±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Nofel gyntaf sy'n haeddu cael un arall i'w dilyn

Stori am fyd papurau newydd lleol yn Nofel y Mis - a ±«Óãtv Cymru'r Byd yn holi'r awdur

Dydd Iau, Mawrth 1, 2001
Adolygiad gan Glyn Evans:
• Dilyn 'Sgwarnog gan Annes Glynn. Gwasg Gwynedd. £5.95.



Ychydig yn betrus y trois i at ddarllen Nofel y Mis ar gyfer Mawrth.

Nofel gyfoes gan newyddiadurwraig am fywyd ar bapur newydd lleol yw hi a chan i'r awdur a minnau gydweithio ar y fath bapurau yr oedd gen i, yn naturiol, ofn braidd gweld myfi fy hun ymhlith y cymeriadau - a pheidio a lecio yr hyn a welwn!

Wnes i ddim; er imi adnabod sawl un arall o ran teip (maddeuwch y mwysder) ond nid fel unigolion cyfain dim ond elfennau ohonyn nhw wedi eu cyfuno i greu cymeriadau credadwy!

Galwad ffôn ddienw

Cychwyn y dilyn ’sgwarnog yw galwad ffôn ddienw i Saran yn swyddfa’r Journal un prynhawn diflas ar drothwy'r Nadolig yn addo "uffar o stori" iddi ond iddi gyfarfod y galwr.

Er bod hynny yn ei harwain ar hyd sawl trywydd ‘newyddiadurol’ diddorol wrth iddi geisio dod o hyd i’r gwir y tu ôl i’r alwad a’r tu ôl i farwolaeth llanc ifanc mewn damwain car y mae llawer iawn mwy i Dilyn ’Sgwarnog na bod yn nofel bapur newydd ystrydebol.

Wedi bod yn newyddiadurwraig ei hun y mae gafael Annes Glynn ar y cefndir yn sicr gyda’r cymeriadau a’r awyrgylch yn taro deuddeg.

Llwydda i gyfleu syrffed yn ogystal a chyffro bywyd papur newydd.

Caernarfon ydi'r dre

Digwydd hynny oherwydd i’r awdur dynnu ar brofiadau, pobl a sefyllfaoedd y mae yn gwbl gyfarwydd a hwy. Bu’n ohebydd nid yn unig ar Y Cymro ond hefyd ar Bapurau’r Herald yng Nghaernarfon ac nid oes cuddio’r ffaith mai Caernarfon yw’r dref yn y nofel a phobl Caernarfon yw ei phobl.

Mae’r afael ar eu natur a’u iaith yn sicr.

Hyd yn oed cyn ei chyhoeddi yr oedd Dilyn ’Sgwarnog wedi ei phrofi ei hun gan iddi ennill Coron Eisteddfod Môn y llynedd i’r awdur.

Meddai Jane Edwards yr adeg honno: "Nofel i’w darllen ar un eisteddiad gan awdur sy’n gwybod i’r dim sut i gynnal a chadw diddordeb, mewn iaith sy’n llifo ac yn blasu fel hen win."

Ni fydd neb yn dadlau â hynny gan fod y stori yn cydio a gafael Annes ar iaith a deialog yn un sicr iawn.

Y mae dwy brif stori yn rhedeg ochr yn ochr - ymchwil Saran i’r dirgelwch y tu ôl i’r alwad ffôn ac hefyd ddigwyddiadau erchyll ym mywyd Jan sy’n cael ei herlid gan lerciwr. Dyfais ddiddorol yw ei defnyddio hi sydd yn gymeriad mewn nofel y mae Saran yn ei darllen.

Ar ben hynny plethir i’r stori elfennau ym mywyd y mân gymeriadau eraill. Saran ei hun, er enghraifft, nid yn unig yn ceisio dygymod a thrychineb yn ei gorffennol ond hefyd ei pherthynas fregus a’i chariad Gwyn. Er yn gymeriad ymylol i’r stori y mae i amgylchiadau trist bywyd Idw, un o weithwyr y Journal, eu lle yn adeiladwaith y stori.

Mae’r cyfan yn cyfuno’n dusw difyr a gafaelgar gyda sawl golygfa gyffrous megis yr un rhwng y merched yn y clwb nos.

Nofel y mis ganmoladwy ar gyfer Dydd Gwyl Dewi sydd hefyd yn Ddiwrnod y Llyfr.

Trueni, erbyn meddwl, nad oeddwn i ynddi a finna'n ffansi gymaint bod yn Lew Grant. Tro nesa efallai; achos mae'r nofel gyntaf hon yn haeddu cael un arall i'w dilyn.

Holi Annes Glynn - cliciwch Yma

 
Wythnosau Blaenorol:


Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy