±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Mari George
Holi awdur, Y Nos yn Dal yn fy Ngwallt




Beth yw eich gwaith?
Golygydd Sgriptiau ac awdur i Pobol y Cwm

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Golchi llestri mewn caffi ym Mhen-y-bont, gweithio yn Marks and Spencers, cyfieithu i gwmni Araul yn Llantrisant a gweithio yn wirfoddol gyda phlant y stryd ym Mecsico.

O ble'r ydych chi'n dod?
Pen-y-bont ar Ogw.

rLle'r ydych chi'n byw yn awr?
Grangetown, Caerdydd.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Na. O'n i'n breuddwydio gormod i ganolbwyntio. O'n i wastad yn colli'r bws yn y gobaith o gael diwrnod bant. Yr unig beth nes i ei fwynhau oedd lefel A Cymraeg.

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf ac a wnewch chi ddweud ychydig amdano?
Mae'r gyfrol yn gasgliad o gerddi a luniais yn ystod y deng mlynedd diwethaf - sef cyfnod fy ugeiniau. Dw i wedi trio adlewyrchu profiadau dwys, llawen, anaeddfed ac ansicr person ifanc. Mae'n nhw'n dweud mai fi yw'r person cyntaf i ddod a PMT i fyd barddoniaeth Gymraeg!

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dim ond y gyfrol Pili Pala pan enillais y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod yr Urdd 1994.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
The Lion the Witch and the Wardrobe - CS Lewis.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Na, ond dw i'n meddwl amdano'n amal am ryw reswm!

Pwy yw eich hoff awdur?
Dylan Thomas, Ian Martell, Robin Llywelyn.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Y Beibl.

Pwy yw eich hoff fardd?
Gerallt Loyd Owen ac Emyr Lewis.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Fy ngwlad - Gerallt Lloyd Owen a Rhyddid - Casgliad o gerddi Emyr Lewis a enillodd y goron iddo ym Mro Ogwr.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
...rhwng y coed ar lannau Taf noswyliwn mewn dawns olaf yn sŵn brainryw noson braf

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Fy hoff ffilm yw Don't Look Now a fy hoff raglen deledu yw Sex and the City.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Fy nghas gymeriad yw cymeriad y fam yn Sons and Lovers - D H Lawrence.Fy hoff gymeriad yw Branwen yn y Mabinogi.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Man gwyn man draw.

Pa un yw eich hoff air?
Heddwch.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y ddawn i ganu'n wefreiddiol.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Trwsgwl,
brwdfrydig,
hapus.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Dw i methu gwneud penderfyniadau.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Hywel Teifi Edwards am ei allu i siarad yn synhwyrol ac angerddol yn ddibaid a pheidio bod ofn dweud ei farn.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Croesi'r Môr Coch.

Pa berson hanesyddol hoffech chi gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Iesu Grist a bydden i'n gofyn iddo am ei farn am gyflwr y byd heddiw.

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Cerdded o Ferthyr Mawr dros y twyni tywod i draeth Aberogwr. O'n ni'n mynd yna fel teulu pan o'n i'n blentyn gyda ffrimpan a llond bag o sosejys a chael barbaciw ar ôl cyrraedd.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Popadoms a cyri a photel o win coch.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen, rhedeg, dysgu Sbaeneg a bwyta allan!

Pa un yw eich hoff liw?
Coch.

Pa liw yw eich byd?
Melyn

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Dim rhagor o raglenni pry ar y wal.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes. Llyfr am fy mhrofiadau ym Mecsico.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Camodd Sara allan drwy'r drws ffrynt i weld bod y strydoedd yn wag a sylweddolodd mai hi oedd yr unig berson oedd ar ôl ar y ddaear.


Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý