±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Kate Roberts y ffeminist
Adnabod merched yn well
gan Glyn Jones

"Rydw i'n nabod merched yn well."
Dyna'r ateb a roddodd Kate Roberts pan ofynnwyd ei barn am y dynion yn ei gwaith.

Fodd bynnag, nid yw canolbwyntio ar ferched, nac ar y cartref a gorchwylion domestig yn ddigon i wneud awdur yn 'ffeministaidd'.

Eto, o graffu ar y merched yn ei gwaith gellir canfod llais ffeministaidd clir.

Ystyrier yr awdures ei hun.
Kate Roberts, nid Kate Williams yw'r enw a roddodd wrth ei holl gyfrolau.
Wrth ei henw ei hun y dymunai gael ei hadnabod, nid wrth enw ei gŵr.

Ac mewn llythyr at Saunders Lewis ysgrifennodd:
"Nid wyf fi na Morus [Williams] yn credu mewn priodi, ond credwn mewn 'byw tali'."

Yn ei rhyddiaith
Cymharer hyn â'i hagwedd at briodas yn ei rhyddiaith. Yn Rhwng Dau Damaid o Gyfleth mae Geini'n gwrthod priodi Dafydd am ei bod yn ofni:
"Y down ni i nabod yn gilydd yn ddigon da i gashau yn gilydd."

Dyna Lora Ffennig wedyn sy'n gwrthod caethiwo'i hunan eilwaith drwy briodi Mr Meurig.

Ochr arall y geiniog yw Sioned Traed Mewn Cyffion sy'n dod dan lach Kate Roberts am briodi er mwyn priodi, tuedd fenywaidd y mae'n fwy na pharod i'w chondemnio.

Ptiodas gyfleus
Rhydd Kate sêl ei bendith ar briodas gyfleus, yn enwedig o safbwynt y ferch, megis priodas Sam ac Alis yn Hen Bobl yn Caru.

Ffeminyddiaeth geidwadol yw ffeminyddiaeth Kate Roberts felly gyda'i cheidwadaeth yn gwthio'i merched i briodas ond ei ffeminyddiaeth yn eu hatal rhag gwneud hynny'n fyrbwyll fodlon.

Mae'r diffyg ymlyniad hwn at fyth rhamantaidd yn null Austen, Brontë neu Jane Edwards yn nodwedd amlwg yn ei gwaith fel ag yng ngwaith ffeministiaid enwog fel Virginia Woolf.

Chwalu'r diffiniad traddodiadol
Gwelir ei ffeministiaeth yw ei phortread o'r ferch hefyd wrth iddi roi nodweddion cymdeithas batriarchaidd yn eu dwylo hwy.

Yr enghraifft orau yw Ann Owen, Tegwch y Bore, sy'n chwalu'r diffiniad traddodiadol o ferch fel estyniad o'i chymar. Adlewyrchir ei hanniddigrwydd yn y llinellau hyn:

"Methai edrych ymlaen at fywyd efo Richard. Dywedai un hanner ohoni y dylai fynd ymlaen gyda'i gwaith fel athrawes. Dywedai'r hanner arall y dylai briodi." Nid ar chwarae bach y gall Kate Roberts y llenor a'r wraig fusnes gondemnio Ann i'r gegin. Eto, yn baradocsaidd nid yw'n cwestiynu unwaith hawl dynion i redeg cymdeithas. Yr agosaf y daw at hynny yw cri Bet yn Tywyll Heno:
"Y peisiau sy'n teyrnasu. Gorfoledded y ddaear."

Datganiad sy'n dweud mai merched, nid dynion, na hyd yn oed yr Arglwydd, sy'n rhedeg cymdeithas - ond unwaith eto mae ei cheidwadaeth yn mynnu ei bod yn torri esgyll y ferch.

Nid yw'n gadael i Bet godi'i phac a ffoi, yn wahanol i Henrik Ibsen gyda Nora yn TÅ· Dol
Nid gwrthryfela yn erbyn cymdeithas a wna Bet ond gwrthryfela i'w derbyn.

Rhydd i bechu
Ben arall y sbectrwm ceir merched fel Melinda.
Mae Bet yn ymweld â'i thŷ fel pe'n grair sanctaidd ac mae'r modd y difera bersawr Melinda ar ei hances yn awgrymu edmygedd sy'n ymylu ar addoliad. Mae Melinda'n rhydd i bechu, am nad yw'n teimlo pechod.
Yn yr un modd, ymateb Begw i Winni Ffinni Hadog sydd:
"fel rhyw fath o broffwyd iddi."
Hynny am ei bod yn beiddio byw yn wahanol.

Wrth edrych ar Te yn y Grug gyda'r hyn â elwir yn 'gynocriticism' - sef elfen o feirniadaeth ffeminyddol - gellir dadlau bod Begw a Winni yn ddau ddwbl o'r awdures ei hun.

Y naill yn ymgorfforiad o sensitifrwydd Kate, y llall yn cynrychioli'i hawydd i regi yn wyneb cymdeithas.

Cyfaddefodd Kate Roberts ei hun mai Winni oedd ei hoff gymeriad.

Y dynion yn ei gwaith
Ystyrier wedyn y dynion yn ei gwaith.
O'u cymharu â'r merched crwn, cymhleth, ystrydebol yw bron bob un ohonynt yn cynrychioli y gwryw nodweddiadol, di-liw, dideimlad, twyllodrus.

Dyna Iolo odinebus Y Byw Sy'n Cysgu, Twm Ffinni Hadog, neu lembo fel y'i gelwir gan ei ferch, a Gruff Tywyll Heno sy'n gwneud i lwyd edrych yn llachar.

Dyna Pryfocio wedyn. Mae'n amlwg bod Catrin yn dioddef trais seicolegol, ond ceir awgrym bod Meri Ifans yn dioddef tan law ei gŵr a bod 'Robin Huws drws nesa' yn un parod ei ddyrnau.

Nid yn eithriad
Dengys Kate Roberts nad yw gwraig wedi'i chaethiwo dan fawd ei gŵr yn eithriad o bell ffordd.
Ymhellach, mae'r geiriau; "Hi oedd yr unig ferthyr o wraig yn yr ardal." yn feirniadaeth hallt ar yr elfen hunanaberthol sy'n nodweddu Catrin, a llawer o ferched eraill ei rhyddiaith.

Enghraifft debyg yw Chwiorydd lle esgeulusir Meri Ifans gan ei gŵr ac yn hyn o beth, nid oes gwahaniaeth mawr rhwng llawer o weithiau Kate Roberts a champweithiau ffeminyddol Ewrop.

Fel Kate Roberts mae The Second Sex, Simone de Beauvoir a Sexual Politics Kate Millet yn archwilio i'r ddelwedd ddiwylliannol o'r ferch mewn cymdeithas, ac i'r ffyrdd y mae dynion yn camddefnyddio grym i gadw'r ferch mewn safle israddol.

  • Cyhoeddir yr erthygl hon yn rhan o gynllun cyfrannu i bapurau bro sy'n parhau tan Ionawr 2008 rhwng ±«Óãtv Cymru ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill £30 am ysgrifennu - Cliciwch

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Kate Roberts y Modernydd - hefyd gan Glyn Jones.

  • Hanes Kate Roberts

  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý