±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Delyth Morgans
Awdur Cydymaith Caneuon Ffydd
  • Gellir clicio i wrando ar Delyth Morgans yn cael ei holi wedi darllen yr atebion hyn.

    Enw:
    Delyth Gwenllian Morgans.

  • Dwedwch ychydig am Cydymaith Caneuon Ffydd. Beth yw y cynnwys a soniwch am y dasg o gasglu gwybodaeth?

  • Mae'n gyfrol sy'n cynnig gwybodaeth am bob emyn, emyn-dôn, emynydd, cyfieithydd a chyfansoddwr sy'n y llyfr cydenwadol, Caneuon Ffydd. Ceir hefyd ysgrif sy'n crynhoi hanes emynyddiaeth yng Nghymru.

    Treuliais dair blynedd a mwy yn pori mewn llyfrau, cyfeirlyfrau, cyfnodolion a gwefannau, ac yn cysylltu ag emynwyr a chyfansoddwyr yng Nghymru. Gallwn fod wedi treulio blynyddoedd lawer eto yn cribinio mwy o wybodaeth a holi hwn a'r llall. Fel gyda phob gwaith ymchwil, cyfrol amherffaith ac anghyflawn yw'r Cydymaith hwn.

  • Beth oedd yr wybodaeth fwyaf syfrdanol ichi ei ganfod?

  • Sylweddoli mai dim ond 10 oed oedd Euros Rhys Evans yn cyfansoddi'r dôn Dod ar fy mhen.

  • A oes gennych hoff emyn ac emynwr - dywedwch ychydig am eu cefndir?

  • Hoff emyn: mae'n dibynnu ar amgylchiadau a theimladau, ond un y byddaf yn troi ato dro a thrachefn yw emyn Thomas Jones o Ddinbych, Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw.

    Emyn cadarn sy'n datgan argyhoeddiad ac ymgysegriad, ac mae'r briodas rhwng y geiriau a'r dôn 'Trewen' yn gwbl wefreiddiol.

    Hoff emynydd: Williams Pantycelyn, am fod ei emynau yn Feibl-ganolog a Christ-ganolog ac nad ydyn nhw'n dyddio o gwbl.

  • Ydych chi'n cofio'r emyn cyntaf ichi ei ddysgu erioed?

  • Fel yr rhan fwyaf o blant, Iesu tirion, gwêl yn awr, mae'n siŵr.

  • Beth sy'n gwneud emyn da?

  • Profiad. Hynny yw, profiad yr emynydd o rym y Duw byw, datgan yr argyhoeddiad Cristnogol, a'r gallu i roi mewn geiriau brofiadau'r Cristion cyffredin (a hynny fel unigolyn neu'n rhan o gynulleidfa).

  • Pa emyn gyfansoddwyd dan yr amgylchiadau rhyfeddaf?

  • Fe'm rhyfeddwyd fod cymaint o emynau yn ganlyniad i alar a dioddefaint a salwch. Enghreifftiau yw Mae Duw yn llond pob lle (David Jones, Treborth), O fy Iesu bendigedig (Eben Fardd), ac emyn Saesneg George Matheson, O love that wilt not let me go.

    Er i'r dynion hynny brofi trallod a phrudd-der, nid dyna ddiwedd y gân; yn hytrach, maen nhw'n canu am yr ymgeledd, y gobaith a'r hyder a dderbynion nhw o bwyso ar yr Arglwydd Iesu Grist.

  • Oes yna emynydd annisgwyl yn y casgliad?

  • Does neb wedi fy nharo i fel emynydd cwbl annisgwyl. Ond efallai ei bod hi'n syndod gan rai i weld gwaith T. H. Parry-Williams mewn llyfr emynau - er mai cyfieithu a wnaeth, yn hytrach na llunio emyn - o gofio'r teimladau a fynegwyd ganddo mewn cerddi fel Yr Esgyrn Hyn, Nefoedd a Dychwelyd.

  • Beth yw'r llinell neu gwpled emynyddol sy'n rhoi'r mwyaf o wefr ichi?

  • Euogrwydd fel mynyddoedd byd
    Dry'n ganu wrth dy groes.
    (Williams Pantycelyn)

    Mae'r geiriau syml hyn yn f'atgoffa fod Iesu Grist a'i aberth ar Groes Calfaria yn ddigon i droi pob gofid a bai ac euogrwydd yn gân o ddiolch ac o lawenydd.

  • Ydi emynau yn berthnasol ac o arwyddocâd y dyddiau hyn?

  • Ydyn, yn ddi-os - fel mynegiant o'n ffydd yn y Duw digyfnewid a'n profiad ohono. Yr emyn hefyd yw cyfrwng defosiwn ac 'eicon crefyddol' llawer ohonom ni'r Cymry.

  • Beth yw eich gwaith bob dydd?

  • Swyddog Cyfathrebu Undeb yr Annibynwyr.

  • Par her sydd i'r swydd y cyfnod arbennig hwn o drai crefyddol?

  • Ydi, mae'n gyfnod o drai yn ein heglwysi; dyw mynd i'r capel neu'r eglwys, dilyn Iesu Grist a siarad amdano ddim yn 'norm' bellach. Felly yr her i bob un sy'n gweithio yn y maes Cristnogol yw dangos i bobl fod Iesu Grist a'i Efengyl yn berthnasol iddyn nhw.

    Fy ngwaith penodol i yw rhannu gwybodaeth a newyddion am yr eglwysi, am y ffydd ac am weithgarwch yr Undeb. Ac er ein bod ni'n profi cyfnod o drai crefyddol, rhaid diolch fod Duw yn dal i alw gweithwyr i'w winllan.

  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

  • Ymchwilydd i baratoi Cydymaith Caneuon Ffydd o 2002 hyd 2005. Wedyn bues i'n gweithio i'r Cyngor Llyfrau (yn yr Adran Grantiau a'r Adran Farchnata), cyn ymuno â staff Undeb yr Annibynwyr ym mis Mai 2006.

  • O ble'r ydych chi'n dod?

  • Fferm Blaenfallen uwchlaw Dyffryn Aeron, Ceredigion.

  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?

  • Aberystwyth.

  • Pwy yw eich hoff awdur yn gyffredinol?

  • Ffuglen: Daniel Owen - dawn naturiol i adrodd stori a phortreadu cymeriadau.

    Ffeithiol: D Densil Morgan - gallu i ysgrifennu'n rhwydd a chyflwyno hanes yn ddiddorol.

  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

  • Yn ogystal â'r Beibl (yn enwedig Testament Newydd y Gideoniaid), y llyfr wnaeth ddyfnhau fy mrwdfrydedd ym myd yr emyn (ac a fu'n help hefyd i ddyfnhau fy mhrofiad Cristnogol) oedd Dechrau Canu, E. Wyn James.

  • Pwy yw eich hoff fardd?

  • Dic Jones.

  • Pa un yw eich hoff gerdd?

  • 'Gwanwyn', Dic Jones.

  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?

  • Mae'r gwaed a redodd ar y groes / o oes i oes i'w gofio.
    (Robert ap Gwilym Ddu)

    Mae sŵn y geiriau'n ychwanegu at eu neges.

  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

  • Ffilm: y comedi Johnny English.

    Delyth Morgans Teledu: ar hyn o bryd, Strictly Come Dancing ac X Factor.

    Ar S4C, mae unrhyw beth gyda Dai Llanilar neu Bethan Gwanas yn siŵr o blesio. Rwyf hefyd yn hoff o gyfresi drama; Y Palmant Aur oedd yr orau erioed imi ei gwylio.

  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?

  • Hoff: Esther yn Y Llyffant (Ray Evans), oherwydd ei diniweidrwydd a'i sensitifrwydd.

    Cas: Judy yn Martha, Jac a Sianco (Caryl Lewis), portread da o Saesnes hunanol nad yw'n deall dim am hanfod teuluoedd cefn gwlad.

  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?

  • 1 Ioan 4:10: 'Yn hyn y mae cariad: nid ein bod ni'n caru Duw, ond ei fod ef wedi ein caru ni, ac wedi anfon ei Fab i fod yn aberth cymod dros ein pechodau.'

  • Pa un yw eich hoff air?

  • Perthyn.

  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?

  • Y gallu i werthfawrogi celf fodern.

  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?

  • Cyfeillgar
    Sensitif
    Gwerinol

  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?

  • Dad a mam - am bob arwydd o gariad ac o gefnogaeth a gaf.

  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

  • Diwygiad Llangeitho, 1762. Byddai'n grêt cael bod yn rhan o gyffro ysbrydol gwerin Sir Aberteifi, a chael gwrando ar bregethu ysgubol Daniel Rowland.

  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?

  • Ieuan Gwyllt.
    "Help! Beth wnawn ni â chanu cynulleidfaol heddiw?"

  • Pa un yw eich hoff daith a pham?

  • Y daith drwy Dregaron i Soar y Mynydd a Llyn Brianne - oherwydd y golygfeydd, y tir agored iachus, a'r teimlad nad yw amser yn cyfrif wrth oedi yn y capel syml.

  • Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

  • Cyri poeth a reis, ac wedyn cacen siocled neu gacen gaws i bwdin.

  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Fyddwch chi'n llunio emynau?

  • Na fyddaf.
    Rwy'n hoff o ddarllen, gwneud sudoku a gwrando ar sawl math o gerddoriaeth, yn ogystal â chanu'r piano a'r organ (a'r delyn hyd at fy nyddiau coleg).

    Bydd sawl Sadwrn yn mynd i feirniadu mewn eisteddfodau, a sawl Sul yn mynd i bregethu ac i arwain cymanfaoedd canu.

    Rwy'n hoff o gerdded a helpu ar fferm ddefaid fy rhieni.
    Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn ceir 4x4, cyfrifiaduron a 'gadgets' ... hobïau drud, gwaetha'r modd!

  • A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

  • Ddim eto.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Cyhoeddi Cydymaith Caneuon Ffydd

  • Lluniau o noson cyhoeddi'r gyfrol

  • Adolygiad Alun Lenny

  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý