±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Nia Medi
Newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf
Enw?
Nia Medi

Beth yw eich gwaith?
Mam (awdur, actores, ar fin agor siop)

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Cynllunio tai

0 ble'r ydych chi'n dod?
Llanfair, ger Harlech

Lle'r ydych chin byw yn awr?
Dolgellau

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do, ar y cyfan. Tair blynedd yn y Normal ym Mangor yn enwedig. Dyddiau difyr - a da...

Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Nofel am fywyd. Y siom, y cariad, yr hapusrwydd a'r tristwch - a llwyth o hiwmor! Mae o'i gyd yma! Rhywbeth i bawb gobeithio...

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Llyfrau eraill?!

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Unrhyw beth oedd yn cynnwys y 'Famous Five' a'r 'Swallows and Amazons'.
Roeddwn wedi darllen pob un o lyfrau Agatha Christie wedyn, cyn o'n i'n bymtheg oed...

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Na, ella pan fydd Lewys yn hÅ·n, mi wnai...

Pwy yw eich hoff awdur?
Y diweddar Carol Shields (o Ganada) ac Isabelle Allende

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Gormod i'w henwi - ond mi sbardunodd 'Un Peth 'di Priodi, Peth Arall 'di Byw, ' Dafydd Huws fi, i ddefnyddio mwy o 'chwarae ar eiriau' yn fy nofel 'Omlet'.

Pwy yw eich hoff fardd?
Harri Webb, Dorothy Parker ac R S Thomas ac mae rhaid i fi ddweud fy hen, hen, hen daid, John Williams, sef y bardd 'Ioan Madog'.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Lle mae rhywun yn cychwyn? Yr un wnaeth fwya' o argraff arnai yn y blynyddoedd dwytha' ma yw awdl fuddugol Mererid Hopwood, 'Dadeni'.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
"Cael yn ôl o borth marwolaeth, cân a ffydd a bri yr heniaith,
Cael yn ôl yr hen dreftadaeth - a Chymru'n dechrau ar ei hymdaith....

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
'Picnic At Hanging Rock', 'The Office', a'r 'X-Factor'!

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriadiau diweddaraf: Y geisha 'Sayuri' - Memoirs of a Geisha, Arthur Golden.
Precious Ramotswe -'The No. I Ladies Detective Agency' Alexander Mccall Smith.
Methu meddwl am neb afiach...

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
A elo yn hwch i rydychen, yn hwch y daw yn ôl.

Pa un yw eich hoff air?
Hwch.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Canu'r piano.
Amynedd.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Blinedig,
Sychedig,
Ansicr...

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Faint o dudalennau 'sgennai i ateb?

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Gwynfor Evans.
Oes angen eglurhad?

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Fe hoffwn fod wedi bod o amgylch y bwrdd swper yn hen reithordy'r 'Tŷ Mawr', Llanfair, Harlech, pan roedd Gerallt Gymro yn aros yno. Yn ôl y sôn, fe arhosodd yno sawl gwaith ar ei deithiau.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Billy Holiday - "Ti'm angen y tabledi 'na..."

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Taith yn y tacsi o'r maes awyr, i'r 'apartment' ar un o ynysoedd Groeg. Y gwres yn llethol, cerddoriaeth draddodiadol yn chwarae a'r môr yn las, las, oddi tanom a minnau'n gwybod bod y daith bron drosodd a'r gwyliau ar fin cychwyn.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Sglodion a physgodyn yn y car, y ffenestri wedi stemio a'r glaw'n taro'n eu herbyn tu allan. Hynny neu kalamari a salad tomato a glasaid o win rose, a'm traed yn y môr yn Kefalonia.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Pilates, beicio, darllen, addurno'r tÅ·, barddoni, stwffio cadeiriau...

Pa un yw eich hoff liw?
Brown.

Pa liw yw eich byd?
Brown, efo ambell fflach o oren.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Bod pawb sy'n poeri ar y stryd, chwarae cerddoriaeth yn uchel a gweiddi a rhegi ar ôl hanner nos, yn cael eu saethu...

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Ydi arth yn chwarae gwyddbwyll?

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Cerddodd Anna Patricia Price i lawr y ffordd a thu allan i siop y gornel, gwelodd geiniog loyw ar y pafin a phlygodd lawr i'w chodi. Roedd y ffaith ei bod wedi plygu mlaen ar yr union eiliad honno am effeithio ar dair blynedd nesaf ei bywyd, petasai ddim ond wedi gwybod....

Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad o Omlet

Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý