±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Dirgelwch i ddysgwyr

Dwy nofel am ferched gan ferched i ddysgwyr

Dydd Iau, Mai 24, 2001

• Pwy Sy’n Cofio Siôn, gan Mair Evans
• Gwendolin Pari P.I.’, gan Meleri Wyn James.
Gwasg Gomer
.


Adolygiad Ben Thomas

ClawrYn ôl ffrind sy'n dysgu'r Gymraeg ers rhyw ddwy flynedd, mae llyfrau i ddysgwyr yn syrthio, fel arfer, i un o ddau gategori.

Unai maen nhw'n rhy hawdd ac yn ymylu ar fod yn blentynnaidd eu hiaith a'u stori, neu maen nhw’n or- uchelgeisiol ac mae unrhyw fwynhad o'u darllen yn cael ei golli yn yr angen i chwilota mewn geiriadur bob yn ail gair.

Os rhywbeth, mae'r ddau lyfr bach yma yng nghyfres Nofelau Nawr, Gwasg Gomer, yn tueddu i gyfeiriad yr ail gategori.

Yr hyn sy'n eu hachub yw'r stôr arbennig o eirfa ar waelod pob tudalen.

Mae hyn yn helpu i lenwi unrhyw fylchau yn nealltwriaeth dysgwr o’r Gymraeg a hefyd yn atgoffa darllenwr sy'n rhugl o amrywiaeth a chyfoeth ein hiaith.

Dirgelwch

Mae'r ddwy nofel wedi'u seilio ar ddirgelwch.

Yn Pwy Sy'n Cofio Siôn? cawn hanes Leni, cyflwynydd radio ifanc, sy'n gobeithio cychwyn gyrfa lwyddiannus wrth fynd ar drywydd y seren bop Siôn Tremthanmor.

Diflannodd y canwr flynyddoedd yn ôl ac ar ei thaith i ddysgu ei hanes mae Leni yn cyfarfod â nifer o gymeriadau digon anarferol.

Mae Mair Evans yn grefftus yn ei phortread o Leni fel merch hunanol a didostur yn ei hawydd i ddod o hyd i'r gwirionedd ond mae hyn yn ennyn diddordeb y darllenwr i weld a ydy hi'n llwyddo ai peidio.

Newyddiadurwraig deledu yw Gwendolin Pari. Mae'r ail stori yn dechrau wrth iddi hi a'i mam-gu fynd am wyliau i Blas yn y gogledd sy'n cuddio ambell i gyfrinach.

Cymeriad eitha sionc a diflewyn ar dafod yw'r hen wraig ac mae yna ddigon o hiwmor yn y ddeialog rhyngddi hi a'i hwyres.

Rhwng de a gogledd

Mae Meleri Wyn James hefyd wedi gwneud defnydd da o'i chymeriadau deheuol yn cwrdd â rhai o'r gogledd.

Wrth gyrraedd y Plas mae yna sgwrs rhwng y perchennog a'r ddwy ymwelydd sy'n rhoi ymdriniaeth ysgafn o'r dryswch mae'r ddwy dafodiaith yn gallu ei greu.

"Sut dach chi?" meddai Mr Edward Windsor, perchennog y gwesty, wrth i ni gyrraedd. Bonheddwr yw Mr Windsor.

"Beth ddwedodd e?" gofynnodd Mam-gu i fi. Gwnaeth hi anwybyddu Mr Windsor.

"Mae e'n gofyn 'sut mae'?"

"Pam na ddwedodd e hynny?"

"Mae'n siarad iaith y gogledd, Mam-gu"

"Eich nain yw hon?" gofynnodd Mr Windsor.

Atebodd Mam-gu drosta i.

"Nage. Ei Mam-gu hi ydw i."

Damwain mae'n siwr ydy'r ffaith fod prif gymeriadau'r ddwy nofel yn ferched ifanc, hyderus a'u bod yn ceisio datrys dirgelwch o ryw fath.

Serch hynny, mae'r hanesion yn ddifyr ac yn cadw diddordeb y darllenwr tan y diwedd ac mae'r cynnwys ieithyddol yn ddigon swmpus i roi her i ddysgwr sydd o ddifri am wella'i afael ar y Gymraeg.

Gweler:






Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy