|
|
Troi'r
hawdd
yn astrus
Adolygiad
o Mawl a'i Gyfeillion - cyfrol sy'n cael ei difetha gan
gymhlethod ei dweud
Dydd Iau, Chwefror 15, 2000
|
Adolygiad
gan Glyn Evans:
Mawl a’i Gyfeillion. Cyfrol 1 gan R. M. Jones. Barddas.
£14.95.
Y mae Bobi Jones - neu R. M. Jones fel mae’n galw ei hun pan yn feirniad
llenyddol yn hytrach nag yn fardd - yn disgrifio ei gyfrol ddiweddaraf
fel "myfyrdod ynghylch ateb i’r cwestiwn pam llenydda o gwbl."
Traddodiad maith a chyfoethog
Y mae wedi dewis fel ei faes y traddodiad maith a chyfoethog o ganu
mawl yn y Gymraeg gan godi nifer o gwestiynau digon pryfoclyd.
Y mae’n defnyddio ei destun fel ffordd o fynd i’r afael materion sydd
yn sylfaenol i’r broses o greu ac yn hanfod i feirniadaeth lenyddol.
Dywed iddo gael ei "orfodi" i "geisio esbonio ym mha le yn y broses
gyflawn ac ym mha ffordd y mae Cymhelliad yn ffitio a beth
yw ei arwyddocâd yn strwythur y meddwl wrth lenydda."
Cyfrol gyntaf o ddwy yw hon yn rhoi "amlinelliad bras" o "yr adeiladu
eang ac araf hwnnw" o fawl mewn barddoniaeth Gymraeg dros y canrifoedd
gan gychwyn gyda’r cynfeirdd a’r gogynfeirdd.
Nid yn unig y mae mwy i ddod ond bu mwy cyn hyn gan fod y gyfrol hon
yn ychwanegiad at domen o feirniadaeth lenyddol - neu "drafodaeth
estynedig ynglyn â gwneuthuriad llenyddiaeth ac yn sgil hynny feirniadaeth
lenyddol ei hun" - gan y beirniad, bardd a llenor hynod gynhyrchiol
hwn.
Mae’n drafodaeth sydd yn ymestyn yn ôl i 1974.
Mwy na dweud pethau neis
Wrth olrhain y traddodiad Canu Mawl Cymraeg y mae’n gofyn ac yn ateb
y cwestiwn a yw mawl yn rhywbeth amgenach na dweud "pethau neis" am
bobl a gwrthrychau.
Ei ateb yw fod canu mawl yn fwy na hynny - er nad yw’n
hawdd iawn dod o hyd i osodiad mor syml a hynny rhwng ymresymu cymhleth
a brawddegu cordeddog y gyfrol hon.
Fodd bynnag, dywed fod y "ffaith seml" fod yna "foliant ar waith o
gwbl yn datgan fod yna rinwedd wedi’i chanfod" mewn gwrthrych.
Ond:
"Wrth archwilio peth o amlochredd a datblygiad hanesyddol y traddodiad
mawl hwn yn y Gymraeg, sylwir bod yr arweddau gwahanol ar y ffenomen
hon yn dra amrywiol. A dyry’r amlochredd hwnnw y cyfle i archwilio
anian amryddawn Mawl mewn sawl amgylchfyd," meddai.
Moli yn rhywbeth sylfaenol
"Cyn gynted ag y cafwyd dyn cafwyd molwr," meddai mewn lle arall.
Ynglyn â phwysigrwydd mawl nid oes amheuaeth yn ei feddwl:
"Mawl yw’r cynnwys mwyaf cyffredinol - o bob pwnc a gwrthrych, o bob
rhyw ddeunydd - sy’n angenrheidiol i lenyddiaeth. Dim ond oherwydd
cymhelliad cadarnhaol mawl y gwneir llenyddiaeth yn bosibl," meddai.
Y mae’n wir yn "gongl-faen" yn yr ymdrech i ddiffinio beirniadaeth
lenyddol ei hun.
Mewn Rhagymadrodd mae'n gwahaniaethu rhwng yr hyn y mae’n ei
alw yn gyflwr cymelliadol Mawl ar y naill law ac ar y llaw
arall Fawl "sy’n rhan o gyfundrefn lenddull Mawl/Dychan."
