±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol Pwyso a mesur dramâu Saunders Lewis

Cyflwyniad digon swmpus i blannu'n dannedd ynddo

Dydd Iau, Mawrth 8, 2001

Adolygiad gan Daniel Williams:


• Dramâu Sauders Lewis : Y Casgliad Cyflawn. Cyfrol II.
Golygwyd gan Ioan M. Williams. Gwasg Prifysgol Cymru, 2000. £35


D. J. Williams, Lewis Valentine a Saunders LewisDyma'r ail o ddwy gyfrol dan olygyddiaeth Ioan Williams sy'n casglu holl ddramâu Saunders Lewis at ei gilydd am y tro cyntaf.

At gynulleidfa academaidd yr anelwyd y llyfr; mae yma gyflwyniadau manwl i bob drama a nodiadau defnyddiol sy'n esbonio'r cefndir hanesyddol neu'n taflu goleuni ar elfennau amwys yn y testun.

Mae'r gyfrol yn ein harwain o Brad (1958) hyd at 1938 (1975).

Y Rhyfel yn drobwynt

Dramâu yn ymwneud â'r Ail Ryfel Byd sy'n sefyll ar bob pen i'r casgliad felly, a hwyrach fod hynny'n briodol oherwydd, fel noda Ioan Williams, bu'r rhyfel yn drobwynt yn natblygiad Saunders Lewis fel dramodydd ac fel gwleidydd.

Gellir gor-bwysleisio dylanwad y rhyfel ar ei waith, oherwydd erbyn diwedd y tridegau yr oedd Lewis eisoes wedi troi yn ôl at ysgrifennu creadigol wedi degawd o weithgaredd gwleidyddol diflino dros Blaid Cymru.

Yr Ail Ryfel Byd, serch hynny, a danlinellodd mai breuddwyd gwrach oedd ei ddyhead y byddai gwareiddiad Ewropeaidd a'i seiliau mewn Cristnogaeth yn ailgodi wedi'r llanast a achoswyd, yn ei dyb ef, gan ddiwydiannaeth a thwf cymdeithas dorfol.

Blas methiant

Blas methiant sydd i nifer helaeth o'r dramâu yn y gyfrol hon; o fethiant y Cyrnol i gael ei ail-dderbyn gan y gymdeithas y bu ef gynt yn arwr iddi yn Y Cyrnol Chabert (1968), i'r myfyrdod deifiol a geir ar fethiannau Prifysgol Cymru yn Problemau Prifysgol (1962), i fethiant aelodau o'r fyddin Almaeneg i ddiorseddu Hitler yn Brad a 1938.

Prawf o faint mawredd Saunders Lewis, medd Ioan Williams, "yw'r ffaith fod ei ddarlith radio dyngedfennol, Tynged yr Iaith, a'r holl gyfraniadau nerthol a wnaeth i'r dadleuon cenedlaethol o 1960 ymlaen, yn ymateb i broses a ystyriai'n un y byddai bron yn amhosib ei rhwystro".

Mae'r sylw uchod yn enghraifft nodweddiadol o'r math o sylwadau craff sy'n britho cyflwyniadau Ioan Williams i bob drama.

Yn hytrach na dilyn un patrwm ymhob cyflwyniad fe amrywia ei ymdriniaethau ymhob achos.

Crynhoad o'r gwahanol feirniadaethau a gafwyd ar y ddrama a geir yn y cyflwyniad i Gymru Fydd, er enghraifft; y cefndir hanesyddol sy'n cael y prif sylw yn y cyflwyniad i Brad; amlinellir dylanwad y mudiad abswrd ar waith Lewis yn y cyflwyniad i Yn y Trên, a cheir dadansoddiad manwl o'r gwahaniaeth rhwng drama Lewis a stori wreiddiol Balzac yn y cyflwyniad i'r Cyrnol Chabert.

Darlun manwl o werthoedd

Mae'r amrywiaeth yma o ymdriniaethau nid yn unig yn cyflwyno'r darllenydd i nifer o ddulliau gwahanol o drin a thrafod drama ond mae'r cyflwyniadau, o'u darllen gyda'i gilydd, yn cynnig darlun manwl o werthoedd gwleidyddol ac artistig Saunders Lewis a hefyd yn lleoli ei waith yng nghyd-destun datblygiad y ddrama yn Ewrop.

Y mae'r gallu yma i osod gweithiau Cymraeg o fewn cyd-destun ehangach yn nodweddiadol o feirniadaeth Ioan Williams. Yng nghyflwyniadau amrywiol y gyfrol hon fe gymherir dramâu Lewis gyda gweithiau awduron mor amrywiol a Soffocles, Racine a John Bunyan.

Hoffwn, serch hynny, fod wedi gweld mwy o gymariaethau â gweithiau a ysgrifennwyd yn yr un cyfnod a dramâu Lewis.

Yn astudiaeth Saesneg Ioan Williams ar Saunders Lewis, A Straitened Stage (1991), er enghraifft, ceir cymhariaeth drawiadol rhwng y ddrama Cymru Fydd a nofel Grahame Greene, Brighton Rock.

Ar wahân i rai sylwadau trawiadol ar y gwahaniaeth rhwng syniadaeth Saunders Lewis a'r awdur eingl-Gymreig, Gwyn Thomas, ychydig iawn o gymariaethau cyfoes o'r math yma a geir yn y gyfrol.

Diffyg mynegai yn creu anhawster

Mae'r cyflwyniadau, serch hynny, yn gyfraniad pwysig yn eu hunain i'r feirniadaeth lenyddol ar Saunders Lewis ac oherwydd hynny mae'n biti nad oes mynegai i'r gyfrol.

Petai myfyriwr am olrhian y berthynas rhwng Saunders Lewis a'r awdur Emyr Humphreys, er enghraifft, byddai'n rhaid gweithio'i ffordd drwy'r holl gyflwyniadau i ddod o hyd i'r sylwadau diddorol a wna Ioan Williams ynglyn â'r berthynas bwysig honno.

Bydd myfyrwyr ac academyddion yn gresynnu nad oes mynegai wedi'i gynnwys.

Ond mân gwynion yw'r rhain mewn gwirionedd.

Yn ei gyflwyniad i Problemau Prifysgol dyfynna Ioan Williams farn Bob Roberts yn 1968 mai "souffle o ddrama" oedd ymdrech ddiweddaraf Saunders Lewis, "ac fel y pwdin ansylweddol hwnnw, yn diflannu yn eich ceg cyn i chi gael amser i'w blasu".

Mi fydd hi'n amlwg i bob darllennydd nad 'souffle' mo'r Casgliad Cyflawn yma o Ddramau Saunders Lewis.

Mae cyflwyniadau Ioan Williams yn ddigon swmpus i ni blannu'n dannedd ynddynt ac, os yw elfennau o weledigaeth wleidyddol Saunders Lewis yn gadael blas cas yn y ceg ar brydiau, mae yna ddigon yma i gnoi cil yn ei gylch am flynyddoedd i ddod.

• Mae Daniel Williams yn ddarlithydd yn yr Adran Saesneg, Prifysgol Cymru Abertawe.

 
Wythnosau Blaenorol:


Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy