|
|
'Brenin
newydd y Stori Fer
Gwnaeth Mihangel Morgan lawer i ymestyn a datblygu terfynau
y stori fer . . .
Dydd Iau, Ebrill 19, 2001
|
Adolygiad gan Aneirin Karadog:
Cathod â Chwn
gan Mihangel Morgan. Lolfa.
O ran ei straeon byrion, dyma gyfrol fwyaf swmpus Mihangel Morgan,
gydag ugain stori fer ynddi.
Yn ogystal â swmp, mae cywreinrwydd a gwychder y straeon byrion yn
rhywbeth i ryfeddu ato.
Nid oes yna yr un stori wan ac fe yrrir y darllenydd ymlaen gan yr
awch i ddarllen mwy a mwy. Trist oedd cyrraedd diwedd y gyfrol a dim
mwy i’w ddarllen!
Crwydro o wers rygbi
Egyr y gyfrol gyda A Dyfod Adref yn Ddigerydd, stori am dri
bachgen sy’n crwydro o wers rygbi yn yr ysgol ac yn canfod hen dy
diarffordd.
Camp y stori hon yw nad oes yna un digwyddiad ynddi sy’n teimlo’n
gyflawn ynddo’i hun gan adael y darllenydd felly’n sychedu am fwy;
yn rhwystredig, mae’n angenrheidiol darllen ymlaen.
Er bod yma nifer fawr o straeon byrion sy’n debyg o ran fformat i’r
rhai a geir yng nghyfrolau blaenorol yr awdur, hynny yw, stori fer
ôl-fodernaidd sydd â thro yn ei chynffon, nid un felly yw’r ail stori,
Camera Obscura.
Yn hon, ceir darluniau o Aberystwyth, yr Hen Goleg, y prom, glan y
môr ac ati. Ond nid traethu diflas ond yr hyn y gellir ei weld o’r
tu ôl i lens Camera a geir yma.
Amlyga elfennau athronyddol i’r stori gyda’r naratif yn y person cyntaf,
a’r person hwnnw (yr awdur, o bosib, ond nid o reidrwydd) yn rhoi
ei hun yn sefyllfa Duw gan ddweud mai fel hyn y mae Duw yn edrych
ar bawb o ddydd i ddydd ac fel hyn y gall brofi ein camweddau inni
ar Ddydd y Farn.
Ond sylweddola’r siaradwr mai meidrol ydyw yntau ac ond yn forgrugyn
ystrydebol arall i’r morgrug y mae’n eu gweld yn y pellter.
Fe’n hogir i feddwl yn ogystal ag awchu am wybod mwy drwy gydol y
gyfrol. Enghraifft arall o’r elfen athronyddol hon yw Rhywogaethau
Prin sydd mewn dull negyddol yn dangos nad ydym ni fel pobl yn
cyfri dim ar y blaned hon yn y pen draw.
Serch hynny, oherwydd ein bod yn cael ein gwthio i feddwl am neges
y straeon hyn, gwelir nad oes pwynt poeni am ein bodolaeth gan fod
hynny yn dod â gwacter ystyr.
Daw y prif gymeriad, Dr Vavasor Jones, i’r casgliad hwnnw hefyd a’r
canlyniad yw ei fod yn cyflawni hunanladdiad. Mae’r neges yn glir.
Yn wir, mae’r neges yn glir ar ddiwedd pob stori fwy neu lai, gan
fodloni’r darllenydd am ei fod yn derbyn atebion ac nad yw’n cael
ei adael yn rhwystredig.
Uniaethu a chymeriadau
Rhywbeth arall sy’n denu sylw’r darllenydd yw fod sefyllfa’r cymeriadau
- a’r cymeriadau ynddynt eu hunain - yn ennyn cydymdeimlad ac fe ellir
uniaethu â nhw yn aml.
Enghraifft wych o hyn yw’r stori John Williams Tresalem, John Ford,
Lillian Gish a D W Griffith sy’n adrodd hanes Cymro, John Williams,
a aeth i’r Amerig i chwilio am well bywyd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif
ond na chafodd fawr o lwyddiant erioed, er iddo fod yn ecstra mewn
ffilm fawr, gan adael cofnod ohono mewn hanes.
Serch hynny, pan wêl yr actores enwog, Lillian Gish, yn cerdded i
lawr rhyw stryd gyda’i chwaer, nid yw hi’n ei gofio ac fe ddywed hi:
"Give him some money for a drink Dorothy - and let’s get away."
Wrth gwrs, fe geir y straeon byrion hynny sy’n nodweddiadol o Fihangel
Morgan gyda thro yn nghwt y stori. Yn wir, mae tro yng nghwt
ambell i stori!
Yr awdur yn siarad
Gallwn hefyd fanylu ar ddiweddglo sawl stori lle mae’r tro yn
un anghyfarwydd. Yn lle bod tro confensiynol (yn null arferol Mihangel
Morgan) i’w gael yn unig yn y stori, fe geir hefyd, yn y chwedl anacronistig,
Sionyn â’r Ddraig, yr awdur, ie, yr awdur, yn ddigon annisgwyl,
yn siarad â’r darllenydd.
Mae hyn yn hynod o effeithiol, nid oherwydd fod angen y chwistrelliad
yma o ffraethineb i’r stori,( achos fod y chwedl, lle mae Sionyn yn
mynd i chwilio am ddraig goch er mwyn gallu priodi tywysoges, hefyd
yn cynnwys ‘ԲDzԾ’ rif y gwlith, pethau fel ffyrnau meicrodon,
ceir, pizza, gwres canolog a defnydd o’r term ‘cusan bywyd’,
i gyd mewn oes lle mae pyrfyrts o gewri a gwrachod nwydwyllt yn byw!).
Mae gwreiddioldeb fel hyn mor bwysig heddiw yn ein llenyddiaeth am
fod cymaint o dechnegau ac elfennau wedi eu defnyddio’n barod.
Gan fod hon yn gyfrol mor swmpus mae yma ystod eang o arddulliau gan
gynnwys y rhai mwy arbrofol na’r arfer fel yr anachronistiaeth.
Yn y stori, Prologema i Ddadansoddiad o ddarn o Sacriaeg Canol,
yr hyn a gawn yw dadansoddiad o Sacriaeg Canol - iaith a ddyfeisiwyd
gan yr awdur - gan Y Diweddar Athro Emeritws Ceirwy Léwþs Ma. Dlitt
(honorius causa), FBA.
Nid oes angen esbonio ymhellach mai dychanu ysgolheigion hirwyntog
y mae Mihangel Morgan yma. Nid stori sydd yma fel y cyfryw ond nodiadau
ysgolheigaidd (hynny yw, chwit-chwat, llawn nonsens) ar un frawddeg
o Sacriaeg Canol, sef:
"TARARÁ, TARARÁ-TARARÁ RÁ RÁ…Dðm-dðm-dðm![sic] Tymtyrýmtym… Tymtyrýmtym…
týmpa, týmpa… týmtýmtým..[sic]"
O’i darllen, mae hon yn hynod o ddoniol ac fe’i diweddir gyda throednodiadau
(i rai termau a chyfeiriadau) nad ydynt wedi eu cwblhau am fod yr
Athro wedi marw!
Mae hyn eto’n gadael y darllenydd yn rhwystredig a’r unig ateb yw
darllen ymlaen gan obeithio am stori fer hollol gyflawn sydd ddim
am chwarae triciau bfwriadol â’r darllenydd.
A dyna a geir wrth gwrs gyda’r stori, Rhywogaethau Prin.
Llythyr Kate a Saunders
Nid ysgolheigion yn unig sy’n ei chael hi gan yr awdur. Ceir hefyd
stori sydd wedi ei seilio ar un o lythyrau Kate Roberts i Saunders
Lewis lle mae hi’n difrïo tref enedigol yr awdur (yn rhyfedd ddigon)
ac yn dweud yr hoffai chwythu Aberdâr i’r cymylau.
Daw teitl y stori hon o Traed Mewn Cyffion, Kate Roberts am
mai teitl gwreiddiol y nofel honno oedd Suntur a Chlai mae’n
debyg felly, Traed o Bridd Cleilyd ydy enw’r stori.
Mae hon yn stori wych a fydd yn gwneud i bobl feddwl dwywaith am frenhines
ein Llên.
Rhoi ei farn trwy ddangos yr ochr arall i’r geiniog, fel petai, a
wna’r awdur ac nid oes rheidrwydd I’r darllenydd i gytuno ag ef o
gwbl.
Ond mae rhywbeth eironig yn y ffaith fod Kate Roberts yn codi ei phen
yn rhai o straeon Mihangel Morgan gan ei bod yn gwbl deg dweud iddo
ef wneud cymaint â hithau o ran datblygu ac ymestyn y stori fer.
Yn wir, gwelodd esblygiad y dull hwn o sgrifennu newid chwyldroadol
ers i’r awdur hwn droi at y cyfrwng.
Bron nad yw Mihangel Morgan yn frenin y stori fer, yn y Gymraeg ac
yn Saesneg, erbyn heddiw.
Ymhlith y perlau eraill yn y gyfrol, ceir dychan doniol yn Recsarseis
Bðc o nofel wych Caradog Prichard, Un Nos Ola’ Leuad gyda
dau is-bennawd iddo, os ydych am wybod beth ydynt, yna prynwch y llyfr!
|
|
|