|
|
Darogan
diwedd
Yr Herald
Papur hanesyddol ar ei wely angau
Dydd Iau, Gorffennaf 5, 2001
|
Mae
Cwmni Papurau Newydd Trinity Mirror wedi dweud y byddan nhw’n cyhoeddi
tranc yr Herald Cymraeg yn ystod wythnos yr Eisteddfod
Genedlaethol.
Mae’r papur wedi bod yn edwino ers blynyddoedd a’i gylchrediad bellach
wedi gostwng i 1,500.
Gofyn am syniadau
Mae Trinity Mirror wedi dweud eu bod yn agored i syniadau ynglyn â
sut y gellir codi cylchrediad yr Herald, ond os ddaw
gweledigaeth o rywle nid oes ganddyn nhw ddewis ond cael gwared a
phapur sy’n colli arian.
Os digwydd hyn fe fyddai’n ddiwedd pennod ryfeddol yn hanes newyddiaduraeth
a chyhoeddi yng Nghaernarfon.
Y Goleuad - wythnosolyn y Presbyteriaid - fyddai’r unig bapur
Cymraeg i’w gynhyrchu mewn tref lle bu unwaith bymtheg o bapurau Cymraeg.
Ar ei anterth yr oedd cylchrediad yr Herald Cymraeg rhwng 15,000 a
17,000 ac ar yr un pryd roedd papur wythnosol arall, Y Genedl,
yn gwerthu 12,000 ac Y Werin yn gwerthu 10,000.
Magwrfa newyddiadurwyr
"µþ³Ü’r Herald ²¹â€™r papurau eraill yn fagwrfa i newyddiadurwyr
a llenorion, yn ysgol i awduron o E. Morgan Humphreys i Bethan Gwanas,"
meddai Maldwyn Thomas ar Wythnos Gwilym Owen ar Radio
Cymru ddydd Llun.
Ymhlith golygyddion hynod y cwmni yr oedd Meuryn a John Eilian.
Tan yn ddiweddar yr oedd yna Herald Cymraeg a Herald Môn
yn cael eu cyhoeddi gyda rhai elfennau yn gyffredin I’r ddau ond y
newyddion lleol yn gwahaniaethu rhwng un ²¹â€™r llall.
Fodd bynnag, wrth i’r cylchrediad edwino dros y blynyddoedd diwethaf
unwyd y ddau yn un papur ar gyfer y tir mawr ac ynys Môn a'i alw yn
Yr Herald ond ni fu hynny’n ddigon i well²¹â€™r cylchrediad er
gwaethaf stoc o golofnwyr safonol a bywiog a diwyg difai.
Cnul oer
Nid yn unig y bydd hyn yn ddiwedd pennod yng Nghaernarfon ond hefyd
yn gnul oer i’r wasg Gymraeg yn gyffredinol.
Bydd yn rhaid holi, os yw hi’n amhosib cynnal papur newydd lleol yn
un o gadarnleoedd yr iaith pa obaith sydd yna i’r wasg Gymraeg yn
genedlaethol gyd²¹â€™r Cymro na Golwg yn denu ond ychydig
filoedd o brynwyr yr un.
Dywedodd Maldwyn Thomas y gellid fod wedi gwella cylchrediad Yr
Herald drwy symud y diwrnod cyhoeddi o ddydd Sadwrn.
"Dydy dydd Sadwrn ddim y diwrnod gorau i’w gyhoeddi," meddai.
Neges anghyfforddus I gyhoeddwyr Y Cymro sydd newydd newid
ei ddydd cyhoeddi ef o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn.
Awgrymodd Maldwyn Thomas hefyd, y dylid cyfuno’r Goleuad
²¹â€™r Herald i greu un cylchgrawn wythnosol
a dileu newyddion lleol ohono yn gyfangwbl.
"Byddai’n drueni colli wythnosolyn gyda chylchrediad o 1,500," meddai.
"Mae 1,500 yn gylchrediad sylweddol yn Gymraeg."
Ond yr hyn sy'n cael ei amlygu fwyaf yw fod yn rhaid wrth gynhaliaeth
ariannol sylweddol os am greu papur newydd Cymraeg y bydd pobl am
ei ddarllen.
A'r peryg yw, os na chymerir camau pendant yn fuan y bydd hi'n rhyw
hwyr.
|
|
|