±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Angharad Devonald
Awdur Graffiti - nofel Chweched Dosbarth
Enw
Angharad Devonald

Beth yw eich gwaith?
Awdur

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Ysgrifennu dramâu a sgriptiau yn bennaf, gan gynnwys Not Getting Any, Jarra, Pobol y Cwm, Seren Seibr, The Morals of Modern Day Myths. Ar hyn o bryd yn gweithio ar gyfres o gartŵns, Bywyd Cudd Sabrina.

O ble'r ydych chi'n dod?
Llantrisant.

Lle'r ydych chin byw yn awr?
Caerdydd.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Ar y cyfan. Er tuag at ddiwedd fy ngyrfa ysgol ffindes i unrhyw esgus i beidio mynd. Wedi joio yn y coleg!

Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Nofel yn olrhain hanes criw chweched dosbarth wrth iddynt arbrofi, dysgu a datblygu ffyrdd o gynllunio yn erbyn yr athrawon!

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dyma'r cyntaf.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Anodd dweud, o'n i'n ffan mawr o Roald Dahl. Hefyd Y Wenynen Fach Drachwantus. Roedd gen i ofn y lluniau!

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Byddaf o bryd i'w gilydd.

Pwy yw eich hoff awdur?
Dim un penodol. Hoffi amrywiaeth, yn dueddol o hoffi pwy bynnag dwi'n darllen ar y pryd! Hoff iawn o ddramodwyr Americanaidd gan gynnwys Tennessee Williams, Arthur Miller, David Mamet ayyb.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Sawl un am resymau gwahanol. The Tin Drum, Anna Karenina, Life of Pi, East of Eden, A Suitable Boy, i enwi ychydig...

Pwy yw eich hoff fardd?
Ddim yn darllen lot o farddoniaeth, ond R.S Thomas, Sylvia Plath, Phillip Larkin, Shakespeare, Yates...

Pa un yw eich hoff gerdd?
"Let me not to the marriage of true minds admit impediments..." Doeth iawn, a tres rhamantus!

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Do not stand at my grave and weep, I am not there, I do not sleep.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Hoffi ffilmiau gyda straeon! Y Tu Mama Tambien yn ffefryn! Yn hoff iawn o gyfresi cynnar Teachers, E.R a'r anfarwol Little Britain wrth gwrs!

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad Blanche DuBois. Cas gymeriad Y Gacynen Ddrwg!

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
S'dim iws codi pais ar ôl piso.

Pa un yw eich hoff air?
Ansbaradigaethus, ond anodd iawn ffeindio defnydd cyson.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Gallu arlunio.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Byr, trefnus, hunanol!

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Mwy na digon!

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Dad, am frwydro.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Chwyldro Celfyddydol Paris ddechrau'r ugeinfed Ganrif.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Yn bersonol, Tadcu i glywed y storis! Fel arall Mandela yn sicr yn foi licen i gael sgwrs gyda! Shakespeare yn un arall!

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y siwrne rhwng y Maes Awyr a chanol dinas Dulyn. Mae'r daith ei hun yn llwyd a diflas, ond dwi'n gwybod fy mod i ar y ffordd i gwrdd â ffrindiau.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Ffysi iawn gyda mwyd, ond mae cwmni da wastad yn gwella'r blas!

Angharad Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen, mynychu'r theatr, treulio amser gyda ffrindiau, dysgu Sbaeneg, teithio, nofio ayyb.

Pa un yw eich hoff liw?
Coch.

Pa liw yw eich byd?
Amryliw, heddi!

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Dwy lôn i gerddwyr ar strydoedd siopa prysur, un i bobl sy'n mynd i rywle a'r llall i bobl sy'n 'crwydro' / stopio'n ddi-rhybudd ayyb.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Dim ar hyn o bryd.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Amser maith yn ôl... ?!
Ddim yn siŵr iawn, yn newydd i'r broses yma!


Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý