±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Iona ac Andy
Sydd newydd gyhoeddi hunangofiant
Enw:
Iona Boggie
Andrew Edward Boggie (Andy)

Beth yw eich gwaith?
Cerddor, a threfnu teithiau (y ddau ohonom)

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Iona: Athrawes Ysgol Gynradd
Andy: Athro Ffrangeg, gwerthwr gwinoedd, rheolwr siop

0 ble'r ydych chi'n dod?
Iona: Nantlle, ger Caernarfon a symud i Ddyffryn Conwy pan oeddwn yn bedair ar ddeg.
Andy: Penmaenmawr, Gwynedd

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Chwilog, Pwllheli, Gwynedd

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Iona: Anodd dygymod â dwy ysgol uwchradd ond mwynhau gwneud lefel A ac wrth gwrs dyddiau''r Coleg Normal, Bangor. Cymraeg a Cherddoriaeth
Andy: Wrth fy modd yn y chweched dosbarth yn Ysgol John Brights Llandudno ac yna i Brifysgol Bangor yn astudio ieithoedd gan raddio mewn Ffrangeg.

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
Dwedwch ychydig amdano.
Y rheswm am ysgrifennu'r llyfr oedd ein bod yn dathlu chwarter canrif o ganu gyda'n gilydd ac am i bobl wybod am ein bywyd, nid yn unig fel cantorion ond fel gŵr a gwraig yn treulio pedair awr ar hugain saith diwrnod yr wythnos pum deg dau o wythnosau y flwyddyn gyda'n gilydd.

Clawr y llyfrDau gefndir gwahanol, Iona o bentref Nantlle yn Eryri i deulu Cymraeg. Bywyd capel ac eisteddfodol gan fynd ymlaen i ganu gwerin gyda gitâr yng ngwesty Plas Maenan Dyffryn Conwy yn y saithdegau .Yna i Goleg Normal Bangor a chael swydd fel athrawes gynradd yn Ysgol Glanwydden, Waunfawr, ac Eglwysbach.

Daeth Andy o deulu o Benbedw a ddaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd i Benmaenmawr. Canodd mewn grwpiau roc a rôl yn y chwedegau a roc yn y saithdegau. Graddiodd mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Bangor.

Ar ôl cyfarfod a phriodi fe benderfynwyd ar ganu gwlad gan ei fod yn fan canol rhwng canu gwerin a roc. Iona'n rhoi gora i fod yn athrawes ysgol gynradd a mynd yn broffesiynol.Golygodd hyn ein bod yn trafaelio 35mil o filltiroedd y flwyddyn o amgylch gwledydd Prydain.

Mae yna straeon diddorol am y dyddiau cynnar anodd yn ceisio ennill bywoliaeth ar ychydig o arian a'r straen fwyaf o orfod dygymod â salwch a cholli tad o 1985 i 1990.

Cewch ddarllen am uchafbwyntiau fel canu'n Nashville ar y Grand Ole Opry, Patagonia a'r Gaiman, Ffrainc, Sbaen, yr Almaen, Portiwgal.

Fe enillon ni ddeuawd mwyaf poblogaidd Prydain yn 1987 yn ogystal â nifer fawr o wobrau o amgylch clybiau canu gwlad Prydain.

Mae'r llyfr yn dangos yr amser da a'r drwg ac yn rhoi agoriad llygaid i bobl sydd yn meddwl fod ennill bywoliaeth drwy ganu yn hawdd.

Mae'n gorffen gyda mewnwelediad i'r hyn y mae'r ddau ohonom yn hoffi ei wneud pan nad oes gitâr yn ein dwylo a'r hyn yr ydym yn feddwl o'n gilydd ar ôl chwarter canrif o ganu a dilyn llwybrau breuddwydion.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dim

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Iona: Llyfr Mawr Y Plant a Te Yn Y Grug Kate Roberts
Andy: Boys Book Of All Sports a'r Three Musketeers

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Iona: Byddaf
Andy: Byddaf - y Three Musketeers

Pwy yw eich hoff awdur?
Iona: Kate Roberts
Andy: Len Deighton

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Iona: Y Beibl a llyfr 'The Story of Maria Stella' by herself
Andy: The Constant Gardener gan John Le Carre a llyfr Maria Stella