Cymhleth ac anodd
Er nad oes yna ddim byd ar glawr y llyfr i ddweud mai cyfrol wedi
ei chyfyngu i ysgolheigion yn unig yw hon a’i bod yn dreth ar iechyd
meddwl y gweddill ohonom ni fydd y sawl sy’n gyfarwydd a gwaith R.
M. Jones yn disgwyl rhywbeth hawdd ei ddarllen a’i ddeall beth bynnag.
Nid y rhai hynny sy’n disgwyl eglurhad syml a dealladwy o unrhyw bwnc
sydd yn troi ato ef am gymorth. Felly, efallai ei bod yn annheg cwyno
nad yw hynny i'w gael yma.
A dydw i ddim yn meddwl mai’r rheswm am hynny yw fod y cysyniadau
eu hunain yn rhai arbennig anodd eu deall. Y mae’r bai yn llwyr ar
fynegiant a all fod yn affwysol o gymhleth ac aneglur ar adegau. Brawddegau
trofaus - yn drwmbeli aml-gymalog o eiriau anodd a thermau anghyfarwydd
- y mae angen map i ddilyn eu hymresymu trofaus.
Efallai fy mod yn ddiniwed yn credu mai un rheswm dros dalu am addysg
coleg i bobl yw y bydden nhw wedyn yn dod oddi yno gyda’r gallu i
oleuo tywyllwch y gweddill di-goleg ohonom. Gwneud yr hyn sy'n gymhleth
inni yn eglur, y dyrys yn glir.
Fodd bynnag, gall cyfrolau fel hon ymddangos fel pe byddent wedi eu
sgrifennu i’r dethol dysgedig gyda’r llwyr fwriad o’n dieithrio ni
ddarllenwyr cyffredin.
Yn union fel y beirdd hynny sy’n gwneud i’r cymharol hawdd ymddangos
yn anos nag yw mewn gwirionedd gan gredu mai rhywbeth sy’n cymhlethu’r
syml yw barddoniaeth yn hytrach na chyfrwng sy’n troi’r cymhleth yn
ddarluniau cofiadwy, hawdd eu deall, sy’n ei gwneud yn bosib inni
adnabod yr anadnabyddiedig a deall yr astrus.
Gwahanol ac ecsentrig
Fodd bynnag, wedi dweud hynny, y mae yna elfennau difyr a phryfoclyd
ym Mawl a’i Gyfeillion lle mae R. M. Jones yn tynnu ar ei wybodaeth
eang a thrwyadl ac yn defnyddio ei grebwyll gwahanol - neu ecsentrig,
hyd yn oed - i ddehongli yn wahanol wahanol bynciau llenyddol.
Pan yw yn trafod cyfnodau neu bynciau penodol y mae y gyfrol hon ar
ei chryfaf a mwyaf diddorol - a dealladwy - megis pan yw’n sôn am
y ffordd ddiddorol y democrateiddwyd mawl o fod yn "ddweud petha neis"
am uchelwyr a phendefigion a noddwyr i ganu am y gwerinwr a’r gweithiwr.
Difyr hefyd y drafodaeth am y gwahaniaeth rhwng moli Duw a moli gwrthrychau
meidrol a’r ddamcaniaeth na all moli Duw fod yn "seboni" tra gall
moli’r llall fod yn yn weniaith negyddol.
Cynnal trefn arbennig
Diddorol eto y trywydd mai cynnal trefn arbennig yr oedd mawl yn y
lle cyntaf o safbwynt y beirdd ond i newid ddod yn hyn o beth yn sgil
amwysedd a choegni mawl yn llaw Dafydd ap Gwilym.
Bu ei ddylanwad ef yn chwyldro a ledwyd wedyn gan feirdd yr uchelwyr
i gynnwys y gweddus a’r masweddus.
A beth am y syniad o fawl yn nwylo yr emynydd, William Williams Pantycelyn?
Yn sicr mae’r gyfrol yn gwneud inni sylweddoli bod mwy i ganu mawl
na’r diffiniad amrwd cyntaf sydd yn dod i feddwl dyn. Yr unig drueni
yw nad yw hynny’n cael ei fynegi cyn gliried ag y gellid bob amser.
|
|
|