|
|
Papur
bob dydd
Gwario £60,000 i bwyso a mesur y posibilrwydd o gael papur
newydd dyddiol Cymraeg
Dydd Iau, Gorffennaf 26, 2001
|
Mae Ned Thomas, yr awdur, cyfarwyddwr Canolfan Mercator yn
Aberystwyth a chyn olygydd Planet newydd gychwyn ar waith ymchwil
i weld pa mor bosibl fyddai hi i gyhoeddi papur dyddiol Cymraeg.
Mae’r ymchwiliad, fydd yn parhau am 15 mis, yn cael tua £60,000 i
gyd o Ewrop, Awdurdod Datblygu Cymru a mân ffynonellau eraill.
Cymdeithas o olygyddion
Ar Wythnos Gwilym Owen ar ±«Óãtv Radio Cymru ddydd Llun
dywedodd Ned Thomas i gymdeithas o olygyddion papurau dyddiol mewn
ieithoedd lleiafrifol gael ei sefydlu dros y tair blynedd ddiwethaf..
"Erbyn hyn, mae yn gymdeithas efo 20 o aelodau - rhai o’r papurau
yn dod o leiafrifoedd cryf iawn fel y Catalaniaid - ond mae’r mwyafrif
o leiafrifoedd cymedrol eu maint," meddai.
"Mae nifer ohonyn nhw o grwpiau ieithyddol sy’n llai o dipyn na’r
rhai sy’n siarad Cymraeg.
"Sêr y byd yma yw’r 300,000 o siaradwyr Swedeg sy’n byw yn Y Ffindir
ac yn cynnal deg papur dyddiol. Mae cylchrediad y papur lleiaf yn
10,000 ond mae’r mwyafrif, a gynhyrchir yn Helsinki, yn gwerthu 60,000
- yr un maint â’r Western Mail.
"Mae llai na phump y cant o’u hincwm nhw’n dod o gymorthdaliadau.
"Roedd yn dod yn fwy a mwy amlwg i mi fod yna fwlch yng Nghymru -
y bwlch mwya.
Cymru ar y blaen mewn radio a theledu
"Ym myd teledu a radio mae Cymru rywle tua’r brig ond nid ym maes
papur dyddiol. Mae pob math o resymau hanesyddol, daearyddol am hyn
ond o’n i’n meddwl ei bod hi’n werth edrych ar rai o’r papurau yma
i weld sut maen nhw’n gweithio.
"Nid yn unig yn dechnegol - er bod hynny’n ddiddorol - ond o safbwynt
rhedeg busnes a darparu papur dyddiol i grwp bychan sy’n ymddangos
yn chwerthinllyd o fach ym Mhrydain.
"Mae gwerth hefyd mewn edrych ar y patrwm cymdeithasegol a gwleidyddol
ehangach o sut mae’r papurau hyn yn cael eu cynnal."
Gwahodd pobl i Gymru
Rhan o waith Ned Thomas dros y 15 mis nesaf fydd ymweld â rhai o’r
papurau hyn a gwahodd pobol o’r papurau hyn i ddod i Gymru i sôn am
yr hyn maen nhw’n ei wneud.
"Mae eisiau dod â nhw yma fel ein bod ni’n gweld nad yw’r fath beth
â phapur Cymraeg yn amhosib. Mae angen codi hyder," meddai wrth ±«Óãtv
Cymru’r Byd.
"Mae angen ystyried ystod eang o bosibiliadau.
"Mae yna bapurau dyddiol lleiafrifol arlein. Yn bersonol dwi’n meddwl
mai rhyw gyfuniad o bapur - papur ar bapur - a rhywbeth ryngrwydol
yw’r ateb.
Y newyddion diweddaraf
"Nid drwy bapur newydd mae’r newyddion diweddaraf yn ein cyrraedd
ni erbyn hyn. Be sy’n digwydd yw fod papurau newydd yn dadansoddi
newyddion a rhoi newyddion yn eu cyd-destun.
"Dwi’n meddwl fod yna le o hyd i rywbeth tipyn bach mwy parhaus fel
rydach chi’n gael gan bapur.
