|
|
Bardd
yn
dychanu beirdd
Cyfrol llawn dychan crafog, miniog a doniol
Dydd Iau, Ebrill 12, 2001
|
Cerddi Cwrs y Byd gan
Wynne Ellis.
Cyhoeddiadau Barddas.
Adolygiad gan Edith Hughes
A dweud y gwir, dydw i ddim yn rhy hoff o farddoniaeth - ond mae’r
gyfrol yma wedi newid fy meddwl.
O’r cychwyn cyntaf, mae’r bardd yn gwneud sbort am ben y rhai hynny
sy’n cymryd y grefft ormod o ddifrif, a’r parchusion hynny sy’n uchel
eu hael a’u hagwedd.
Gwna hynny’n ddeheuig iawn gyda dychan crafog a miniog - heb son am
ddoniol!
Mae’r iaith yn lleol ac ar yr yn pryd yn dafodiaethol naturiol ac
eto’n cadw at naws a rhythm gwreiddiol y cerddi.
Dawn i barodïo
Dawn fwyaf arbenning y bardd yma yw efelychu a pharodïo rhai o gerddi
enwocaf Cymru drwy’r oesoedd (cerddi fydd yn gyfarwydd i unrhywun
sydd wedi gwneud lefel o ac A mewn Cymraeg), a gwneud hynny’n goeglyd
a sbeitlyd, gydag ambell i gic yn ei neges.
Yr unig beth negyddol a ddwedwn i am y gyfrol yw fod rhan rhy helaeth
ohoni yn yr adran "Amrywiadau", gyda nifer fawr o gerddi wedi
eu seilio ar y pennill "Bachgen Bach o Felin y Wig" ond wedi
dweud hynny, mae unrhyw un sydd yn gallu gwneud cywydd neu awdl ar
y fath bwnc, a chodi gwen ar yr un pryd, yn haeddu canmoliaeth fawr.
Cyfrol i’w chodi dro ar ôl tro, a’i mwynhau.
|
|
|