|
|
Cofio
dyddiau da
Yr Herald
Hen ohebydd yn cofio cychwyn ar Yr Herald
Dydd Iau, Gorffennaf 12, 2001
|
Gydag
ansicrwydd ynglyn â dyfodol Yr Herald bu Ioan Mai Evans
yn cofio'r adeg pan ddechreuodd o yn gyw gohebydd ar y papur gyda
Meuryn yn olygydd.
Cyfaill neu ddau a’m cofiant
Brin ddau, lle bu gynnau gant.
"Mi
roedd yna gant a mwy ohono’n bentwr ar gowntar siop y pentre, o un
Llun i’r llall, pan oeddwn i’n blentyn," meddai Ioan Mai Evans o Lithfaen
wrth gofio’r Herald Cymraeg pan oedd y papur ar ei anterth
- ac yn gwerthu mwy na’i frawd Saesneg y Caernarvon and Denbigh
yn y siop leol.
Dydd Llun yn ddiwrnod da
"Roedd dydd Llun yn ddiwrnod da i gyhoeddi papur newydd - papur oedd
yn faes pori toreithiog i chwarelwyr diwylliedig ac ambell ffermwr
a chanddo’i golofn ei hun. Ac yn cynnwys pris yr wyau a’r menyn yn
y farchnad," ychwanegodd Ioan Mai a fu’n gyw gohebydd pan yn fachgen
ifanc ar yr Herald Cymraeg - neu Yr Herald fel
y mae erbyn heddiw.
"Colofn i’r llys barn, barn pobol am bobol, beth oedd yn digwydd yn
y dref, pwy oedd adref o’r môr. Geni, priodi a marw, Eisteddfodau
a chylchoedd llenyddol y fro.
"Roedd yn ddwyawr o ddarllen distaw i rai fel nhad - nad oedd yn darllen
fawr ddim arall - ond erbyn deall dyma oedd maes llafur wythnos o
drafod a stilio yn y caban chwarel."
Mynd yno o'r chwarel
Ymunodd Ioan Mai, sy’n awr yn ei bedwar ugeiniau, â’r papur o’r chwarel.
"Yn gynnar yn y tridegau bu farw Owen Ellis Jones, gohebydd gyda’r
Herald yn Ne Arfon, cynghorydd yn nhref Pwllheli a newyddiadurwr
llwyddiannus.
"Yn rhyfedd iawn un prynhawn gwelais fy mam wedi rigio i fynd i’w
angladd. Ymddengys ei fod yn gefnder i fy nain, a chan na wyddwn am
fodolaeth y gwr daliais i’w holi nes iddi fynd am y bws.
"Fe wnaeth edliw i mi na fyddai dynion fel fo byth allan o waith.
Fy mhechod, yn ei golwg hi, oedd fy mod wedi mynd o’r cownti sgwl
i’r chwarel yn lle mod i mewn joban coler a thei."
Bu’n ddigon o ysgogiad i Ioan Mai anfon llythyr ar reolwr yr Herald
yng Nghaernarfon yn holi am swydd yr ymadawedig.
Dyn pryd tywyll yn gwisgo het
"Fe gês i ateb buan gan y rheolwr ei hun, W. G. Williams, yn fy ngwahodd
i’w swyddfa i drafod y swydd.
"Gwr byr, pryd golau, yn gofidio braidd nad oedd gen i brofiad newyddiadurol
fel y cyfryw, ond eto’n obeithiol.
"Soniodd o fawr am sgrifennu o fath yn y byd, ond cesglais mai dyn
busnes ydoedd. Cododd o’i gadair a’m harwain i stafell fechan wrth
y drws oedd yn agor ar Faes Caernarfon.
"Yno ’roedd gwr byr arall, ond un tywyll yn gwisgo het olau ar osgo
ar ei gorun - Meuryn.
"Roeddwn wedi ei weld o’r blaen yn pregethu yn festri Moriah, yn cydio’n
dynn wrth y pulpud bach - roedd yn gloff - ac yn traethu mewn Cymraeg
gyda’r godidocaf a glywais erioed.
"Synhwyrais yn Swyddfa’r Herald fy mod ym mhresenoldeb rhywun
tra arbennig.
"Disgrifiodd J. R. Morris o yn Y Genhinen fel bardd, llenor,
athro, golygydd, nofelydd, gramadegwr, pregethwr a nifer o bethau
eraill ac yn bencampwr yn rhai ohonyn nhw a hynny er na chafodd addysg
uwchradd.
"Cyfeiriodd Rhys Nicholas at ei safonau clir a'i foneddigeiddrwydd,"
meddai.
Pob sylw yn adeiladol
"’Roedd pob cwestiwn yn berthnasol a phob sylw yn adeiladol ac ymlaen
â mi i stafell fwy am brawf cyfieithu o’r Saesneg - a chael y ddedfryd
gan y rheolwr.
"Yn niffyg profiad newyddiadurol, y fargen oedd chwe wythnos o brentisiaeth
yn ddi-dâl o dan Meuryn cyn penderfynu ar y swydd yn ne Arfon. Os
byddwn yn aflwyddiannus byddai gwaith ar fy nghyfer yn y swyddfa.
"Chwe wythnos o ramadegu a chywiro a’r bensel blwm yn gwibio fel gwennol
gwehydd dros y copi.
"Plwc o dafodi cyffredinol am ddiffyg parch at gystrawen iaith. Euthum
i’r afael gyda llaw fer cyn cael fy ngollwng ym Mhwllheli."
Newid byd
Ymhen tipyn newidiodd Ioan Mai ei fyd a throi o newyddiadura i fod
yn athro ysgol. "Yn lle taenu inc du ar bapur gwyn euthum i daenu
sialc gwyn ar fwrdd du."
Ond yr oedd yr inc erbyn hynny yn y gwaed ac y mae'n dal i ymel a
newyddiaduraeth.
A chyn gadael Yr Herald fe wyddai holl hanes cychwyn Ymryson
y Beirdd gyda Sam Jones, yr ymrysonau cynnar yn Neuadd y Penrhyn
a phawb yn dotio at sydynrwydd ei arwr, Meuryn.
"Miloedd yn cynefino â Cherdd Dafod drwy gyfrwng y rhaglenni."
Beth ddwedai’r "dyfal athro Cerdd Dafod" pe gwyddai fod dyfodol y
papur yn y fantol? A beth fyddai o’n ei gynnig.
"Ei wneud yn bapur dyddiol neu genedlaethol Cymraeg tybed?
Erys ei her i’r oes hon."
Llythyr Golygydd Yr Herald -
|
|
|