Pwy yw eich hoff fardd?
Iona: R.Williams Parry
Andy: Wilfred Owen

Pa un yw eich hoff gerdd?
Iona: Eifionydd gan R.Williams Parry
Andy: Green Fields Of France (anhysbys)

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Iona: Digwyddodd, darfu, megis seren wib 'Llwynog', R. Williams Parry
Andy: All the glory the suffering and the pain would all happen again and again and again. (Green Fields of France)

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Iona: Enchanted April a Dramâu hanesyddol a ditectif ar deledu
Andy: Lawrence Of Arabia a Renaissance (teledu)

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Iona: Hoff gymeriad - Begw: Te Yn Y Grug, Kate Roberts. Cas Gymeriad - Tad Frank McCourt, Angela's Ashes
Andy: Hoff gymeriad - Bernie Sampson Game Set And Match, Len Deighton Cas gymeriad - Herod Jenkins, Last Tango In Aberystwyth

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Iona: Ffydd, gobaith cariad a'r mwyaf o rhai hyn yw cariad.
Andy: Hawdd dweud caled gwneud.

Pa un yw eich hoff air?
Iona: cariad
Andy: trosglwyddwyd

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Iona: actio
Andy: chwarae golff yn well

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Iona:
Emosiynol,
Hael,
Teimladwy

Andy:
Tosturiol,
Optimist,
Cymhellol

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Iona: Dim digon o hunanhyder nac yn maddau'n hawdd.
Andy: Fy oed. Gwylltio weithiau yn lle sefyll yn ôl yn enwedig gyda materion y byd.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Iona: Iesu Grist. Fe ddysgodd i ni garu'n gilydd ond biti na fasa mwy wedi gwrando.
Andy: Catherine De Medici. Un o ferched hudolus a diddorol yr unfed ganrif ar bymtheg.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Iona: Helpu plant amddifad Romania ar ôl Caiucescu.
Andy: Dymchel wal Berlin.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Iona: Iesu Grist. Beth oedd ei berthynas â Mair Magdolen?

Andy: Elisabeth y gyntaf i ofyn iddi beidio â lladd Mari Brenhines yr Alban.

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Iona: I fyny i Oban yn yr Alban yna ar long i Ynys Mull; teithio ar hyd yr ynys a dal llong fechan i Ynys Iona. Nefoedd.
Andy: Unrhyw daith i lawr o Ogledd Ffrainc drwy'r wlad a chyrraedd Cahor yn Nyffryn y Lot yn Ne Orllewin Ffrainc. Amser i ymlacio.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Iona: Cig oen wedi ei goginio gyda rosmari, tatws newydd, llysia ffres a grafi wedi ei wneud gyda gwin coch gan adael digon i gael glasiad neu ddau ar ôl (o Ffrainc wrth gwrs).
Andy: prôns wedi'u coginio â garlleg, sinsur, lemon, gwin gwyn, nionyn Gwanwyn(spring onions) pupur coch yna eu rhoi ar blât o letys amrywiol tomatos bach a bara chipati (Eidalaidd).

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Iona: Cerdded mynyddoedd a llefydd gwastad. Teithio i wledydd yn Ewrop; Ffrainc a'r Eidal; diddordeb yn y Dadeni yn enwedig cerfluniau a lluniau yn yr Uffizi yn Florence, Academia yn Venice a'r Louvre ym Mharis. Siopa o unrhyw fath.
Andy: Yr un fath a Iona ond am y siopa! Diddordeb ym mhob chwaraeon.

Pa un yw eich hoff liw?
Iona: Gwyrdd
Andy: Glas
Pa liw yw eich byd?
Iona: gwyn
Andy: gwyrdd

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Iona: Rhwystro ysmygu ym mhobman.
Andy: yr un fath a Iona

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Iona: ysgrifennu am fy nhad a finnau. Bu farw ym 1985 gan adael dipyn o'i waith ysgrifenedig ar ôl felly hoffwn ei roi gyda'i gilydd mewn llyfr ynghlwm â fy mherthynas i ag ef (O.Myfyr Roberts).
Andy: Maria Stella Iarlles cyntaf y teulu Niwbwrch.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Dyma fydd y frawddeg gyntaf yn ein llyfr nesaf:
Iona: Eisteddais ger ei wely yn yr ysbyty a gorchmynodd i mi losgi ei gorff.
Andy: A flock of sparrows grew larger and larger as they flew towards the Louvre from the Bois De Boulogne.


Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý