±«Óãtv


Explore the ±«Óãtv

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



±«Óãtv ±«Óãtvpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr

Adnabod Awdur:
Hafina Clwyd


Cyn olygydd Y Faner ac awdur Pobol sy'n Cyfri


Dydd Iau, Hydref 4, 2001

Enw:
Hafina Clwyd

• Beth yw eich gwaith?
Awdur a chyfieithydd

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Athrawes yn Llundain 1957-79
Golygydd Y Faner 1986-92
Ysgrifenyddes yn Nhy'r Cyffredin 1969-70

0 ble’r ydych chi’n dod?
Ganwyd yng Ngwyddelwern ger Corwen. Symud i fferm ar lawr Dyffryn Clwyd yn 1953.

• Lle’r ydych chi¹n byw yn awr?
Tafwys, Erw Goch, Rhuthun.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do, yn FAWR iawn. Yn gyntaf yn ysgol y pentre, Gwyddelwern. Wedyn Ysgol Ramadeg y Merched yn Y Bala cyn symud i Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun yn 1953 ac yna i'r Coleg Normal ym Mangor lle cefais amser bythgofiadwy.

• Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano.
Enw fy llyfr diweddaraf yw Pobol Sy'n Cyfri ac mae wedi deillio allan o fy niddordeb mawr mewn achau a hanes lleol. Yn y gyfrol hon yr wyf wedi edrych ar Gyfrifiadau 1881 ac yn 1891 ac ar wasg y cyfnod o fewn y 29 plwy sydd yn nalgylch Y Bedol, papur bro Rhuthun a'r cylch, ac olrhain hanes y teuluoedd.

• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Shwrwd, ysgrifau; Clychau yn y Glaw, ysgrifau; Defaid yn Chwerthin, ysgrifau; Perfedd Hen Nain Llewelyn, erthyglau; Cwis a Phôs; Buwch ar y Lein, dyddiaduron; Merch Morfydd, hunangofiant; Clust y Wenci, erthyglau; Golygu Welsh Family History, A Guide to Research.

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Luned Bengoch gan Elizabeth Watkin Jones

• A fyddwch yn edrych arno’n awr?

Byddaf, yn achlysurol ac yn dal i deimlo'r wefr gyntaf honno pan oeddwn yn wyth oed.

• Pwy yw eich hoff awdur?
Yn Gymraeg - Islwyn Ffowc Elis.
Yn Saesneg - Antonia Fraser a Ruth Rendell.

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

Cofio edmygu erthyglau Katherine Whitehorn yn y wasg Saesneg. Hefyd ysgrifau disglair Bertrand Russell. Yn ogystal, wrth gwrs, â phobl fel T. H. Parry-Williams a Y Byw Sy'n Cysgu gan Kate Roberts.

Pwy yw eich hoff fardd?
T H Parry-Williams oherwydd ei symlrwydd a'i gefnder, R. Williams Parry, am ei ddefnydd o eiriau.

• Pa un yw eich hoff gerdd?
Mae Hiraeth yn y Môr gan Williams Parry.

• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Melfed yr haf ar dafod - llinell gyntaf englyn Saunders Lewis i'r Eirin Gwlanog.

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: Lawrence of Arabia. Rhaglen deledu: Fifteen to One

• Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad: Luned Bengoch.
Cas gymeriad: Robin y Sowldiwr

• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Hysbys y dengys dyn o ba radd y bo'i wreiddyn.
Hefyd, dywediad Emrys ap Iwan: "Os lleddir y Gymraeg, fe'i lleddir yn nhy ei chyfeillion."

• Pa un yw eich hoff air?
Cathod.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Medru creu cartwnau.

• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Triw. Ffraeth. Blonegog.

• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Llond trol o wendidau. Methu dioddef ffyliaid. Dim amynedd â blerwch - meddwl na phersonol. Methu colli pwysau ar ôl rhoi'r gorau i ysmygu. Rhy nerfus i ddysgu gyrru car. Trafferth i godi yn y bore.

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Edmygu Sidney Silverman, yr aelod seneddol a frwydrodd mor galed i ddileu'r gosb eithaf yn y pumdegau.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Bod ar y daith drwy Gymru yn 1188 yng Nghwmni Gerallt Gymro.

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Buaswn yn hoffi gofyn i Harri'r seithfed pam na fyddai wedi sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei gwneud yn iaith swyddogol drwy Gymru a Lloegr dan y Ddeddf Uno!

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y daith i ben Moel Famau. Nid yn unig y mae'n ymarfer da i'r coesau a'r ysgyfaint ond hefyd mae'r olygfa o'r copa yn wefreiddiol.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Unrhyw bryd o fwyd Eidalaidd. Hefyd, eog mwg a siampên ar fore Nadolig - er bod y ddefod wedi darfod er pan gollais f'annwyl briod.

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Mwynhau croeseiriau'n fawr. Olrhain hanes teulu a hanes lleol. Fy nghathod. Darllen dibendraw. Bwyta allan mewn cwmni da.

Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd

• Pa liw yw eich byd?
Piws.

• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
"Nid yw'r mwyafrif bob amser yn gywir."

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes. Yr wyf yn golygu fy nyddiaduron 1990-2000.

• Beth fyddai’r frawddeg agoriadol delfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Trannoeth i Hafina ennill y loteri.....


i ddarllen adolygiad o Pobol sy'n Cyfri

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ±«Óãtv Cymru'r Byd






About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy