteisio i’r eithaf
arnyn nhw.
Arweinlyfr hanesyddol
Mae pwyslais cyfrol E. Gwynn Matthews ar yr hanesyddol yn hytrach
na’r cyfoes ac fel arweinlyfr hanesyddol i’r sir y mae yn fwy na boddhaol
gyda phenodau ar ddaearyddiaeth, archeoleg a hanes cynnar; cestyll;
ffynhonnau a chroesau; eglwysi; plastai; seintiau; chwedlau; trefi.
Cwta ddwy ddalen sydd yna ar "Sir Ddinbych Heddiw" ac nid yw’r bennod
ar ddiwylliant a hamdden ond namyn rhestr efo rhifau ffôn.
I gloi, mae rhestr o lyfrau eraill i’w darllen sy’n cynnwys dwy gyfrol
ragorol y diweddar Frank Price Jones, Crwydro Dwyrain Sir Ddinbych
a Chrwydro Gorllewin Sir Ddinbych sy’n siwr o fod yn gyfrolau
anodd cael gafael arnyn nhw erbyn hyn fel y gweddill o’r gyfres crwydro
Cymru ragorol honno.
Angen gwybodaeth gyfoes
Gan fod y gyfres bresennol yn amlwg wedi ei chyhoeddi i gyd-daro ag
ymweliad Eisteddfodwyr â’r fro byddai gwybodaeth gyfoes am bethau
fel lleoedd bwyta, gwestai a lleoedd aros, siopau; trafnidiaeth a’r
holl baraffenalia ymweliadol arall o fudd arbennig.
Fodd bynnag, o fewn ei chyfyngiadau y mae Sir Ddinbych yn cyfleu
yn llwyddiannus iawn gyda’i rhestrau, ei chyfres o fapiau a chasgliad
o luniau naws sir sy’n hynod gyfoethog ei hanes a’i diwylliant a’i
thraddodiadau.
Fe sylwir fod rhai pethau ar goll. Er enghraifft er bod plasty Lleweni
- dafliad carreg o Faes y Brifwyl - ar y map o blastai nid oes cyfeiriad
ato yn y testun.
Methais a gweld hefyd gyfeiriad at Dr Pierce a ddaeth i amlygrwydd
yn sgil ymosodiad y Pla Gwyn ar Ddinbych ac a gododd gofgolofn mor
drawiadol iddo’i hun mewn gardd yng ngwaelod y dref.
|
|
|