±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Geraint V Jones
Awdur llyfrau dirgelwch a datrys
Enw
Geraint V. Jones

Beth yw eich gwaith?
Athro (wedi ymddeol) - Pennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Arholi'n allanol i'r Cyd-bwyllgor Addysg.

O ble'r ydych chi'n dod?
Yn enedigol o Flaenau Ffestiniog.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Ym mhentref Llan Ffestiniog.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Yn rhannol, do.

Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Dyma sydd yn y broliant ar glawr y nofel - Zen - cyn filwr ac aelod, erbyn hyn, o warchodlu arfog Palas Westminster, swydd sydd eisoes wedi dechrau troi'n ddiflas iddo oherwydd undonedd y gwaith. Ond mae pethau ar fin newid yn gyflym iawn!

Alex - merch o ardal Caerfyrddin. Gohebydd uchelgeisiol gyda'r Chronicle yn Fleet Street, Llundain. Ar ôl chwe blynedd yn y swydd mae'n dal i ddisgwyl am Y Stori Fawr, y Sgŵp sy'n mynd i ddod â hi i amlygrwydd ym myd cystadleuol y cyfryngau. Mae'r annisgwyl yn ei haros hithau.

Cynllwynio ar goridorau Westminster...ysbiwyr a gwrth-ysbiwyr y Gwasanaethau Cudd...asasin...llofruddiaeth...brad. Mae'r cyfan i'w gael rhwng cloriau'r nofel hon, a'r stori'n datblygu'n gyflym, yn gyffrous ac yn gelfydd, efo mwy nag un tro annisgwyl cyn ei diwedd.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedu eu sgrifennu?
I blant: Antur yr Alpau (1981)
Antur yr Allt (1981)
I'r arddegau Alwen (1974) Nofel am helyntion serch
Storiau'r Dychymyg Du (1986) Casgliad o storiau iasoer
Melina (1987) Stori antur yng ngwlad Groeg
I oedolion: Yn y Gwaed (1990) Gwobr Goffa Daniel Owen, Cwm Rhymni
Semtecs (1998) Gwobr Goffa Daniel Owen, Bro Ogwr
Asasin (1999) Dilyniant i 'Semtecs'
Ar Lechan Lân (1999) Nofel am streic mewn chwarel lechi
Omega (2000) Dilyniant i 'Semtecs' ac 'Asasin'
Cur y Nos (2000) Gwobr Goffa Daniel Owen, Llanelli
Yn Saesneg: The Gates of Hell (2003) Nofel Drychineb wedi'I lleoli yng Ngogledd Cymru

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Yn Gymraeg, nofelau ditectif John Ellis Williams ac wedyn gweithiau Islwyn Ffowc Ellis. Yn Saesneg, storiâu Enid Blyton, yna Agatha Christie et al.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Na

Pwy yw eich hoff awdur?
Un o'm hoff awduron Cymraeg ydi Rhiannon Davies Jones.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Yn Gymraeg, cefais fy swyno gan nofelau hanes Rhiannon Davies Jones a Cyril Hughes.

Mae nofelau megis Un Nos Ola Leuad, Traed mewn Cyffion, Cysgod y Cryman hefyd yn aros yn fyw yn y cof. Yn Saesneg, Wuthering Heights a Lord of the Flies (William Golding).

Pwy yw eich hoff fardd?
Gwyn Thomas, wrth reswm. T. Gwynn Jones hefyd, ymysg eraill.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Blaenau, Cymylau Gwynion a Croesi Traeth gan Gwyn Thomas a Madog gan T. Gwynn Jones. Hefyd rhai o gerddi R Williams Parry, Gerallt Lloyd Owen, Bryan Martin Davies, Iwan Llwyd... Mae'r rhestr yn faith!

Pa un yw eich hoff gwpled neu linell o farddoniaeth?
Hysbys y dengys y dyn O ba radd y bo'i wreiddyn (Tudur Aled)

Pa un yw eich ffilm a rhaglen deledu?
Hedd Wyn; Rownd a Rownd, Talcen Caled, rhaglenni newyddion a chomedïau megis Cym on Midffîld ac Allo Allo.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
O safbwynt edmygu dawn nofelydd i bortreadu, yna mae Capten Trefor gan Daniel Owen a Heathcliffe gan Emily Bronte yn ffitio'r ddau gategori.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Beth am y cwpled uchod?


Pa un yw eich hoff air?
Maddeuant.
Fy nghasaf gair ydi lladd/kill

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Dawn cerddor neu arlunydd.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Cyffredin...
Gwerinol...
a gwylaidd hefyd, gobeithio.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Llawer iawn o bethau!

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Pobl gadarn eu hegwyddorion a rhai sydd wedi aberthu dros genedl a chyd-ddyn - Gandhi, Martin Luther King, y Fam Teresa.

Mae'r rhestr yn faith, diolch am hynny. Yng Nghymru (ar wahan i arwyr hanesyddol megis Llywelyn ap Gruffudd ac Owain Glyndŵr), Aneurin Bevan a Gwynfor Evans.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Y Dadeni Dysg yng Nghymru.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu ei ofyn?
Llywelyn y Llyw Olaf.
"Gair o gyngor, Llew! Cadw'n glir o Gilmeri."

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Mynd i bysgota, ar ddiwrnod braf o wanwyn, i Lynnoedd y Gamallt ar Fynydd y Migneint uwchlaw Ffestiniog.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Unrhyw beth efo tsips!!

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Pysgota a darllen - yn y drefn yna.

Pa un yw eich hoff liw?
Glas.

Pa liw yw eich byd?
Du iawn tra bo gwleidyddion yn mynnu cyfiawnhau mynd i ryfel.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf sy'n gorfodi Dyn i barchu'i gyd-ddyn (Cwbl anymarferol, ond dyna fo!)

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Mae dwy nofel fer wedi'u cwblhau ond does wybod pryd y cânt weld golau dydd. Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio ar nofel Saesneg arall.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Ar y clawr - International Bestseller!!

Cyhoeddwyd nofel ddiweddaraf Geraint V. Jones, Zen, fis Tachwedd 2004

Cysylltiadau Perthnasol


Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý