|
|
Argyfwng
Yr Herald
Golygydd yn egluro'r sefyllfa
Dydd Iau, Gorffennaf 5, 2001
|
Y
mae Golygydd Yr Herald, Tudur Huws Jones, wedi ymateb
i’n stori ynglyn â dyfodol y papur:
"Roedd eich stori ddiweddar am Yr Herald, ar dudalennau Cymru’r
Byd, fymryn yn gamarweiniol.
"Dywedodd fod y perchnogion, cwmni Trinity Mirror, yn bwriadu
cyhoeddi tranc y papur yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Nid gwneud datganiad fod y papur yn bendant yn cau oedd y bwriad
ond, yn hytrach, cyhoeddiad i’r perwyl fod angen i fwy o bobl ei brynu,
neu byddai’r dyfodol yn ansicr.
"Erbyn hyn y mae hynny’n gyhoeddus beth bynnag, felly, yr hyn fyddwn
yn ei wneud yn y Brifwyl fydd ceisio codi ymwybyddiaeth pobl o’r papur,
denu mwy i’w brynu’n rheolaidd, a cheisio barn a syniadau i sicrhau
ei ddyfodol.
"Mae’n deg dweud ei bod yn argyfwng ar y papur ond mae’n rhy fuan
i gyhoeddi ei dranc."
Cofio'r dyddiau da -
|
|
|