Pwy fydd ei biau?
"Mae cwestiynau sydd raid eu codi am ddosbarthu ac - yn ystyr ehangaf
y gair - perchenogaeth papur.
"Yr hyn sydd eisoes wedi nharo i yw fod y teimlad o berchnogaeth yn
eang iawn ymysg rhai o’r papurau hyn. Mae hyd yn oed y papurau dyddiol
yn byw i raddau helaeth ar danysgrifwyr - maen nhw hefyd yn gyfranddalwyr.
"Mae grwp bychan iawn, tua 50,000, o siaradwyr Daneg yn byw yn Yr
Almaen, ac mae papur dyddiol ganddyn nhw. O’r 50,000 yna mae 1,500
yn gyfranddalwyr - un o bob deg teulu."
Papur Gwyddeleg yng Ngogledd Iwerddon
Mae sôn am ailgychwyn papur dyddiol Gwyddelig yng Ngogledd Iwerddon
a fyddai’n cyflogi 30 o bobl a bydd gweld be sy’n digwydd yno yn ddiddorol,
yn ôl Ned Thomas.
"Rwy’n rhagdybio y cân nhw gymhorthdal gan y Llywodraeth am fod Prydain
wedi arwyddo’r Siartr Ieithoedd Llai. Mae’r Llywodraeth yn medru dweud
ei bod yn cyfrannu tuag at gyhoeddi yn y Gymraeg drwy’r Cyngor Llyfrau.
"Ond fe allai hyn agor y drws i gymhorthdal i bapur dyddiol Cymraeg.
Nid ’mod i’n credu mai dyna’r ateb ond efallai y buasai cymorth tuag
at ddosbarthu papur, er enghraifft, yn dderbyniol lle na fyddai modd
i’r Llywodraeth ddwyn pwysau gwleidyddol ar y papur oherwydd y cymorth."
Arian llywodraeth
Dywedodd Mr Thomas fod papur dyddiol yn Euskadi, iaith y Basgiaid,
yn derbyn arian gan lywodraeth Sbaen a’r seneddau taleithiol.
"Er bod y nifer a’r canran sy’n siarad Euskadi yn debyg i Gymru mae’r
sefyllfa yn wahanol iawn yno. Mae mwy o bobol Gwlad y Basg yn anllythrennog
yn eu hiaith - ar ochr Ffrainc am nad yw’r iaith yn cael eu dysgu
yn yr ysgolion.
"Ac y mae’r hen bobol ar ochr Sbaen o’r ffin wedi eu magu dan gyfundrefn
Franco, felly dydyn nhw ’chwaith ddim yn llythrennog yn yr iaith.
"Felly mae’r iaith yn fwy dibynnol ar ddysgwyr nag yw’r Gymraeg, er
enghraifft.
"Fe ddechreuodd y papur dyddiol yno heb unrhyw nawdd cyhoeddus ond
erbyn hyn mae’n derbyn nawdd oddi wrth y Llywodraeth ganolog a’r taleithiau.
"Dechreuodd y papur gyda chylchrediad o 12,000. Yn awr mae i fyny
i 17,000."
Meddwl am danysgrifio
Ymhlith y cynlluniau a ddefnyddir gan y papurau dyddiol hyn y bydd
Ned Thomas yn eu hastudio, meddai, fydd dulliau o danysgrifio.
"Byddai tanysgrifio I bapur dyddiol yn anodd dan y system Brydeinig
o ddosbarthu ond nid yn amhosib," meddai.
Dywedodd hefyd fod yn rhaid bod yn ymwybodol iawn o ddatblygiadau
technolegol, y we ac o’r pwysigrwydd o baratoi deunydd mewn modd y
gellir ei ddefnyddio’n aml-gyfryngol.
"Pwy wyr be fydd gynnon ni mewn pum mlynedd?" meddai.
"Mae gen i fy syniadau ond dwi ddim yn mynd i ragdybio canlyniadau
fy ymchwil. Ond fuaswn i ddim yn treulio blwyddyn yn gwneud y gwaith
ymchwil yma taswn i ddim yn credu ei fod yn bosib," meddai.
|
|
|