±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol Hen stori mewn gwisg newydd

Merch ifanc yn gwirioni ar gariad cyntaf


Dydd Iau, Mehefin 14, 2001

Shoned Wyn Jones• Gwirioni gan Shoned Wyn Jones.
Gomer.
tair seren

Adolygiad gan Janet Roberts


"Wrth gicio a brathu mae cariad yn magu . . ."

Dyna ddywed yr hen air ond nid dyna sy’n wir yn y nofel emosiynol hon a ddewiswyd yn Nofel y Mis ar gyfer Mehefin.

Poen a chreulondeb

Hanes carwriaeth sydd yma ond carwriaeth sy’n llawn poen a chreulondeb a’r hanes wedi’i adrodd gan awdures brofiadol, Shoned Wyn Jones.

Dyma drydedd nofel yr awdures o Dregarth. Fe gafodd ei dwy nofel flaenorol, Fory Ddaw ac Adlais, groeso brwd gan ddisgyblion ysgolion uwchradd ac yn bendant fe gaiff y nofel hon yr un croeso.


Ond, fel sy’n addas ar gyfer Nofel y Mis, ni ddylid cyfyngu ei hapêl i’r ifanc yn unig. Dydy’r digwydd na’r thema chwaith ddim yn gyfyngedig i’r darllenydd ifanc.

Hen stori drist o gyfarwydd sydd yma am ferch ifanc, ddiniwed braidd yn ‘gwirioni’ ar y cariad cyntaf.

Dall i broblemau

Er ei gallu, mae Gwenan yn ddall i broblemau amlwg Dyfan. Ar ddechrau’r nofel, mae hi ar fin gadael yr ysgol ar ôl cwblhau ei harholiadau lefel A.

Mae dyfodol disglair o’i blaen a chefnogaeth lwyr dau riant sydd am sicrhau’r gorau iddi hi. Cwympa dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad â Dyfan.

Ymddengys yntau yn hen hogyn iawn ar y cychwyn cyntaf.

Mecanig lleol yn ei ugeiniau cynnar ydy o ac fe ddywed yntau "dw i ddim wedi bod efo neb fatha chdi o’r blaen".

Fel yr awgryma’r teitl, mae Gwenan yn "gwirioni".

Buan iawn y daw arwyddion perygl i’r amlwg, ond ymddengys Gwenan druan yn ddall i’r cyfan.

Fel sy’n digwydd yn aml, gwna esgusion lu dros ei ymddygiad yn bersonol ac yn breifat gan ei beio ei hun yn aml. Er gwaethaf rhybuddion teulu a ffrindiau, myn Gwenan aros efo Dyfan ac mae’r diwedd trist yn anochel.

Un yn unig sy’n gweld diwedd anorfod y daith, a hwnnw ydy Ned druan. Er ei fod yn ddiniwed, fe geisia ef amddiffyn Gwennan, ond yn ofer.

Trais o fewn perthynas

Ymdrinia’r nofel hon â hen broblem oesol ac un sydd ar gynnydd heddiw yn ôl y sôn – sef trais o fewn perthynas.

Nid merch dwp mo Gwenan a does dim rhaid iddi aros efo Dyfan ond dyna’n union a wna gan dalu pris uchel.

Gellid dadlau efallai mai awgrym o foeswers sydd yma i ddarllenwyr ifanc, rhybudd rhag syrthio i’r un fagl.

Llwydda Shoned Jones i ddarlunio dirywiad perthynas a’r amheuon a’r twyll sy’n dod yn sgil y dirywiad yn fyw iawn gan osgoi’r melodrama all ddod i’r golwg mor rhwydd mewn stori fel hon.

Yn sicr, ni ellid dweud fod y nofel hon yn llusgo gan fod tempo y digwydd yn gyflym. Bron na ellid dweud fod y cyfan yn rhy gyflym ar adegau gan nad yw’r awdur yn oedi ar unrhyw gyfnod.

Defnyddia arddull fywiog a deialog fyrlymus i adrodd yr hanes gan fodloni ar awgrym gynnil yn unig ar adegau. Mae’r iaith yn lân a chyhyrog a’r defnydd o dafodiaith Arfon yn y ddeialog yn realistig iawn.

Hen stori mewn gwisg newydd

Hen stori felly mewn gwisg newydd a hynny ar bwnc addas i bobl ifanc heddiw.

Darlunnir hunllef Gwenan yn fyw iawn ond wrth gwrs nid hunllef Gwenan yn unig mohono ond y teulu cyfan.

Fe geir yma wefr y caru cyntaf ond gwewyr y dadrithio hefyd.

Dyma drydedd nofel Shoned Wyn Jones ac mae nofel sydd yn ddarllen byrlymus rhwydd fel hon yn haeddu derbyniad gwresog.

Ond fel y dywedodd yr awdur yn Yr Herald wsnos diwethaf "Dwi’n tueddu i sgwennu pan mae’r amser gennyf" – gobeithio’n wir y bydd digon o amser ganddi i fynd ati eto i sgwennu nofel arall a hynny i’r arddegau yn bennaf.

Chân nhw fyth ormod.








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy