±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Tom Ellis Holi awdur:
Tom Ellis


Awdur
Dan Loriau Maelor

• Enw: :
Tom Ellis

Beth yw eich gwaith?

Wedi ymddeol

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

Glöwr, peiriannydd mwynglofaol, cemegydd, gwleidydd

O ble'r ydych chi'¹n dod?

Rhosllannerchrugog

Lle'r ydych chi'an byw yn awr?

Rhiwabon

Pa ddigwyddiad roddodd fwyaf o bleser ichi?

Dau yn gyfartal -
i. derbyn fy nhystysgrif fel rheolwr glofa
ii. cael fy ethol yn A.S.

Beth symbylodd eich llyfr diweddaraf?
Dwedwch ychydig amdano.

Teimlais y byddai llyfr yn adrodd hanesion glofaol o safbwynt rheolwr pwll yn llenwi gwacter yn ein llenyddiaeth - a bûm erioed yn "llenor manqué".
Hunangofiant traddodiadol - nid memoirs yw'r llyfr, ond gobeithiaf y rhydd, hefyd, ddarlun o'r awdur.

Beth arall ydych chi wedi ei sgrifennu?

Erthyglau achlysurol yn ymdrin rhan fwyaf â gwleidyddiaeth a barddoniaeth.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

Llyfrau "Just William" gan Richmal Crompton

A fyddwch yn edrych arno'n awr?

Na fyddaf

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

"The Managerial Revolution" (James Burnham)
"The Management of Innovation" (Tom Burns & George Stalker)

Pwy yw eich hoff fardd?

Yn Gymraeg: Parry-Williams,
Yn Saesneg: R.S. Thomas

Pa un yw eich hoff gerdd?

"Drudwy Branwen" (Williams Parry)
"The Other" (R.S. Thomas)

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?

"Pan gyfyd, megis llef / Wedi distawrwydd hir / Mynyddoedd yn y nef, / A thros y tonnau, tir."

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

Does 'r'un

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?

Hoff - Tomos Bartley
Cas - does neb y medraf ei gymryd o ddifrif

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?

'Rwy'n wych, rwy'n wael, rwy'n gymysg oll i gyd.'

Pa un yw eich hoff air?

amen.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?

Y ddawn farddonol

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?

Rhamantydd,
ymarferol,
Cymreig

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?

Tuedd i fod yn ysmala pan fo angen difrifoldeb

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Emyr Humphreys am ei natur waraidd

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

Y chwyldro Ffrengig

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Ludwig Wittgenstein a gofyn ei farn am yr athronydd o Americanwr cyfoes Richard Rorty

Pa un yw eich hoff daith a pham?

I fyny Stryt y Plas at giât y mynydd a mynydd y Rhos. Pan oeddwn yn blentyn, yno yr oedd pawb yn mynd am bicnic; heddiw does neb yno, ac y mae'r distawrwydd yn llesmeiriol.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

Cyw iâr paprika a reis

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

Chwarae gramaffôn (a cheisio sgwennu).

Pa un yw eich hoff liw?

Glas dwfn.

Pa liw yw eich byd?

Oren gyda thinc o binc.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?

Yn ymarferol, cael gallu deddfwriaethol i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Yn anymarferol, cael diddymu'r genedl-wladwriaeth Ewropeaidd.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

Rhoesoch chwilen yn fy mhen!

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?

Yr oedd R.S, Thomas yn fardd rhyfeddol, yr oedd yn wr priod rhyfedd.

Ewch i ddarllen
am Dan Loriau Maelor.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy